Gwirio statws diwedd gwastraff
Mae statws diwedd gwastraff yn golygu nad yw deunydd yn cael ei ystyried yn wastraff mwyach. Pan nad yw'n wastraff mwyach, ni fydd rheolaethau gwastraff yn berthnasol.
Mae'r dudalen hon yn esbonio sut i wirio a yw gwastraff wedi'i ailgylchu neu ei adfer wedi cyrraedd statws diwedd gwastraff.
Beth mae gwastraff wedi'i ailgylchu neu ei adfer yn ei olygu
Mae ailgylchu neu fath arall o adferiad yn digwydd pan fydd gwastraff yn cael ei brosesu i gael gwared ar unrhyw briodweddau gwastraff, fel halogiad. Mae hyn yn caniatáu i'r deunydd gael ei ddefnyddio yn lle deunydd nad yw'n wastraff.
Gall gweithrediadau ailgylchu ac adfer amrywio o wiriadau neu brofion i gadarnhau nad oes unrhyw briodweddau gwastraff yn bresennol, i brosesau trin cymhleth sy'n cael gwared ar halogion neu'n newid y deunydd.
Fel arfer, bydd statws diwedd gwastraff yn cael ei gyflawni ar ôl i wastraff fynd drwy weithrediad ailgylchu neu adfer arall.
3 ffordd i wirio statws diwedd gwastraff
Gallwch chi wirio a yw deunydd wedi cyrraedd statws diwedd gwastraff drwy ddefnyddio un o'r dulliau hyn:
- Cydymffurfio â rheoliadau diwedd gwastraff
- Dilyn canllawiau cymeradwy
- Cynnal hunanasesiad fesul achos
1. Rheoliadau diwedd gwastraff
Mae rheoliadau diwedd gwastraff penodol yn berthnasol i:
Er mwyn i'r deunyddiau hyn beidio â bod yn wastraff, mae'r rheoliadau'n golygu bod yn rhaid i’r canlynol fod yn wir:
- rhaid iddynt fodloni meini prawf ansawdd penodol, a rhaid i'r cynhyrchydd neu'r mewnforiwr allu cyhoeddi datganiad cydymffurfiaeth ar fodloni'r safonau hyn
- rhaid i'r cynhyrchydd gael system rheoli ansawdd ardystiedig sy'n dangos cydymffurfiaeth â'r meini prawf ansawdd hyn.
2. Canllawiau cymeradwy
Protocolau ansawdd
Mae protocolau ansawdd yn fframweithiau gwirfoddol sy'n nodi pryd gall deunyddiau gwastraff penodol gyflawni statws diwedd gwastraff at ddibenion defnydd penodol.
Os ydych yn cydymffurfio â'r holl ofynion mewn protocol ansawdd perthnasol, mae'n debygol y bydd eich deunydd yn bodloni amodau prawf diwedd gwastraff.
Os nad ydych yn cydymffurfio â phrotocol ansawdd perthnasol, bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth bod eich deunydd yn bodloni’r amodau prawf diwedd gwastraff.
Mae protocolau ansawdd presennol yn parhau i fod yn berthnasol yng Nghymru nes i ni wneud y canlynol:
- cyhoeddi ein canllawiau diwedd gwastraff ein hun
- mabwysiadu fframwaith adnoddau Asiantaeth yr Amgylchedd
- tynnu'r protocol ansawdd yn ôl
Fframweithiau adnoddau
Mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn cynnal adolygiad o brotocolau ansawdd gwastraff a gaiff eu defnyddio yn Lloegr. Yn dilyn yr adolygiad hwn, bydd pob protocol ansawdd naill ai'n cael ei ddiwygio a'i ailgyhoeddi fel fframwaith adnoddau, neu'n cael ei dynnu'n ôl.
Rydym yn gweithio gydag Asiantaeth yr Amgylchedd i ddeall sut bydd y fframweithiau hyn yn cael eu rhoi ar waith yng Nghymru.
Byddwn yn cyhoeddi unrhyw ddiweddariadau ar y dudalen hon.
Rydym wedi mabwysiadu fframwaith adnoddau GOV.UK ar gyfer biomethan o wastraff. Mae hyn yn disodli'r protocol ansawdd blaenorol ar gyfer biomethan. Mae'r fframwaith yn berthnasol i fiomethan a gaiff ei gynhyrchu o wastraff organig mewn safleoedd tirlenwi neu weithfeydd treulio anaerobig.
Ein canllawiau ar ddiwedd gwastraff
Rydym wedi cyhoeddi canllawiau diwedd gwastraff ar gyfer compost a gweddillion treuliad anaerobig. Mae'r canllawiau hyn wedi'u haddasu o fframweithiau adnoddau biowastraff Asiantaeth yr Amgylchedd ac yn nodi'r gofynion ar gyfer cynhyrchu a defnyddio'r deunyddiau hyn yng Nghymru. Mae'n disodli'r protocolau ansawdd blaenorol ar gyfer compost a gweddillion treuliad anaerobig.
Diwedd gwastraff: compost a gynhyrchir o wastraff pydradwy wedi'i wahanu yn y ffynhonnell
3. Hunanasesiad fesul achos
Os na allwch bennu statws gwastraff gan ddefnyddio'r rheoliadau na'r canllawiau cymeradwy, gallwch gynnal hunanasesiad. Wrth gynnal hunanasesiad, dylech ystyried deddfwriaeth gwastraff, gan gynnwys y Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff ddiwygiedig a chyfraith achosion berthnasol.
Defnyddiwch ganllawiau GOV.UK i wirio a yw eich deunydd yn wastraff. Mae hyn yn egluro'r amodau y mae'n rhaid i ddeunyddiau wedi'u hailgylchu neu eu hadfer eu bodloni i gyflawni statws diwedd gwastraff o dan Erthygl 6(1) y Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff ddiwygiedig.
Efallai y byddwn yn adolygu hunanasesiadau gan ddefnyddio canllawiau GOV.UK.
Os ydym yn anghytuno â hawliad diwedd gwastraff, efallai y byddwn yn cymryd camau yn unol â'n polisi gorfodi a sancsiynau.