Dŵr Cymru Cyfyngedig - St. Nicholas (Nr Bonvilston) Gwaith Trin Dŵr Gwastraff (GTDG) Off Brook Lane, St Nicholas, Caerdydd CF5 6TB

Rydym wedi derbyn cais am drwydded gan Dŵr Cymru Cyfyngedig

Cais i newid trwydded amgylcheddol dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016

Mae'r cais am amrywiad trwydded i gynyddu'r Llif Tywydd Sych o 67m3/dydd i 111m3/dydd.

Rhif y cais: PAN-025611
Math o gyfleuster rheoledig: Wastewater Treatment Works(WwTW)
Lleoliad y cyfleuster rheoledig: Dŵr Cymru Cyfyngedig
St. Nicholas (Nr Bonvilston) Gwaith Trin Dŵr Gwastraff (GTDG)
Off Brook Lane,
St Nicholas,
Caerdydd
CF5 6TB
Cyfeirnod Grid Cenedlaethol yr ollyngfa: ST 08809 73089
Yr ardal ddyfrol sy’n derbyn: Afon Weycock
Math o elifiant: Elifiant carthion triniedig
Cyfaint: 111 metr ciwbig y dydd

Gallwch weld y dogfennau cais yn rhad ac am ddim, o'n cofrestr gyhoeddus ar-lein. Gallwch chwilio am y dogfennau gan ddefnyddio'r manylion cais uchod. Neu gallwch ofyn am gopi o'r wybodaeth gennym ni. Gall hyn gymryd amser i'w brosesu a gellid codi tâl am hynny.

Os oes gennych unrhyw sylwadau anfonwch y rhain erbyn 26 Tachwedd 2025. 

Ebost: permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Neu ysgrifennwch at:

Gwasanaeth Trwyddedu
Cyfoeth Naturiol Cymru
Swyddfeydd Llywodraeth Cymru 
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Rhaid i ni benderfynu a ddylid caniatáu neu wrthod y cais. Os ydym yn ei ganiatáu, mae’n rhaid i ni benderfynu pa amodau i’w cynnwys yn y drwydded. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth ynglŷn â sut yr ydym yn gwneud penderfyniadau yn ein Datganiad Cyfranogiad Cyhoeddus.

Diweddarwyd ddiwethaf