Gwneud cais i gyflawni amodau a/neu fonitro cymeradwyaethau eich trwydded forol

Bydd gan rai trwyddedau morol amodau y mae angen eu cyflawni. Er enghraifft, cyflwyno cynllun rheoli'r amgylchedd ar gyfer adeiladu i'w gymeradwyo cyn dechrau ar y gwaith.

Bydd gan rai trwyddedau amodau monitro. Mae'r rhain yn sicrhau nad yw'r gweithgaredd yn achosi effaith niweidiol.  Er enghraifft, cyflwyno manyleb monitro neu adroddiadau monitro blynyddol i'w cymeradwyo.

Gwneud cais i gyflawni amodau a/neu fonitro cymeradwyaethau eich trwydded forol:

 

Ffioedd a Chostau

Rhaid i chi dalu'r ffioedd perthnasol

Cyflawni amodau:

Band 2: Ffi sefydlog untro i gyflawni’r holl amodau ar y drwydded forol. Nid yw hyn yn cynnwys amodau sy'n gysylltiedig â monitro parhaus. Yn daladwy ymlaen llaw wrth gyflwyno'r amod cyntaf i'w gyflawni

Band 3: Cyfradd o £120 yr awr heb uchafswm. Byddwch yn cael eich anfonebu mewn ôl-daliadau.

Monitro:

Band 2 a 3: codir tâl arnoch ar y gyfradd o £120 yr awr heb uchafswm. Byddwch yn cael eich anfonebu mewn ôl-daliadau.

Talu eich ffi

Ar gyfer ffi sefydlog talwch drwy ein ffonio ar 0300 065 3770 rhwng 9 a 5, o ddydd Llun i ddydd Gwener neu drwy BACS trosglwyddwch i:

Enw'r cwmni: Cyfoeth Naturiol Cymru
Cyfeiriad y cwmni: Adran Incwm, Blwch SP 663, Caerdydd, CF24 0TP
Banc: RBS
Cyfeiriad: National Westminster Bank Plc, 2 1/2 Devonshire Square, London, EC2M 4BA
Cod didoli: 60-70-80
Rhif y cyfrif: 10014438

Ar ôl i chi wneud cais

Unwaith y byddwn yn derbyn eich ffurflen wedi'i chwblhau a’ch taliad, byddwn yn cydnabod ein bod wedi eu derbyn.

Ein lefelau gwasanaeth

  • Cyflawni amod band 2 – 6 wythnos
  • Cymeradwyaeth Monitro – 8 wythnos
  • Cyflawni amod band 3 – mae'r rhain yn amrywio o ran cymhlethdod. Nid oes amserlen cytundeb lefel gwasanaeth
Diweddarwyd ddiwethaf