Cyfleusterau deunyddiau - gwirio, hysbysu, samplu ac adrodd
Os ydych yn gweithredu cyfleuster deunyddiau hysbysedig yng Nghymru, rhaid i chi:
- roi gwybod i ni am eich manylion hunanasesiad
- talu ffi i ni
- samplu gwastraff sy'n dod i mewn ac sy’n mynd allan
- dadansoddi cyfansoddiad samplau
- adrodd ar ganlyniadau i ni bob chwarter
Cwblhau hunanasesiad
Rhaid i chi wirio a yw eich cyfleuster gwastraff yn bodloni'r diffiniad o 'gyfleuster deunyddiau'.
Os ydyw, dylech wedyn gwblhau hunanasesiad ar ddechrau pob cyfnod adrodd. Y pedwar cyfnod adrodd yw:
- 1 Ionawr i 31 Mawrth
- 1 Ebrill i 30 Mehefin
- 1 Gorffennaf i 30 Medi
- 1 Hydref i 31 Rhagfyr
Rhoi gwybod am eich manylion hunanasesiad
Os yw eich hunanasesiad yn dangos y dylai eich cyfleuster fod yn gyfleuster deunyddiau hysbysedig, rhaid i chi ddweud wrthym erbyn diwedd y cyfnod adrodd.
Dylech hefyd ddweud wrthym os yw eich hunanasesiad yn dangos na ddylai eich cyfleuster bellach fod yn gyfleuster deunyddiau hysbysedig.
Efallai y byddwn yn gofyn am dystiolaeth gan weithredwyr y credwn y dylent fod wedi datgan fod eu cyfleuster deunyddiau yn gyfleuster hysbysedig ond nad ydynt wedi cyflwyno datganiad i ni.
Samplu a mesur y gwastraff
Yn dibynnu ar eich gweithgareddau bydd angen i chi gymryd samplau a mesuriadau o ddeunyddiau gwastraff sy'n dod i mewn ac yn mynd allan.
Darganfyddwch sut i gymryd samplau o ddeunyddiau gwastraff.
Bydd yn rhaid i chi lunio methodoleg samplu ysgrifenedig. Rhaid i hyn egluro sut y byddwch yn bodloni'r gofynion samplu.
Rhoi gwybod am eich data
Rhaid i chi gyflwyno eich data i ni ar gyfer pob cyfnod adrodd. Rhaid i hyn fod o fewn mis i ddiwedd pob cyfnod adrodd.
Darganfyddwch pa ddata sydd ei angen arnom.
Pan fyddwch yn datgan bod eich cyfleuster deunyddiau yn gyfleuster hysbysedig, byddwn yn darparu fformat electronig i chi i adrodd eich data.
Talu ffi
Byddwn yn codi ffi cynhaliaeth flynyddol arnoch.
Darganfyddwch pa ffioedd y mae'n rhaid i chi eu talu.
Sut rydym yn rheoleiddio cyfleusterau deunyddiau
Byddwn yn rheoleiddio cyfleusterau deunyddiau i:
- wirio’ch methodoleg samplu
- arsylwi eich gweithgareddau samplu
- archwilio'r data rydych wedi adrodd, a’u cymharu â’r hyn a welwn ar y safle
Byddwn yn cydnabod os oes dulliau priodol yn cael eu defnyddio.
Os na fydd y dulliau cywir yn cael eu defnyddio, byddwn yn gadael ichi wybod pa welliannau sydd angen eu gwneud.