Datganiad a diben

Mae ein gwerthoedd yn adlewyrchu pwy ydym ni. Mae ein polisïau yn ein cynorthwyo i fyw’r gwerthoedd hynny yn y gwaith a wnawn. Mae’r polisi hwn yn ein helpu i ddangos ein hangerdd dros yr amgylchedd, i ofalu am ein gilydd a’r bobl rydym yn gweithio gyda nhw, ac i weithredu gyda phobl Cymru a bod yn falch o’u gwasanaethu.

Mae credyd i gwsmeriaid pren yn gyfleuster a ddarperir gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn ôl ei ddisgresiwn, i ganiatáu i gwsmeriaid pren rheolaidd mewn sefyllfa dda anfon pren yn ddyddiol, a thalu amdano yn unol â’r cyfleusterau credyd. Mae hyn yn galluogi cwsmeriaid i reoli eu llif arian fel bod taliad yn cael ei wneud ar amser, ac mae’n lleihau costau trafodiadau i’r ddau barti. Serch hynny, mae unrhyw gyfleuster credyd yn cyflwyno elfen o risg ariannol i Cyfoeth Naturiol Cymru y mae’n rhaid ei rheoli.

Rhaid i’r Tîm Cymorth Cyllid Trafodiadol, y Tîm Cymorth Busnes a’r Tîm Gwerthiannau Pren chwarae eu rhan gyda’r Timau Gweithrediadau mewn system rheoli credyd effeithiol, sy’n ymgorffori gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol, i brynwyr pren ac i Cyfoeth Naturiol Cymru.

Cydymffurfedd

Rhaid i’r Tîm Cymorth Cyllid Trafodiadol wneud y canlynol:

  • Ymgysylltu’n weithredol â’r cwsmeriaid i reoli statws cyfrif a datrys ymholiadau
  • Gosod, rheoli, adolygu a thynnu terfynau credyd yn ôl
  • Rheoli taliadau sy’n ddyledus
  • Atal masnachu pan fydd y cwsmer yn methu â thalu ar amser
  • Paratoi a dosbarthu bwletin y gwaith anfon dyddiol

Rhaid i’r Tîm Cymorth Busnes wneud y canlynol:

  • Rheoli’r gwaith anfon pren ac anfonebu hunan-filio a datrys problemau o ran y gwaith anfon gyda’r cwsmer.

Rhaid i’r Tîm Gwerthiannau Pren wneud y canlynol:

  • Ymgysylltu â’r Tîm Cymorth Cyllid Trafodiadol a chwsmeriaid i gytuno ar lefelau masnachu a cheisiadau credyd
  • Ystyried y swmp a werthwyd ymlaen i’r cwsmer cyn dyfarnu mwy o gontractau
  • Cynnal ymwybyddiaeth o’r farchnad o sefyllfa’r cwsmer a newidiadau posibl

Rhaid i’r Timau Gweithrediadau sydd ar waith wneud y canlynol:

  • Rheoli contractau gwerthu’r cwsmer i ddyddiadau dechrau a gorffen amserol
  • Hwyluso mynediad, gwaith anfon ac estyniadau amser yn ôl yr angen, er mwyn caniatáu i’r cwsmer gyflawni ei rwymedigaethau
  • Rheoli diogelwch pren

Diben

  • Arwain y gwaith o osod terfynau credyd priodol ar gyfer cwsmeriaid pren i leihau risg ariannol i Cyfoeth Naturiol Cymru, wrth ganiatáu lefel addas a digonol o fasnach i gwsmeriaid.
  • Arwain y gwaith o reoli cyfleusterau credyd yn unol â thelerau contractau gwerthiannau coed.

Cwmpas

Mae’r canllaw hwn yn berthnasol i’r canlynol:

  • Rheolaeth y Tîm Cymorth Busnes o waith anfon at gwsmeriaid a chredyd piblinell yn erbyn taliadau wedi’u clirio. 
  • Rheolaeth y Tîm Gwerthiannau Pren o gydymffurfedd cwsmeriaid â thelerau ac amodau’r contract gwerthiannau pren. 
  • Rheolaeth y Tîm Cymorth Cyllid Trafodiadol o derfynau credyd a thaliadau sy’n ddyledus. 

