Defnyddio'r Fformiwla Effeithlonrwydd Ynni R1

Cyn i chi wneud cais

Daeth y Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff newydd i rym yng Nghymru a Lloegr yn Ebrill 2011. Mae wedi cyflwyno hierarchaeth gwastraff ag iddi bum cam, sef:

  • atal gwastraff
  • paratoi ar gyfer ailddefnyddio
  • ailgylchu
  • dulliau adfer eraill (yn cynnwys adfer ynni)
  • gwaredu gwastraff

O dan y Gyfarwyddeb, gall llosgyddion gwastraff trefol gael eu galw'n weithrediadau adfer cyn belled â'u bod yn cyflawni lefel ofynnol o effeithlonrwydd ynni. Cyflwynwyd y Gyfarwyddeb i:

  • hyrwyddo'r defnydd o wastraff mewn llosgyddion gwastraff trefol sy'n defnyddio ynni'n effeithlon
  • annog arloesedd ym maes llosgi gwastraff

Defnyddir y fformiwla Effeithlonrwydd Ynni R1 sydd wedi'i gynnwys yn y Gyfarwyddeb i bennu a yw'r gweithgarwch yn cyflawni'r lefel ofynnol o effeithlonrwydd ynni.

Sut i wneud cais

Cyfoeth Naturiol Cymru yw'r awdurdod cymwys sy'n penderfynu a yw Llosgydd Gwastraff Trefol yn gymwys i gael statws adfer gan ddefnyddio'r fformiwla effeithlonrwydd ynni R1. Os hoffech chi drosolwg o sut i fod yn gymwys yng Nghymru, lawrlwythwch a darllenwch y nodyn briffio o'r ddolen isod:

I wneud cais, mae angen i chi anfon y canlynol atom:

  • llythyr esboniadol (yn cadarnhau eich bod chi'n gwneud cais am statws R1 trwy'r Fformiwla Effeithlonrwydd Ynni R1 sy’n nodi a ydych chi'n gwneud cais ar gyfer safle cyfan neu un llinell)
  • rhan A o'r cais am Drwydded Amgylcheddol
  • copi cyflawn o ffurflen gais R1 (Saesneg yn unig) (Excel 3.26MB) ynghyd â'r wybodaeth sy'n ategu'r ffigurau a roddir

E-bostiwch eich ceisiadau i ymholiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk / gan nodi 'Cais Fformiwla Effeithlonrwydd Ynni R1/R1 Energy Efficiency Formula Application' fel testun y neges (rhaid i negeseuon fod yn llai na 10MB).

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Ffurflen - Rhan A WORD [176.9 KB]
NODYN CANLLAW A.doc WORD [208.0 KB]
Diweddarwyd ddiwethaf