Rydym wedi derbyn cais am drwydded gan Plas Cwmcynfelin Limited.

Cais newydd pwrpasol am drwydded amgylcheddol dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016.

Rhif y cais: PAN-032677
Math o gyfleuster rheoledig: Gwaith Trin Carthffosiaeth a System Ymdreiddio
Lleoliad y cyfleuster rheoledig: Plas Cwmcynfelin, Llangorwen, Clarach, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3DN
Cyfeirnod Grid Cenedlaethol yr ollyngfa: SN 60340 83500
Yr ardal ddyfrol sy’n derbyn: Dwr daear
Math o elifiant: Elifiant carthion wedi'i drin
Cyfaint: 18.55 metr ciwbig y dydd

Gallwch weld y dogfennau cais yn rhad ac am ddim, o'n cofrestr gyhoeddus ar-lein. Gallwch chwilio am y dogfennau gan ddefnyddio'r manylion cais uchod. Neu gallwch ofyn am gopi o'r wybodaeth gennym ni. Gall hyn gymryd amser i'w brosesu a gellid codi tâl am hynny.

Os oes gennych unrhyw sylwadau, anfonwch y rhain erbyn 10 Gorffennaf 2026.

E-bost: permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Neu ysgrifennwch at:
Swyddfeydd Llywodraeth Cymru, 
Cyfoeth Naturiol Cymru
4ydd Llawr Parc Cathays 
Rhodfa'r Brenin Edward VII 
Caerdydd
CF10 3NQ

Rhaid i ni benderfynu a ddylid caniatáu neu wrthod y cais. Os ydym yn ei ganiatáu, mae’n rhaid i ni benderfynu pa amodau i’w cynnwys yn y drwydded.  Gallwch ddod o hyd i wybodaeth ynglŷn â sut yr ydym yn gwneud penderfyniadau yn ein Datganiad Cyfranogiad Cyhoeddus.

Diweddarwyd ddiwethaf