Gweithdrefn

Trosolwg

  1. Rhaid i gwsmeriaid lenwi ffurflen gais credyd, trwy ofyn am hyn gan y Tîm Cymorth Cyllid Trafodiadol, ar gyfer cyfleuster credyd newydd neu i newid eu cyfleuster presennol, a’i anfon trwy e-bost i flwch post Pren y Tîm Cymorth Cyllid Trafodiadol – Online@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.

    Yna, yn unol â’r ddogfen bolisi hon …

  2. Bydd y Tîm Cymorth Cyllid Trafodiadol yn gwirio bod y cwsmer yn gymwys ac yn gofyn am unrhyw wybodaeth y mae ei hangen i benderfynu ar y cais. Unwaith y bydd gan y Tîm Cymorth Cyllid Trafodiadol yr holl wybodaeth, y nod yw penderfynu ar y cais a hysbysu’r ymgeisydd o fewn chwe wythnos. Serch hynny, gall ceisiadau mwy cymhleth gymryd mwy o amser gan y gallai olygu ceisio cyngor cyfreithiol.

  3. Bydd y Tîm Cymorth Cyllid Trafodiadol yn copïo’r cais i’r Tîm Gwerthiannau Pren. Bydd y Tîm Cymorth Cyllid Trafodiadol yn ystyried yr wybodaeth ariannol a bydd y Tîm Gwerthiannau Pren yn ystyried sefyllfa fasnachu’r cwsmer o ystyried contractau a werthir ymlaen.

  4. Bydd y Tîm Cymorth Cyllid Trafodiadol yn cynnig terfyn credyd ac yn trafod gyda’r Tîm Gwerthiannau Pren i gytuno ar sefyllfa.

  5. Bydd y Tîm Cymorth Cyllid Trafodiadol a’r Tîm Gwerthiannau Pren yn cymhwyso’r penderfyniad yn unol â’r canllawiau hyn.

  6. Bydd y Tîm Cymorth Cyllid Trafodiadol yn monitro, yn rheoli ac yn adolygu pob cyfleuster credyd, gan gysylltu â’r Tîm Gwerthiannau Pren a’r Tîm Cymorth Busnes yn ôl yr angen.

Y prif egwyddorion

Telerau credyd gwerthu pren

Cwsmeriaid sy’n cael eu bilio

Mynegir telerau credyd ar gyfer gwerthu pren yn nhelerau ac amodau’r contract fel:

‘Mae taliad yn ddyledus ar ddiwedd y mis yn dilyn y mis y cyhoeddir yr anfoneb.’

MyNRW sy’n codi anfonebau ar gyfer unrhyw waith anfon pren. Er mwyn rheoli gwerth ‘piblinell’ anfoniadau, rhoddir pwysau amcangyfrifedig o 25 tunnell iddynt nes bod y pwysau gwirioneddol a’r tocyn anfon yn cael eu cofnodi. Nid yw’r hyn sydd o natur piblinell yn cynnwys TAW, a ychwanegir unwaith y cyhoeddir yr anfoneb.

I gwsmeriaid sy’n talu arian parod ymlaen llaw, gwerth pob anfoniad a gofnodir ar y canllaw cyflym yw 30T ynghyd â TAW. Caiff hyn ei ddiweddaru i’r swm gwirioneddol unwaith y bydd y tocyn pwysau wedi’i dderbyn.

Mae’r Tîm Cymorth Cyllid Trafodiadol yn anfon cyfriflenni at gwsmeriaid yn fuan ar ôl diwedd pob mis i ddangos yr holl anfonebau sy’n weddill (pwysau amcangyfrifedig neu wirioneddol) a godwyd gan ymgorffori’r addasiadau credyd neu ddebyd ar gyfer pwysau amcangyfrifedig anfoniadau, wedi’u trosi’n symiau gwirioneddol yn y mis. Rhaid talu balans y gyfriflen ar gyfer pob anfoneb ddyledus. Rhaid gwneud taliadau dyledus yn llawn. Ni chaiff cwsmeriaid atal rhan o daliad dyledus er mwyn cynnal balans credyd ar eu cyfrif.

