Asesu effeithiau ar ansawdd aer fel rhan o’ch cais cynllunio
Mae gan effeithiau ar ansawdd aer o ddatblygiadau arfaethedig, neu sy’n gysylltiedig â datblygiadau arfaethedig, y potensial i niweidio nodweddion pwysig safleoedd gwarchodedig.
Mae’r cyngor hwn yn nodi pryd rydym yn disgwyl i chi ystyried effeithiau posibl ar safleoedd gwarchodedig fel rhan o’ch cais cynllunio, a pha wybodaeth ategol y mae ei hangen.
Mae safleoedd gwarchodedig yn cynnwys:
- Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA)
- Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig (AGA)
- Safleoedd Ramsar
- Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA)
- Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol
- Parthau Cadwraeth Morol
Pryd i ystyried effeithiau posibl ar ansawdd aer o ran safleoedd gwarchodedig
Datblygiad amaethyddol
Effeithiau ar ansawdd aer o ganlyniad i gynnydd mewn symudiadau traffig
- Mae yna safleoedd gwarchodedig o fewn 200 metr i ymyl ffordd, lle bydd eich datblygiad arfaethedig yn achosi traffig ychwanegol, ac;
- Mae’r cynnydd yn y llif traffig dyddiol cyfartalog blynyddol sy’n deillio o’r datblygiad hwn (naill ai ar ben ei hun neu mewn cyfuniad â chynlluniau neu brosiectau eraill) yn fwy na 1,000 o gerbydau gwaith ysgafn neu 200 o gerbydau gwaith trwm.
Effeithiau ar ansawdd aer o ganlyniad i weithgareddau sy’n allyrru llwch
-
50 metr o ffin safle’r cais, neu;
-
50 metr o’r llwybr(au) a ddefnyddir gan gerbydau adeiladu ar y briffordd gyhoeddus, o fewn radiws o 500 metr o fynedfa / mynedfeydd safle’r cais, a / neu;
Os yw eich datblygiad arfaethedig yn bwriadu cynnal gwaith mwyngloddio, ac os oes safleoedd gwarchodedig o fewn:
-
250 metr o safle’r cais yn achos safleoedd mwynau craig feddal (e.e. tywod a graean), a;
-
400 metr o ffin safle’r cais ar gyfer safleoedd mwynau craig galed (e.e. gwenithfaen).
Effeithiau ar ansawdd aer yn sgil gwaith gosod
Os yw eich datblygiad arfaethedig yn cynnwys gwaith gosod ac yn dod o fewn y pellteroedd sgrinio perthnasol, mae gan allyriadau i'r awyr y potensial i effeithio ar safleoedd gwarchodedig. Mewn achosion o’r fath, dylai eich cais cynllunio gael ei ategu gan Asesiad Ansawdd Aer. Os na fyddwch yn cynnal Asesiad Ansawdd Aer, efallai y byddwn yn gwrthwynebu eich cais cynllunio.
Pellteroedd sgrinio safonol
Gwiriwch a oes unrhyw un o'r canlynol o fewn 10km i safle eich cais:
- Ardaloedd Cadwraeth Arbennig
- Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig
- Safleoedd Ramsar
Gwiriwch a oes unrhyw un o'r canlynol o fewn 2km i safle eich cais:
- Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig
- Parthau Cadwraeth Morol
- Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol
Eithriadau ac addasiadau
Defnyddiwch y canlynol lle bo'n berthnasol:
- Defnyddiwch bellter sgrinio o 15 km ar gyfer pob safle dynodedig lle mae eich datblygiad arfaethedig yn cynnwys:
- Gwaith hylosgi nwy naturiol >500 MW (th)
- Gwaith hylosgi tanwydd sylffwraidd >50 MW (th)
- Defnyddiwch bellter sgrinio o 0.5 km ar gyfer pob safle dynodedig lle mai 0.5 i <1 yw’r MW (th) o'r datblygiad arfaethedig wrth ddefnyddio tanwydd nad yw'n sylffwraidd, a phellter sgrinio o 1 km pan ddefnyddir tanwydd sylffwraidd.
- Nid oes angen sgrinio safleoedd dynodedig lle mai <0.5 yw’r MW (th) o'ch datblygiad arfaethedig, oni bai bod y datblygiad wedi'i leoli o fewn ffin safle dynodedig.
- Lle gwyddys y bydd angen trwydded Gwaith Hylosgi Canolig, dylech ddefnyddio'r pellteroedd sgrinio perthnasol a nodir yng nghanllawiau Gweithfeydd Hylosgi Canolig CNC. Lle nad yw'n glir a fydd angen trwydded Gwaith Hylosgi Canolig, dylech fabwysiadu'r pellteroedd sgrinio safonol uchod.
Noder, lle nad yw canllawiau Gweithfeydd Hylosgi Canolig CNC yn cynnwys pellteroedd sgrinio ar gyfer Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol, dylid defnyddio pellteroedd sgrinio ar gyfer Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yn lle.
