Ar gyfer tir halogedig, rôl allweddol Cyfoeth Naturiol Cymru yw cynghori awdurdodau lleol yn ystod y broses gynllunio ar y peryglon i'r amgylchedd dŵr ac i ddiogelu'r amgylchedd dŵr.

Byddwn hefyd yn gweithio gyda datblygwyr, eu hymgynghorwyr a thirfeddianwyr o bwys i ddarparu cyngor cyffredinol a phenodol i'r safle, yn benodol ar faterion dŵr, cyn iddynt ymgeisio am ganiatâd cynllunio neu pan fydd adferiad gwirfoddol yn cael ei gynnig neu ei gynnal.

Beth yw tir halogedig?

Gallai tir halogedig ddeillio o ddefnydd blaenorol ar y safle, neu safle cyfagos, sydd wedi profi gweithgaredd diwydiannol, masnachol neu dirlenwi. Gall tir gael ei halogi gan bethau megis:

  • metelau trwm, fel arsenig, cadmiwm a phlwm
  • olewau a thar
  • sylweddau a pharatoadau cemegol, fel toddyddion
  • nwyon
  • sylweddau ymbelydrol

Gall tir halogedig gael effaith wrthwynebus sylweddol ar iechyd dynol, eiddo, ecosystemau ac ansawdd dŵr (ee afonydd, dŵr daear a llynnoedd) a rhaid ei reoli'n briodol.

Bydd yn rhaid i chi ddelio â'r halogiad naill ai cyn i chi gael caniatâd cynllunio neu fel rhan o'r datblygiad. Hwyrach y byddwch chi hefyd eisiau glanhau'n wirfoddol y safle yr ydych chi'n berchen arno neu'n gyfrifol amdano.

Mae'n bosibl i dir gael ei ddiffinio'n gyfreithiol yn 'dir halogedig' ble y mae sylweddau yn achosi neu y gallant achosi:

  • niwed sylweddol i bobl, eiddo neu rywogaethau a warchodir
  • llygredd sylweddol i ddŵr wyneb (er enghraifft llynnoedd ac afonydd) neu ddŵr daear
  • niwed i bobl o ganlyniad i ymbelydredd

Am ragor o wybodaeth am dir sydd wedi'i ddiffinio'n gyfreithiol fel 'tir halogedig' ewch i Gov.UK a gwefan Llywodraeth Cymru

Canllaw ar ddatblygu tir wedi'i effeithio gan halogiad

Os ydych chi'n datblygu neu'n ceisio adfer safle yn wirfoddol a allai fod wedi'i halogi dylech fod yn gyfarwydd â'r dogfennau canllaw a ganlyn. Maen nhw'n cynnig canllaw arfer da ar ymchwilio i safleoedd halogedig posibl, gan asesu'r peryglon i'r amgylchedd dŵr, a sut i ddelio ag unrhyw halogiad y byddwch chi'n dod ar ei draws.

*Nid yw Cyfoeth Naturiol Cymru wedi mabwysiadu y ‘National Quality Mark Scheme’ ac felly nid yw datganiad sefyllfa J9 o ymagwedd Asiantaeth yr Amgylchedd at ddiogelu dŵr daear yn berthnasol yn Nghymru.

Mae'r dogfennau hyn yn amlinellu'r wybodaeth sy'n ofynnol gan Cyfoeth Naturiol Cymru i asesu'r peryglon i'r amgylchedd dŵr o unrhyw halogiad sy'n bresennol, gan alluogi i ni ddarparu cyngor i'r awdurdodau cynllunio lleol ar ba gamau i'w cymryd.

Cysylltu â ni am ragor o wybodaeth

Os ydych chi'n cynllunio datblygiad newydd neu adferiad gwirfoddol ac angen cyngor manylach gennym ni ar sut i reoli peryglon i'r amgylchedd dŵr o halogiad dŵr, ewch i'n tudalen gwasanaeth cyngor dewisol. Mae'n amlinellu'r gwasanaeth yr ydym yn ei gynnig a faint y byddwn yn ei godi am y cyngor hwn.

Diweddarwyd ddiwethaf