Enghraifft

Mae’r cwsmer yn anfon 20 llwyth o bren ym mis Mehefin ar delerau credyd. Yna mae data’r gwaith anfon o’r System Gwerthiannau Pren (y Tîm Cymorth Busnes) yn bwydo’n awtomatig i MyNRW (y Tîm Cymorth Cyllid Trafodiadol) sy’n cynhyrchu 20 o anfonebau newydd yn ystod mis Mehefin. Mae’r Tîm Cymorth Cyllid Trafodiadol yn anfon cyfriflen at y cwsmer ar ddechrau mis Gorffennaf sy’n ymgorffori’r anfonebau newydd, unrhyw daliadau a wnaed ym mis Mehefin ac unrhyw addasiadau i bwysau amcangyfrifedig. Rhaid i’r cwsmer dalu’r balans ar y gyfriflen honno erbyn diwedd mis Gorffennaf.

Rhaid gwneud taliadau dyledus yn llawn. Ni chaiff cwsmeriaid atal rhan o daliad sy’n ddyledus i gynnal balans credyd ar eu cyfrif oni bai fod cynllun talu rheolaidd wedi’i gytuno gyda’r cwsmer, a’i fod yn cael ei gyflawni. 

Cwsmeriaid sy’n hunan-filio

Bydd cwsmeriaid sy’n hunan-filio yn e-bostio ffeil CSV o ddata’r gwaith anfon ynghyd â’u hanfoneb hunan-filio bob wythnos i’r Tîm Cymorth Busnes. Bydd pob anfoneb yn cwmpasu un neu lawer o anfoniadau. Bydd y cwsmer yn gwneud taliad yn erbyn anfoneb ei gyflenwr ar ddiwedd y mis canlynol yn unol â threfniadau credyd ar gyfer cwsmeriaid sy’n cael eu bilio. 

Cymhwysedd ar gyfer cyfleuster credyd

Cynigir credyd yn ôl disgresiwn Cyfoeth Naturiol Cymru yn unig. Rhaid ystyried a chynnig pob cais am gredyd mewn ffordd deg a chyfiawn. Nid yw hyn yn golygu bod gwahanol gwsmeriaid yn cael cyfleusterau credyd cyfartal, gan y bydd lefel y credyd a gynigir yn benodol i amgylchiadau pob cwsmer. Fodd bynnag, rhaid i bob cwsmer gael yr un cyfleoedd i wneud cais a chael ei ystyried ar gyfer cyfleusterau credyd, ac mae pob cwsmer i gael ei drin yn gyfartal wrth i Cyfoeth Naturiol Cymru reoli ei gredyd. Mae triniaeth gyfartal yn golygu, er enghraifft, y bydd yn ofynnol i bob cwsmer wneud pob taliad wrth iddo ddod yn ddyledus.

Cwsmeriaid newydd

Bydd gofyn i gwsmeriaid pren newydd fasnachu fel cwsmeriaid arian parod am hyd at 12 mis o fasnachu i gyd o ddyddiad y trafodiad cyntaf, cyn gofyn am derfyn credyd. Bydd y Tîm Cymorth Busnes yn hysbysu pob cwsmer newydd am y broses dalu a’r weithdrefn anfon cyn y cynnydd cyntaf. Gall y Rheolwr Gwerthu Pren a Marchnata, mewn cytundeb â’r Tîm Cymorth Cyllid Trafodiadol, leihau’r cyfnod hwnnw ar unrhyw adeg ac i unrhyw gyfnod byrrach o amser os yw’n fodlon bod gan y cwsmer neu ei gynrychiolydd hanes masnachu hysbys yn y diwydiant eisoes, trwy wybodaeth leol a mewnbwn oddi wrth y Pennaeth Gwerthu a Marchnata. 

Bydd y gwaith o fonitro cwsmeriaid credyd newydd gan y Tîm Cymorth Cyllid Trafodiadol yn drylwyr a bydd unrhyw daliad a fethwyd neu unrhyw gyfyngiad sy’n uwch na’r terfyn am unrhyw reswm o gwbl, yn arwain at atal credyd a masnachu hyd nes y bydd yr holl daliadau dyledus, neu unrhyw daliadau interim ychwanegol, wedi’u clirio.

Cwsmeriaid segur

Rhagdybiaeth i leihau neu ddileu cyfleuster credyd gan gwsmeriaid pren nad ydynt yn gosod cynigion gweithredol am gyfnod o bedwar e-werthiant yn olynol.

