Rydym wedi derbyn cais am drwydded gan Marston PLC.

Cais newydd pwrpasol am drwydded amgylcheddol dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016.

Rhif y cais: PAN-031179
Math o gyfleuster rheoledig: Gwaith Trin Cryno
Lleoliad cyfleuster rheoledig: Graig Road, Llysfaen, Caerdydd, CF14 0UF
Cyfeirnod Grid Cenedlaethol yr ollyngfa: ST 18160 84026
Yr ardal ddyfrol sy’n derbyn: Nant is-nant dienw
Math o elifiant: Elifiant carthion wedi'i drin
Cyfaint: 12.84 metr ciwbig y dydd

Gallwch weld y dogfennau cais yn rhad ac am ddim, o'n cofrestr gyhoeddus ar-lein. Gallwch chwilio am y dogfennau gan ddefnyddio'r manylion cais uchod. Neu gallwch ofyn am gopi o'r wybodaeth gennym ni. Gall hyn gymryd amser i'w brosesu a gellid codi tâl am hynny.

Neu ysgrifennwch at:
Swyddfeydd Llywodraeth Cymru
Cyfoeth Naturiol Cymru
4ydd Llawr Parc Cathays
Rhodfa'r Brenin Edward VII
Caerdydd
CF10 3NQ

Os oes gennych unrhyw sylwadau anfonwch y rhain erbyn 20 Chwefror 2026.

E-bost: permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Rhaid inni benderfynu a fyddwn yn caniatáu ynteu’n gwrthod y cais ai peidio. Os byddwn yn ei ganiatáu, mae’n rhaid inni benderfynu pa amodau i’w cynnwys yn y drwydded.  Gallwch ddod o hyd i wybodaeth ynglŷn â sut yr ydym yn gwneud penderfyniadau yn ein Datganiad Cyfranogiad Cyhoeddus.

Diweddarwyd ddiwethaf