Perchnogion tai: cael gwared ar eich gwastraff cartref

Fel perchennog tŷ, mae gennych ddyletswydd gofal gwastraff. Mae hyn yn golygu fod yn rhaid i chi drosglwyddo eich gwastraff i rywun sydd wedi'i awdurdodi i'w dderbyn yn unig. Mae 'sydd wedi’i awdurdodi' yn golygu ei fod yn gludwr gwastraff cofrestredig.

Os na fyddwch yn gwneud hyn rydych yn cyflawni trosedd. Gallai hyn olygu hysbysiad cosb benodedig - neu erlyniad os yw'r hyn y byddwch yn ei wneud yn fwriadol neu'n cael ei ailadrodd. 

Nid dim ond eich sbwriel wythnosol arferol sy’n cael ei gyfrif fel eich gwastraff, mae hefyd yn cynnwys dodrefn, eitemau trydanol, gwastraff adeiladu a gwastraff gwyrdd.

Trefnu i rywun gael gwared â'ch gwastraff

Edrychwch ar wefan eich awdurdod lleol am elusennau a allai gasglu eich eitemau swmpus am ddim e.e. dodrefn. Rhaid i chi wirio eu bod yn gludwr gwastraff cofrestredig.

Os yw elusen, sefydliad gwirfoddol neu awdurdod lleol yn casglu eich gwastraff, gallant wneud hyn gyda chofrestriad cludwr gwastraff haen is. 

Os ydych chi'n defnyddio busnes preifat fel busnes llogi sgipiau neu glirio tai i gael gwared ar eich gwastraff, gwiriwch eu bod nhw'n gludwr gwastraff haen uchaf cofrestredig.

Dod o hyd i gludwyr gwastraff ar y cyfryngau cymdeithasol

Os nad yw gwefan neu hysbyseb cwmni cludo gwastraff yn cynnwys eu cyfeirnod cludo gwastraff, neu os nad oes llawer o fanylion cyswllt, gwyliwch rhag eu defnyddio.  

Er mwyn gwneud eu hymddygiad anghyfreithlon yn fwy anodd i’w olrhain, mae tipwyr anghyfreithlon yn aml yn cael gwared ar wastraff drwy ofyn am dâl mewn arian parod. Byddwch yn ofalus os dewch o hyd i rywun ar y cyfryngau cymdeithasol sy'n cynnig cael gwared ar wastraff cartref am arian parod yn unig, neu am bris isel iawn.

Dylech wneud y canlynol:  

  • pan fo’n bosibl, defnyddio cerdyn i dalu i’r cludwr gwastraff fel bo modd olrhain y taliad
  • gofyn am dderbynneb am eich taliad bob amser 
  • gofyn i ble bydd y cludwr yn mynd â'ch gwastraff

Gallwch chi helpu i fynd i'r afael â throseddau gwastraff drwy roi gwybod am unrhyw gasglwyr gwastraff amheus neu heb drwydded.

Gwastraff yn deillio o waith ar eich eiddo

Os bydd crefftwr yn gwneud gwaith ar eich eiddo, ef fydd yn cynhyrchu’r gwastraff ac ef fydd yn gyfrifol am y gwastraff y maen ei gynhyrchu gan gynnwys ei gludo a chael gwared ohono.

Os bydd trydanwr, er enghraifft, yn tynnu hen flwch ffiwsiau neu ffitiadau golau, rhaid iddo waredu'r gwastraff yn briodol. Dylai’r gost o gael gwared o’r gwastraff hwn gael ei gynnwys yn y tâl am y gwaith.

Os bydd crefftwr yn cymryd gwastraff a gynhyrchwyd gennych chi - er enghraifft os byddwch chi'n ychwanegu eich gwastraff eich hun at ei sgip - chi fydd yn gyfrifol am sicrhau bod y gwastraff yn cael ei drosglwyddo i gludwr gwastraff cofrestredig.

Mynd â'ch gwastraff cartref eich hun i'w waredu

Cyn i chi fynd â'ch gwastraff eich hun i ganolfan gwastraff cartref ac ailgylchu awdurdod lleol, gofynnwch iddyn nhw a allant dderbyn y math hwnnw o wastraff.

Os ydych chi eisiau mynd â'ch gwastraff i safle sy'n cael ei redeg gan fusnes preifat, gwiriwch a ydyn nhw ar ein cofrestr gyhoeddus o safleoedd gwastraff a ganiateir.

Gwastraff asbestos

Weithiau bydd awdurdodau lleol yn derbyn gwastraff asbestos. Cysylltwch â'ch awdurdod lleol ynglŷn â chael gwared o asbestos. Os na fyddant, bydd angen i chi drefnu casgliad eich hun gan fusnes rheoli gwastraff preifat.

Cadw cofnodion

Nid oes rhaid i chi yn ôl y gyfraith gadw tystiolaeth eich bod wedi gwirio a yw cludwr gwastraff neu safle wedi'i gofrestru. Os yw eich gwastraff yn cael ei dipio'n anghyfreithlon gan y sawl sy'n ei gasglu, gall cofnodion y byddwch yn eu cadw ddangos eich bod wedi cyflawni eich dyletswydd gofal. Bydd y cofnodion hyn hefyd yn helpu'r awdurdodau i adnabod y rhai sy'n gyfrifol.

Byddem yn eich cynghori i gadw'r canlynol:

  • Cofnod o unrhyw wiriadau a wnewch, gan gynnwys rhif cofrestru, trwydded neu esemptiad y gweithredwr gwastraff

  • Derbynneb ar gyfer y trafodiad sy'n cynnwys manylion busnes gweithredwr gwastraff cofrestredig

  • Manylion y busnes neu unrhyw gerbyd a ddefnyddir (rhif cofrestru, gwneuthuriad, model, lliw) y gellir eu olrhain yn ôl i weithredwr gwastraff awdurdodedig

Fel perchennog tŷ, nid oes angen i chi gwblhau, na chadw copi o, nodiadau trosglwyddo gwastraff.

Cod Ymarfer y Ddyletswydd Gofal Gwastraff

Darllenwch fwy am fodloni'r gofynion yng Nghod Ymarfer y Ddyletswydd Gofal Gwastraff. 

Diweddarwyd ddiwethaf