Gweithred gwarant

Yn lle masnachu drwy ddefnyddio arian parod, gall cwsmer newydd (neu gwsmer y mae ei statws cyfreithiol wedi newid, er enghraifft, trwy uno corfforaethol neu brynu allan) gynnig gweithred gwarant gan riant-gwmni mwy o faint i roi sicrwydd ar gyfer cyfleuster credyd y cwsmer y gofynnwyd amdano. Rhaid i Dîm Cyfreithiol Cyfoeth Naturiol Cymru gytuno ar hyn a’i ysgrifennu. 

Bydd terfyn credyd y cwsmer yn cael ei osod ar 90% o’r terfyn credyd gofynnol, a bydd anfoniadau’n cael eu hatal os eir dros hynny, nes bod taliadau dyledus neu unrhyw daliadau interim wedi’u clirio. 

Rhaid ail-gadarnhau dilysrwydd gweithred gwarant trwy lythyr gyda’r rhiant-gwmni o bryd i’w gilydd, yn unol ag adolygiadau arferol o gyfleusterau credyd. Rhaid i’r cwsmer drefnu’r cadarnhad hwn a thalu unrhyw gostau cysylltiedig.

Sicrwydd banc

Bydd credyd y cwsmer yn cael ei osod ar 75% o ffigur y sicrwydd banc, a bydd anfoniadau’n cael eu hatal os eir dros hynny, nes bod taliadau dyledus neu unrhyw daliadau interim wedi’u clirio.

Rhaid i’r cwsmer wneud cais am derfyn credyd Cyfoeth Naturiol Cymru a chael caniatâd o fewn 24 mis, wedi’i ategu gan ei gofnod masnachu a chyfrifon blynyddol. Os caniateir cyfleuster credyd, a gall fod yn llai na ffigur y sicrwydd banc, mae’r cyfleuster credyd yn disodli’r sicrwydd banc, na ellir dibynnu arno mwyach. Os gwrthodir cyfleuster credyd, rhaid i’r cwsmer ddarparu sicrwydd banc newydd neu bydd yn dychwelyd i fasnachu fel cwsmer arian parod yn unig.

Os na ddarperir sicrwydd banc, ni fydd y cyfleuster credyd yn cael ei ddyfarnu.

Terfynau credyd

Rhoddir terfynau credyd yn ôl disgresiwn Cyfoeth Naturiol Cymru ac maent ar waith i leihau risg fasnachol Cyfoeth Naturiol Cymru. Dim ond fel cwsmer arian parod sy’n gwneud taliadau cyn anfon y gall cwsmeriaid nad ydynt am fasnachu gyda Cyfoeth Naturiol Cymru ar y telerau credyd a gynigir fasnachu. Rhaid bod y rhagdaliadau hyn wedi clirio cyfrif banc Cyfoeth Naturiol Cymru cyn y gall gwaith anfon barhau.

Ystyried lefelau masnachu cwsmeriaid gyda Cyfoeth Naturiol Cymru

Yn gyffredinol, ac ar yr amod nad oes unrhyw risgiau sylweddol wedi’u nodi, dylai terfyn credyd sy’n gweithio ar gyfer cwsmeriaid pren sy’n cael bil geisio darparu ar gyfer rhwng wyth a 10 wythnos o gapasiti masnachu arferol. Mae hyn er mwyn caniatáu taliad ar delerau’r contract gwerthu pren, ynghyd â chyfraniad i ganiatáu ar gyfer parhad, er enghraifft i ganiatáu rhywfaint o fasnachu yn ystod datrys unrhyw broblemau o ran gwaith anfon yn rheolaidd.

Mae terfynau credyd sy’n fwy na’r hyn sy’n ofynnol ar gyfer lefel fasnachu’r cwsmer yn risg uwch i Cyfoeth Naturiol Cymru, a dylid eu rheoli i lawr i lefel fwy derbyniol pryd bynnag y caiff y terfyn ei adolygu (gweler yr adran ‘Adolygu terfynau credyd’ isod).

Ystyried gwybodaeth ariannol

Mae statws credyd a gynhyrchir gan asiantaethau credyd fel Experian yn rhan bwysig o’r darlun cyfan ond efallai nad ydynt o reidrwydd yn adlewyrchu amodau’r farchnad ar gyfer y fasnach mewn pren crwn lle mae’r opsiynau cyflenwi (tyfwyr) yn gyfyngedig, a lle mae cwsmeriaid mwy o faint yn dibynnu’n drwm ar gyflenwad cyson gan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Gellir rhoi blaenoriaeth i weithredoedd gwarant a/neu sicrwydd banc a gynigir gan y cwsmer yn yr ystyriaeth hon o wybodaeth ariannol. Gweler yr adran ‘Cymhwysedd’.

