Landlordiaid preswyl: cael gwared ar wastraff o'ch eiddo
Cyngor i landlordiaid preswyl ar gael gwared ar wastraff o'u heiddo rhent.
Eich cyfrifoldebau
Fel landlord, mae eich eiddo rhent yn cael ei gyfrif fel busnes. Nid yw unrhyw ddeunydd gwastraff sy'n deillio o glirio neu o gynnal a chadw eich eiddo yn cael ei gyfrif yn wastraff cartref, ond yn hytrach yn wastraff busnes.
Rhaid i chi ddelio â'r gwastraff busnes hwn yn unol â'r ddyletswydd gofal gwastraff.
Tra bydd tenantiaid yn eich eiddo
Dylai'r tenantiaid ddefnyddio eu casgliad awdurdod lleol yn yr un modd â pherchnogion tai eraill.
Dylech wneud y canlynol:
- darparu biniau a bagiau gwastraff i denantiaid yn ogystal â rhywle diogel i'w storio
- helpu tenantiaid i ddeall sut i waredu eu gwastraff yn briodol a dilyn canllawiau'r awdurdod lleol, er enghraifft:
- gwybod ar ba ddyddiau mae gwastraff yn cael ei gasglu
- defnyddio’r biniau a'r bagiau cywir
Clirio eiddo gwag
Unwaith y bydd eich tenantiaid wedi gadael yr eiddo, dylech wneud y canlynol:
- gwirio fod gan unrhyw un ydych chi'n talu iddo gael gwared ar wastraff ar eich rhan drwydded gludo gwastraff
- trefnu cael trwydded gludo gwastraff os ydych chi'n bwriadu cludo a gwaredu gwastraff busnes eich hun - gwiriwch y bydd y cyfleuster gwastraff rydych chi am fynd â'r gwastraff iddo yn derbyn gwastraff busnes
- cadw unrhyw nodiadau trosglwyddo gwastraff fel prawf bod eich gwastraff busnes wedi cael ei waredu'n gyfreithlon
- gwirio a oes unrhyw le y gallwch ailgylchu eitemau ar Cymru yn Ailgylchu
Gwastraff sy’n deillio o waith ar eich eiddo
Os bydd crefftwr yn gwneud gwaith ar eich eiddo, ef fydd yn cynhyrchu’r gwastraff ac ef fydd yn gyfrifol am y gwastraff y maen ei gynhyrchu gan gynnwys ei gludo a chael gwared ohono.
Os bydd trydanwr, er enghraifft, yn tynnu hen flwch ffiwsiau neu ffitiadau golau, ef fydd yn cynhyrchu’r gwastraff a bydd rhaid iddo waredu'r gwastraff yn briodol. Mae’r gost o gael gwared ohono yn aml wedi'i chynnwys yn ei dâl am y gwaith.