Breedon Trading Limited - Amrywio trwydded lawn i dynnu dŵr
Deddf Adnoddau Dŵr 1991 (fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Dŵr 2003)
Hysbysir trwy hyn, yn unol ag Adran 37 Deddf Adnoddau Dŵr 1991 a Rheoliad 6 Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Tynnu a Chronni Dŵr) 2006 fod cais wedi cael ei wneud i Cyfoeth Naturiol Cymru gan Breedon Trading Limited i amrywio trwydded lawn i dynnu dŵr, rhif cyfres WA/057/0025/0015, sy’n awdurdodi tynnu dŵr o strata tanddaearol o fewn yr ardal a ffurfiwyd gan linellau syth rhwng y Cyfeirnodau Grid Cenedlaethol canlynol ST 11884 82197, ST 12218 82338, ST 12278 82228 ac ST 11982 82066 yn Chwarel Ffynnon Taf, Ffynnon Taf. Gofynnwyd am yr amrywiad er mwyn cynyddu faint o ddŵr sy’n cael ei dynnu ar gyfer lleihau llwch, o 2.5 metr ciwbig yr awr, 20 metr ciwbig y dydd a 6,000 metr ciwbig y flwyddyn i 6.59 metr ciwbig yr awr, 65.94 metr criwbig y dydd a 14,507 metr ciwbig y flwyddyn, drwy’r flwyddyn.
Gallwch weld y dogfennau cais yn rhad ac am ddim, o'n cofrestr gyhoeddus ar-lein. Neu gallwch ofyn am gopi o'r wybodaeth gennym ni. Gall hyn gymryd amser i'w brosesu a gellid codi tâl am hynny.
Os ydych am ofyn am gopi neu dymunwch wneud sylwadau ynghylch y cais, rhaid ichi wneud hynny yn ysgrifenedig, gan ddyfynnu enw’r ymgeisydd a’r Cyfeirnod PAN-030176 wrth:
Cyfoeth Naturiol Cymru
Gwasanaeth Trwyddedu
Swyddfeydd Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Rhodfa’r Brenin Edward VII
Caerdydd
CF10 3NQ
neu drwy e-bost i: permittingconsultations@naturalresourceswales.gov.uk erbyn 08/01/2026 fan bellaf.
Er mwyn cael rhagor o wybodaeth, gweler adran ymgynghoriadau ein gwefan http://naturalresources.wales/?lang=cy neu ffoniwch ein Canolfan Gofal Cwsmeriaid 0300 0653000 (Dydd Llun-Gwener, 9-5).