Pennu terfyn credyd priodol

Dim ond fel dangosydd o ddisgwyliadau’r cwsmer y dylid trin y terfyn credyd y mae’r cwsmer wedi gofyn amdano yn hytrach na ffigur i’w gytuno neu beidio. Efallai y bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn penderfynu cynnig terfyn credyd is yn lle gwrthod y cais yn llwyr.

Bydd y Tîm Cymorth Cyllid Trafodiadol yn pennu terfyn credyd priodol ar gyfer y cwsmer mewn trafodaeth â’r Rheolwr Gwerthu a Marchnata Pren, gan ystyried y farn ariannol ynghyd â’r lefelau masnachu angenrheidiol ac unrhyw wybodaeth am y farchnad, tueddiadau prisiau neu wybodaeth arall y gallai’r Rheolwr Gwerthu a Marchnata Pren fod yn ymwybodol ohoni.

Bydd y rhesymeg dros unrhyw benderfyniad yn cael ei chofnodi a’i chadw gan y Tîm Cymorth Cyllid Trafodiadol gyda ffeiliau credyd y cwsmer. Bydd y Tîm Cymorth Cyllid Trafodiadol hefyd yn ystyried a oes angen mathau eraill o sicrwydd.

Bydd polisi Rheoli ein Harian Cyfoeth Naturiol Cymru yn pennu pwy fydd yn cymeradwyo newidiadau i derfynau credyd.

Cymhwyso’r terfyn credyd

Unwaith y bydd y cais am gredyd wedi’i gytuno, bydd y Tîm Cymorth Cyllid Trafodiadol yn hysbysu’r cwsmer o’r terfyn credyd y cytunwyd arno mewn neges e-bost. Bydd y Tîm Cymorth Cyllid Trafodiadol yn rheoli’r cyfrif credyd ac yn bwynt cyswllt cwsmeriaid ar gyfer materion credyd a thalu.

Os bydd y terfyn credyd y cytunwyd arno yn darparu ar gyfer lefel cais y cwsmer, bydd y Tîm Cymorth Cyllid Trafodiadol yn delio â’r cwsmer (a’r Tîm Gwerthiannau Pren a’r Tîm Cymorth Busnes yn ôl yr angen) i sefydlu’r cyfleuster y gofynnwyd amdano a’i reoli.

Os nad yw’r terfyn credyd y cytunwyd arno yn cynnwys y lefel y gofynnwyd amdani, bydd y Tîm Cymorth Cyllid Trafodiadol yn trafod â’r cwsmer yn gyntaf. Unwaith y bydd terfyn gostyngol neu ffordd arall ymlaen wedi’i chynnig (e.e. lefel fasnachu is neu daliadau interim i gynnwys terfyn credyd is), bydd y Tîm Cymorth Cyllid Trafodiadol yn hysbysu’r Tîm Gwerthiannau Pren ac yn delio â’r cwsmer (a’r Tîm Gwerthiannau Pren a’r Tîm Cymorth Busnes yn ôl yr angen) i sefydlu’r cyfleuster hwnnw a’i reoli.

Cynlluniau talu

Gellir defnyddio cynlluniau talu i ganiatáu gwerthu parseli pren newydd i gwsmer sy’n masnachu’n agos at ei derfyn credyd, neu i gwsmer reoli lefel fasnachu sy’n uwch na’r hyn a ganiateir gan ei derfyn credyd. 

Fel rhan o’u rheolaeth arferol o gwsmeriaid credyd, efallai y bydd y Tîm Cymorth Cyllid Trafodiadol yn ei gwneud yn ofynnol i gwsmer wneud taliadau interim rheolaidd (er enghraifft, taliadau pob pythefnos) i ganiatáu lefelau masnachu dros dro a fyddai fel arall yn achosi i fasnachu ar sail piblinell fynd y tu hwnt i’w derfyn credyd. Yn ddelfrydol, dylai cynllun talu hefyd geisio creu lle ychwanegol i ganiatáu masnachu nes bydd y taliad nesaf yn ddyledus.

Gall y cwsmer hefyd ofyn am gynllun talu i’w helpu i reoli ei lefel fasnachu. 

