Pembroke Refinery (Valero Energy Ltd) - Purfa Penfro, Penfro, Sir Benfro SA71 5SJ
Hysbysiad penderfyniad drafft: Pembroke Refinery (Valero Energy Ltd)
Rhif y cais: PAN-023559 (EPR/YP3930EX/V008)
Math o gyfleuster rheoledig: Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016, Gweithfa – Atodlen 1 Adran 1.2 A(1)(d) – Puro olewau mwynol
Lleoliad y cyfleuster rheoledig: Purfa Penfro, Penfro, Sir Benfro SA71 5SJ
Mae hwn yn gais ar gyfer caniatáu rhanddirymiad newydd o dan erthygl 15 (4) o'r gyfarwyddeb allyriadau diwydiannol ar y dechneg orau sydd ar gael (BAT), casgliad, BAT 52 a'r terfyn allyriadau cysylltiedig i leihau allyriadau cyfansoddion organig anweddol anfethan a bensen o'r gweithrediadau llwytho a dadlwytho ar longau môr yn yr angorfeydd ar lanfa'r safle.
Rydym yn bwriadu caniatáu'r amrywiad i’r drwydded ar gyfer y rhanddirymiad hyd at 2034. Dim ond os credwn na fydd llygredd sylweddol yn cael ei achosi a bod gan y gweithredwr y gallu i fodloni amodau'r drwydded y byddwn yn caniatáu rhanddirymiad. Bydd unrhyw drwydded a roddwn yn cynnwys amodau priodol i ddiogelu iechyd pobl a'r amgylchedd.
Gwybodaeth a osodwyd ar y gofrestr gyhoeddus ar gyfer ymgynghori:
- Trwydded ddrafft
- Dogfen penderfyniad drafft
Gallwch weld y drwydded ddrafft a’r ddogfen penderfyniad drafft yn rhad ac am ddim, ar ein cofrestr gyhoeddus arlein. Neu gallwch wneud cais am gopi o’r wybodaeth gennym ni. Gallai hyn gymryd amser i’w brosesu a gall y byddwn yn codi ffi arnoch.
Os oes gennych unrhyw sylwadau anfonwch y rhain erbyn 28 Mai 2025.
Ebost: permittingconsultations@naturalresourceswales.gov.uk
Neu ysgrifennwch at:
Arweinydd Tîm Rheoleiddio Sylweddau Ymbelydrol a Gweithfeydd
Gwasanaeth Trwyddedu
Cyfoeth Naturiol Cymru
Adeiladau’r Goron
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