Rydym wedi derbyn cais am drwydded gan Pili Palas Nature World Ltd. 

Cais am drwydded amgylcheddol arbennig newydd dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016.

Rhif y cais: PAN-031754
Math o gyfleuster rheoledig: Draenio dŵr daear tanc septig
Lleoliad y cyfleuster rheoledig: Pili Palas, Nature World, Penmynydd Road, LL59 5RP
Cyfeirnod Grid Cenedlaethol yr ollyngfa: SH 54152 73109
Yr ardal ddyfrol sy’n derbyn: Maes draenio
Math o elifiant: Carthion wedi'u trin
Cyfaint: 4.05 metr ciwbig y dydd

Gallwch weld y dogfennau cais yn rhad ac am ddim, o'n cofrestr gyhoeddus ar-lein. Gallwch chwilio am y dogfennau gan ddefnyddio'r manylion cais uchod. Neu gallwch ofyn am gopi o'r wybodaeth gennym ni. Gall hyn gymryd amser i'w brosesu a gellid codi tâl am hynny.

Os oes gennych unrhyw sylwadau, anfonwch y rhain erbyn 15 Mai 2026.

E-bost: permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Neu ysgrifennwch at:

Gwasanaeth Trwyddedu
Cyfoeth Naturiol Cymru
Swyddfeydd Llywodraeth Cymru 
Parc Cathays
Cardiff
CF10 3NQ

Rhaid i ni benderfynu a ddylid caniatáu neu wrthod y cais. Os ydym yn ei ganiatáu, mae’n rhaid i ni benderfynu pa amodau i’w cynnwys yn y drwydded. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth ynglŷn â sut yr ydym yn gwneud penderfyniadau yn ein Datganiad Cyfranogiad Cyhoeddus.

Diweddarwyd ddiwethaf