Bydd y Tîm Cymorth Cyllid Trafodiadol yn penderfynu ar unrhyw gynllun talu ychwanegol ac yn ei rheoli, fel sy’n briodol, ar gyfer y cwsmer unigol. Dylid hysbysu’r Tîm Gwerthiannau Pren a’r Tîm Cymorth Busnes os yw cynllun talu yn cael ei ystyried ar gyfer unrhyw gwsmer. Os bydd y cwsmer yn penderfynu peidio â gwneud hyn pan ofynnir iddo gan y Tîm Cymorth Cyllid Trafodiadol, mae’r terfyn credyd yn gadarn a bydd anfoniadau’n cael eu hatal bob tro y cyrhaeddir y terfyn credyd nes bod yr holl daliadau sy’n ddyledus, neu unrhyw daliadau interim ychwanegol, wedi’u clirio.

Monitro credyd yn ddyddiol

Bydd y Tîm Cymorth Cyllid Trafodiadol yn paratoi’r bwletin credyd dyddiol sy’n rhestru’r sefyllfa bresennol ar gyfer pob cwsmer, ac yn ei anfon drwy e-bost at y rhestr ddosbarthu y cytunwyd arni. Unwaith y flwyddyn bydd y Tîm Cymorth Cyllid Trafodiadol yn gwirio bod rhestr y sawl sy’n cael y bwletin credyd yn briodol ac yn gywir.

Bydd y Tîm Cymorth Cyllid Trafodiadol yn monitro defnydd credyd yn barhaus. Os yw’r gyfradd dalu dros fis yn cyfateb i’r gyfradd credyd a ddefnyddir dros fis, mae masnachu’n barhaus o amgylch terfyn credyd y cwsmer yn dderbyniol.

Dylai unrhyw fethiant o ran telerau’r taliad sbarduno atal anfoniadau pellach nes bod taliad yn cael ei wneud. 

Pob cwsmer

Cam 1: Mae’r Tîm Cymorth Cyllid Trafodiadol yn anfon neges e-bost at y cwsmeriaid sy’n mynd dros 70% o’u terfyn y diwrnod hwnnw yn rhoi gwybod am y sefyllfa.

Cam 2: Mae’r Tîm Cymorth Cyllid Trafodiadol yn anfon neges e-bost at y cwsmeriaid sy’n mynd dros 85% o’u terfyn y diwrnod hwnnw yn eu cynghori i dalu swm i’w cyfrif ar unwaith.

Cam 3: Dylid cysylltu ar unwaith â chwsmeriaid nad ydynt wedi talu swm y gofynnwyd amdano y diwrnod cynt, ac sydd felly’n mynd dros eu terfyn credyd, i ganfod achos rhesymol megis:

  • Bod y cwsmer yn aros am gredyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Caniateir diwrnod ychwanegol cyn cymryd camau pellach.
  • Cydnabyddir efallai na fydd cwsmeriaid bob amser yn llifo drwy’r tri cham yn eu trefn.

Os na chanfyddir achos rhesymol, neu os nad yw’r diwrnod ychwanegol i unioni’r sefyllfa yn arwain at ostyngiad mewn credyd islaw’r terfyn, dylid atal y cwsmer ar unwaith rhag anfon mwy o bren (Gweler yr adran ‘Atal anfoniadau’ isod).

Cwsmeriaid sy’n hunan-filio

Gall y gyfradd anfon amrywio llawer yn ystod wythnos waith, yn dibynnu ar ffactorau fel tywydd, mynediad, a gofynion rheoli contractau. Gall gwerth credyd piblinell cwsmer sy’n hunan-filio fod yn fwy na’i derfyn dros dro hyd nes y telir yr anfoneb nesaf (yn wythnosol fel arfer).Anfonir anfonebau hunan-filio yn wythnosol. Nid yw taliad o reidrwydd yn cael ei wneud yn wythnosol.

Bydd y Tîm Cymorth Cyllid Trafodiadol yn monitro holl werth credyd piblinell hunan-filiwr i wirio’r amrywiadau masnachu uniongyrchol hyn. Lle mae credyd piblinell yn uchel dros dro, mae hyd at 110% o’r terfyn credyd yn dderbyniol am bum diwrnod busnes (un wythnos) neu lai. Bydd mynd y tu hwnt i’r terfynau hyn am fwy nag wythnos yn sbarduno ataliad ar anfoniadau nes bod taliad ychwanegol neu’r taliad dyledus nesaf yn cael ei wneud.

