Rydym wedi derbyn cais am drwydded gan Dŵr Cymru Cyfyngedig.

Cais i newid trwydded amgylcheddol dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016

Rhif y cais: PAN-027717
Math o gyfleuster rheoledig: Gwaith Trin Dŵr Gwastraff (GTDG)
Lleoliad y cyfleuster rheoledig: Trac oddi ar yr A494, Bala, Gwynedd, LL23 7DN
Cyfeirnod Grid Cenedlaethol yr ollyngfa: SH 93782 35552  
Yr ardal ddyfrol sy’n derbyn: Afon Dyfrdwy
Math o elifiant: Elifiant triniaeth eilaidd
Cyfaint: 810 metr ciwbig y dydd

Gallwch weld y dogfennau cais yn rhad ac am ddim, o'n cofrestr gyhoeddus ar-lein. Gallwch chwilio am y dogfennau gan ddefnyddio'r manylion cais uchod. Neu gallwch ofyn am gopi o'r wybodaeth gennym ni. Gall hyn gymryd amser i'w brosesu a gellid codi tâl am hynny.

Os oes gennych unrhyw sylwadau, anfonwch y rhain erbyn 7 Ebrill 2026.

E-bost: permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Neu ysgrifennwch at:

Gwasanaeth Trwyddedu
Cyfoeth Naturiol Cymru
Swyddfeydd Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Cardiff
CF10 3NQ

Rhaid i ni benderfynu a ddylid caniatáu neu wrthod y cais.  Os ydym yn ei ganiatáu, mae’n rhaid i ni benderfynu pa amodau i’w cynnwys yn y drwydded.  Gallwch ddod o hyd i wybodaeth ynglŷn â sut yr ydym yn gwneud penderfyniadau yn ein Datganiad Cyfranogiad Cyhoeddus.

Diweddarwyd ddiwethaf