Beth i’w gynnwys yn eich Asesiad Ansawdd Aer
Ar ôl nodi unrhyw safleoedd gwarchodedig, bydd angen i chi baratoi Asesiad Ansawdd Aer o ran yr effeithiau posibl i ategu’ch cais cynllunio er mwyn ystyried cynnydd mewn symudiadau traffig ac unrhyw waith gosod.
Dylai eich asesiad nodi’r lefelau critigol sy’n berthnasol i’r safle a’r llwythi critigol sy’n berthnasol i’r safle, a nodweddion cymwys safleoedd gwarchodedig o fewn y pellteroedd sgrinio a nodir yn y tabl uchod.
Os nad oes gwybodaeth ar gael ar y System Gwybodaeth Llygredd Aer ar gyfer y safle gwarchodedig a nodwyd, dylech ddefnyddio’r trothwyon ar gyfer lefelau critigol (CLe) a amlinellir yn yr asesiad risg ar gyfer allyriadau i’r aer ar gyfer eich trwydded amgylcheddol ar GOV.UK, yn benodol yr adran o’r enw ‘Screening for protected conservation areas’.
Er mwyn canfod a allai eich datblygiad arfaethedig gael effaith arwyddocaol ar safle gwarchodedig, rhaid i chi ystyried ei gyfraniad i’r broses. Nid oes angen asesiad pellach o’r effeithiau ar ansawdd aer os yw’r canlynol yn wir:
- Mae cyfraniad eich datblygiad arfaethedig (naill ai ar ben ei hun neu mewn cyfuniad â chynlluniau neu brosiectau eraill) i’r broses yn <1% o lefel critigol a llwyth critigol y safle gwarchodedig (gellir sgrinio hyn fel cyfraniad anarwyddocaol).
Fodd bynnag, mae angen asesiad pellach o effeithiau ansawdd aer os yw’r canlynol yn wir:
- Mae cyfraniad eich datblygiad arfaethedig (naill ai ar ben ei hun neu mewn cyfuniad â chynlluniau neu brosiectau eraill) i’r broses yn >1% o lefel critigol a / neu lwyth critigol y safle gwarchodedig.
Pan fydd cyfraniad eich datblygiad arfaethedig i’r broses yn >1% o lefel critigol a / neu lwyth critigol y safle gwarchodedig, dylai cam nesaf eich asesiad gyfrifo’r Crynodiad Amgylcheddol a Ragwelir. Crynodiad Amgylcheddol a Ragwelir yw cyfraniad eich datblygiad arfaethedig i’r broses ynghyd â lefel gefndirol bresennol llygrydd sydd ar y safle gwarchodedig ar hyn o bryd.
Dylech gyfeirio at asesiad o risg allyriadau aer ar gyfer eich trwydded amgylcheddol i gael canllawiau ar asesu crynodiad amgylcheddol a ragwelir, a’r camau nesaf i’w cymryd ar gyfer unrhyw grynodiadau amgylcheddol a ragwelir nad ydynt wedi’u sgrinio allan fel rhai dibwys.
Ar ôl cyfrifo’r Crynodiad Amgylcheddol a Ragwelir, os ydych chi wedi penderfynu bod gan eich datblygiad arfaethedig y potensial i achosi ‘Effaith Arwyddocaol Debygol’ ar safle gwarchodedig, mae angen asesiad pellach.
Lle bo’r Crynodiad Amgylcheddol a Ragwelir yn uwch na’r meini prawf asesu perthnasol ac nad yw’r Cyfraniad i’r Broses yn ddibwys, bydd angen i chi gynnal asesiad pellach o effeithiau posibl a / neu gynnig mesurau lliniaru, er mwyn sicrhau na fydd unrhyw effeithiau niweidiol.
Dylid hefyd ystyried unrhyw weithgareddau sy’n allyrru llwch drwy lunio Asesiad Risg o Effaith Llwch a Chynllun Rheoli Llwch neu Gynllun Rheoli Amgylcheddol Adeiladu sy’n cynnwys mesurau priodol ar gyfer atal a lliniaru llwch.
Dylai’r dogfennau hyn asesu’r risg o effaith arwyddocaol ar rywogaethau sensitif a nodweddion cynefinoedd. Gall yr asesiad hwn fod yn ddogfen annibynnol, neu fod wedi’i ymgorffori fel adran neu bennod mewn Asesiad Ansawdd Aer cyffredinol.
Cyngor pellach
Os oes angen rhagor o gyngor arnoch ynghylch effeithiau ar ansawdd aer wrth baratoi eich cais cynllunio, ewch i’n gwasanaeth i ddatblygwyr sy’n cyflwyno sut gallwch gael cyngor gennym cyn cyflwyno eich cais cynllunio i’ch Awdurdod Lleol.
Cysylltwch â ni i wirio a oes angen trwyddedau, cydsyniadau, cymeradwyaethau, neu ganiatadau eraill arnoch. Efallai y codir tâl ar gyfer y gwasanaeth hwn.