Atal anfoniadau

At ddibenion rheoli credyd, bydd y Tîm Cymorth Cyllid Trafodiadol yn rheoli’r broses hon ac yn penderfynu pryd y bydd cwsmer yn cael ei roi ‘ar stop’. Bydd y Tîm Cymorth Cyllid Trafodiadol yn hysbysu’r Tîm Cymorth Busnes drwy e-bost er mwyn atal anfon rhagor o hysbysiadau gwybodaeth ymlaen llaw at y cwsmer. O ystyried y gall gwerth credyd piblinell adeiladu’n gyflym, rhaid gwneud hyn yn gyflym er mwyn rhoi cyfle i’r cwsmer unioni ei gyfrif ar unwaith.

Hysbysir y cwsmeriaid am y bwriad i atal anfoniadau oherwydd eu bod yn mynd dros derfynau credyd neu ddim yn talu symiau dyledus, cyn gweithredu’r camau ‘atal ar unwaith’. Amlinellir y ‘rhybudd teg’ hwn, a’r broses tri cham, yn yr adran ‘Monitro credyd’ uchod, ac maent yn berthnasol i bob cwsmer.

Dylid anrhydeddu anfoniadau y gofynnwyd amdanynt eisoes ar yr adeg y caiff y cwsmer ei atal.

Adolygu terfynau credyd

Bydd pob terfyn credyd yn cael ei adolygu o leiaf unwaith bob 12 mis gan y Tîm Cymorth Cyllid Trafodiadol. Defnyddir rota i gynnal yr adolygiadau drwy gydol y flwyddyn yn hytrach na’r cyfan ar yr un pryd. Disgwylir i gwsmeriaid roi gwybod i ni am newid i’w statws masnachu trwy adolygu eu “Ffurflen Holiadur Gwerthu Pren” sy’n rhagofyniad ar gyfer gosod cynnig mewn e-werthiant. Mae hyn yn cynnwys uno, meddiannu, dyfarniadau Llys Sirol, trefniadau unigol gwirfoddol, gorchymyn rhyddhau o ddyled neu gyhuddiadau a ffeiliwyd yn erbyn busnes. Bydd unrhyw newid sy’n hysbys neu a amheuir yn statws masnachu cwsmer sy’n dynodi risg ariannol bosibl (gan gynnwys gwybodaeth fusnes gan weithrediadau coedwigaeth neu staff gwerthu pren), hefyd yn sbarduno adolygiad credyd dros dro.

Os yw’r Tîm Cymorth Cyllid Trafodiadol, ar yr adeg y disgwylir adolygiad, wedi cynnal adolygiad fel yr uchod, wedi ystyried cais cwsmer i gynyddu terfyn credyd, neu wedi ystyried ymyriad fel cynllun talu yn y tri mis blaenorol, mae hynny’n cyfrif fel adolygiad a gellir gohirio’r adolygiad tan y flwyddyn nesaf.

Bydd adolygiad credyd yn dechrau gyda’r Tîm Cymorth Cyllid Trafodiadol yn hysbysu’r cwsmer trwy e-bost ac yn gofyn am unrhyw newidiadau i’r ffurflen gais credyd wreiddiol. Bydd yr adolygiad wedyn yn dilyn yr adran Terfynau Credyd uchod. Dylid gofyn am wybodaeth ychwanegol os oes angen (gweler yr adran ‘Sicrwydd banc’ uchod). Lle nad oes unrhyw newidiadau wedi’u datgan a dim arwydd o bryderon o fasnachu yn y gorffennol, gellir lleihau Cam 3 i wiriad Experian a chyfriflen elw a cholled y llynedd.

Os na ddefnyddiwyd terfyn credyd presennol yn y 12 mis diwethaf mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cadw’r hawl i ddirymu’r terfyn credyd. (Gweler yr adran ‘Cwsmeriaid segur’)

Rheoli gostyngiadau terfyn credyd

Pan fydd terfyn credyd yn cael ei ostwng yn dilyn adolygiad, rhaid i’r Tîm Cymorth Cyllid Trafodiadol hysbysu’r Tîm Gwerthiannau Pren a’r Tîm Cymorth Busnes a hysbysu’r cwsmer yn ysgrifenedig. Rhaid i’r Tîm Cymorth Cyllid Trafodiadol gynnig amserlen resymol i gyflawni’r gostyngiad heb achosi newid sylweddol yng ngallu masnachu / llif arian y cwsmer.

