E-Werthiant – Gwerthiant pren ar-lein

e-Werthiant Coed CNC

Os ydych am wneud cynnig am bren yn ystod un o Ddigwyddiadau Gwerthu Pren CNC, yn gyntaf bydd angen i chi gymhwyso fel cwsmer trwy gyflwyno Holiadur Iechyd a Diogelwch (HSQ) a Ffurflen Cymhwyster i Werthu Pren (TSQF).

Anfonwch e-bost at gwerthiant.pren@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk i ofyn am y ffurflenni hyn.

Ar ôl i chi gael eich cymeradwyo fel cwsmer, bydd angen i chi gofrestru ar eWerthiant CNC.

Safonau Llywodraethu Gwerthiant Pren

Cliciwch ar y dolenni canlynol i weld fersiwn wedi’i olygu, a chydag ambell hepgoriad, o’n Safonau Llywodraethu Gwerthiant Pren yn Gymraeg a Saesneg. Y safonau hyn sy’n nodi ein dull o werthu pren o Ystad Goed Llywodraeth Cymru.

Gwerthiannau pren sy'n sefyll

Contract pryniad safonol ar gyfer coed sy'n sefyll yn ôl pwysau (tunnell).  Mae contractau sy'n cael eu gwerthu trwy e-Werthiant Coed yn cynnwys:

  • Crynodeb eitemau arwerthiant a manylion gwerthiannau coed sy'n sefyll, sy'n crynhoi manylion llennyrch, cyfnod y contract a data mesuriad
  • Amodau safle-benodol
  • Lleoliad, cyfyngiad, gweithrediad a mapiau ffyrdd

Gwerthiannau ymyl y ffordd

Mae contractau sy'n cael eu gwerthu trwy e-Werthiant Coed yn cynnwys:

  • Contract Pryniad Safonol o bren crwn yn ôl pwysau wrth ymyl y ffordd – amodau a thelerau'r fanyleb.
  • Bydd y map lleoliad, rheolau diogelwch y safle ac asesiad risg yn parhau i ymddangos ar wahân.
  • Cynigir gwerthiannau wrth ymyl y ffordd o bren crwn bach, a elwir yn sglodion pren, pren mwydion, pyst a pholion, trwy e-Werthiant Coed.

Gwerthiannau Cynnyrch Bach

Daw parseli bach o gynnyrch ar gael o bryd i'w gilydd – caiff y rhain eu gwerthu y tu allan i'r broses werthu arferol. Bydd angen i chi gymhwyso fel cwsmer o hyd er mwyn prynu parseli cynnyrch bach.

Cysylltwch â gwerthiant.pren@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk i weld a oes unrhyw barseli cynnyrch bach ar gael.

Rhaid talu am bob pryniant cyn ei gasglu. Parseli wrth ochr y ffordd yn unig fydd y rhain.

Uchafswm o £500 fesul trafodiad (wedi'i gyfyngu i £1000 y flwyddyn /50m3 o or-frisgl y flwyddyn).

Amodau gwneud cynnig

Ni fydd CNC yn derbyn cynigion amodol ar lotiau e-Werthiant Coed.

Clefydon coed yn y DU a Chymru

Nodyn pwysig:  Yn dilyn darganfod Phytophthora pluvialis yng Nghymru, efallai y bydd cyfyngiadau cyfreithiol ar symud pren o ardaloedd penodol o Gymru. Gweler gwefan Llywodraeth Cymru am ragor o wybodaeth. Phytophthora pluvialis | LLYW.CYMRU

Er mwyn cael gwybodaeth am blâu a chlefydau eraill, megis Phytophthora ramorum, Chalara (clefyd yr onnen) a dirywiad derw acíwt sy’n effeithio ar goedwigoedd, gweler ein hadran Iechyd coed a bioddiogelwch

 

Diweddarwyd ddiwethaf