Os yw terfyn credyd i gael ei ddileu’n llwyr, bydd y Tîm Cymorth Cyllid Trafodiadol yn hysbysu’r Tîm Gwerthiannau Pren yn gyntaf, cyn hysbysu’r cwsmer.

Gall y cwsmer gynnig amserlen arall i’w alluogi i wneud unrhyw drefniadau angenrheidiol, a bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn ystyried sefyllfa’r cwsmer, ar yr amod y gellir cwblhau’r cyfnod pontio o fewn amserlen dderbyniol.

Contractau gwerthu pren newydd

Tua chwe wythnos cyn pob e-werthiant pren cenedlaethol, bydd y Tîm Gwerthiannau Pren a’r Tîm Cymorth Cyllid Trafodiadol yn cyfarfod yn ffurfiol i drafod a oes unrhyw gwsmeriaid yn pryderu ynghylch eu defnydd o gredyd neu eu taliadau, ac yn rhoi baner goch ariannol os oes angen. Gallai arwyddion o bryder gynnwys y canlynol:

  • Masnachu’n gyson agos at eu terfyn credyd yn ystod y tri mis diwethaf
  • Methu â gwneud taliad llawn yn y chwe mis diwethaf
  • Cynllun talu ar waith i reoli terfyn credyd
  • Cais wedi’i wneud i gynyddu’r terfyn credyd

Bydd y Tîm Cymorth Cyllid Trafodiadol, Arweinydd Tîm Cofrestr Gweinyddu, neu gynrychiolydd, yn cael eu gwahodd i bob cyfarfod dyfarnu e-werthiant i gynnig cyngor ar y diwrnod. Os yw cynnig buddugol gan gwsmer sydd â baner goch ariannol, bydd y cynnig hwnnw’n aros i gael ei ystyried nes bod y Tîm Gwerthiannau Pren yn trafod y goblygiadau posibl gyda’r cwsmer. Yn dilyn y drafodaeth honno, bydd y Rheolwr Marchnata Gwerthu Pren yn penderfynu a ddylid argymell gwerthu unrhyw rai o’r lotiau i’r cwsmer hwnnw. Bydd pob argymhelliad a phenderfyniad yn cael eu cofnodi gan y Tîm Gwerthiannau Pren fel rhan o’r dogfennau gwerthu.

Gwybodaeth berthnasol arall

Atodlen 5 y contract gwerthu – gweithdrefn anfon (gweler cytundebau unigol)

Polisi Adennill Dyledion (Saesneg yn unig)

Cydraddoldeb ac amrywiaeth

Rydym wedi ymrwymo i ddiwylliant o gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Ein nod yw sicrhau nad oes unrhyw un yn cael triniaeth lai ffafriol ar sail ei oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, bod yn briod neu mewn partneriaeth sifil, beichiogrwydd, hil, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, neu grefydd, cred neu ddim cred.

Cysylltu

Mae’r weithdrefn hon a gweithdrefnau cysylltiedig yn eiddo i’r Pennaeth Cyllid ac yn cael eu rheoli gan y Gwasanaethau Cyllid Trafodiadol. Fe’i datblygir mewn partneriaeth â’r Tîm Gwerthiannau Pren a’r Tîm Cefnogi Busnes.

Cymeradwyaeth

Cymeradwywyd gan: Rob Bell, Pennaeth Cyllid

Fersiwn

Cyhoeddwyd gyntaf: 1 Hydref 2021

Adolygwyd: 22 Mai 2023

Ail adolygiad: 1 Gorffennaf 2025

Bydd y polisi hwn yn berthnasol fel polisi swyddogaethol ac fe’i hystyrir fel polisi cydymffurfio.

Am ragor o fanylion am y diffiniadau hyn, categorïau polisïau a goblygiadau diffyg cydymffurfio, gweler yr atodlen awdurdod dirprwyedig (Saesneg yn unig).

I’w adolygu gyntaf ymhen 12 mis, ac yna bob dwy flynedd. Gwneir diwygiadau yn gynharach lle bydd newid perthnasol i ddeddfwriaeth neu i anghenion busnes, ac yn sgil trafodaethau â’r undebau llafur cynrychiadol.

Diweddarwyd ddiwethaf