Mae’r afanc Ewrasiaidd, Castor fiber, wedi'i warchod o dan Reoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017 (fel y'u diwygiwyd) (a elwir hefyd yn Rheoliadau Cynefinoedd) a Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y'i diwygiwyd).

Afancod a'r gyfraith

Newidiodd y gyfraith mewn perthynas â gwarchod afancod yng Nghymru ar 4 Mawrth 2026 yn dilyn Gorchymyn Afancod (Cymru) 2026. Mae'r newidiadau hyn yn cydnabod yr afanc fel rhywogaeth frodorol yng Nghymru ac yn ei hamddiffyn fel Rhywogaeth a Warchodir gan Ewrop.

Afancod fel rhywogaeth a warchodir

Mae afancod wedi'u rhestru ar Atodlen 2 o Reoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017 sy'n eu gwneud yn Rhywogaeth a Warchodir gan Ewrop. Mae hyn yn rhoi amddiffyniad cyfreithiol i afancod a'r lleoedd maent yn eu defnyddio ar gyfer bridio a llochesu – gan gynnwys eu tyllau, eu gwalau a'u hargaeau.

Mae yn erbyn y gyfraith i wneud y canlynol: 

  • anafu, lladd, dal neu aflonyddu ar afancod yn fwriadol
  • difrodi neu ddinistrio safle bridio neu fan gorffwys afanc fel twll, gwâl, neu argae sy'n gysylltiedig â thwll neu wâl
  • cadw afanc neu rannau o afanc a gymerwyd o'r gwyllt
  • meddu ar afanc neu ei gludo
  • gwerthu neu gyfnewid, neu gynnig afanc i'w werthu neu ei gyfnewid

Mae aflonyddwch yn cynnwys unrhyw weithred sy'n debygol o amharu ar allu afanc i oroesi, bridio, atgenhedlu neu fagu afancod ifanc neu effeithio'n sylweddol ar ddosbarthiad lleol neu nifer yr afancod. Mae'r amddiffyniadau hyn yn berthnasol lle bynnag y mae afancod yn bresennol pan fydd gweithred sy'n effeithio ar eu safle bridio neu eu man gorffwys yn digwydd.

Efallai y byddwch yn gallu cael trwydded gennym ni at rai dibenion penodol os yw'r gwaith rydych chi am ei wneud yn debygol o gyflawni trosedd.

Mae'r rhan fwyaf o'r effeithiau negyddol a achosir gan afancod yn digwydd o fewn tuag ugain metr i ymyl y dŵr, a gellir defnyddio amrywiaeth o dechnegau i atal neu reoli eu heffeithiau. Mae'r rhain yn cynnwys creu lleiniau clustogi â llystyfiant naturiol i roi lle i afancod, yn ogystal ag ymgymryd â gweithredoedd heb eu trwyddedu nad oes angen trwydded ar eu cyfer.

Mae CNC yn datblygu fframwaith reoli ar gyfer afancod yng Nghymru a fydd yn nodi’r camau y gallwch eu cymryd lle nad oes angen trwydded ar eu cyfer, a pha weithgareddau sy'n tarfu ar afancod a'u cynefinoedd neu'n eu difrodi y bydd angen trwydded ar eu cyfer.

Cysylltwch â ni

Cysylltwch â ni i gael cyngor ar opsiynau rheoli a thrwyddedu os oes angen i chi gymryd camau mewn ardaloedd lle mae afancod yn bresennol.

Rhyddhau afancod i'r gwyllt

Mae afancod wedi'u rhestru o dan Atodlen 9 Rhan 1A (anifeiliaid brodorol) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981. Mae hyn yn golygu bod angen trwydded CNC arnoch i wneud y canlynol:

  • rhyddhau afancod i mewn i le caeëdig
  • rhyddhau afancod i'r gwyllt

Gwneud cais am drwydded i ryddhau afancod i'r gwyllt neu i le caeëdig

Mae'r afanc Ewrasiaidd (Castor fiber) wedi'i restru ar Atodlen 9 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981. Mae hyn yn golygu ei bod yn drosedd eu rhyddhau i'r gwyllt heb drwydded.  Efallai y bydd angen trwydded arnoch hefyd o dan y Rheoliadau Cynefinoedd.

Mae canllawiau a gyhoeddwyd gan Defra a Llywodraeth Cynulliad Cymru yn 2011 yn golygu bod rhyddhau i le caeëdig yn cael ei ystyried fel rhyddhau “i’r gwyllt” at ddibenion trwyddedu yng Nghymru. Yr unig eithriadau yw lleoedd caeëdig artiffisial mewn sŵau neu amgylcheddau tebyg sydd dan reolaeth sylweddol sydd wedi'u hynysu o'r amgylchedd naturiol.

Os ydych chi'n bwriadu rhyddhau anifeiliaid i’r gwyllt neu eu rhyddhau i mewn i le caeëdig, rydym yn argymell eich bod chi'n cysylltu ag CNC fel y gallwn ni roi cyngor i chi.

Rhaid i chi sicrhau bod eich cynnig yn cael ei ddatblygu yn unol â chanllawiau'r Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur ar gyfer ailgyflwyno a thrawsleoli cadwraeth eraill. Bydd asesiad o'ch cynnig yn erbyn y canllawiau hyn yn rhan o'r broses drwyddedu. Gan fod rhyddhau anifeiliaid o le caeëdig yn cael ei ystyried fel rhyddhau “i’r gwyllt” bydd angen asesu hefyd yn erbyn y canllawiau hyn, gan gynnwys asesiad o’r canlyniadau posibl pe bai’r anifail yn dianc.

Bydd angen i chi gyflwyno'r naw dogfen ganlynol. Dylai pob un fod yn ddogfen ar wahân neu'n adrannau ar wahân o ddogfen:

1. Ffurflen gais ar gyfer rhyddhau rhywogaeth atodlen 9

Mae hyn ar gael yma.

2. Cynnig prosiect a datganiad dull

Rhaid i hyn nodi amcanion a nodau'r cynnig, cerrig milltir allweddol, disgrifiadau manwl o'r dulliau a fydd yn cael eu defnyddio gan gynnwys sut y bydd yr afancod yn cael eu cyrchu a'u cludo a sut y bydd eu lles yn cael ei sicrhau.

3. Crynodeb o ymgysylltiad blaenorol â rhanddeiliaid

Mae’n hanfodol ymgysylltu’n gynnar â thirddeiliaid a chymunedau lleol y gellir effeithio arnynt, ynghyd â rhanddeiliaid eraill fel y rhai sydd â buddiannau pysgota neu gwmnïau cyfleustodau sydd â seilwaith yn yr ardal. Eglurwch sut rydych chi wedi nodi rhanddeiliaid, wedi gweithio gyda nhw i ddeall unrhyw bryderon a chytuno ar fesurau lliniaru lle bo angen.

Hefyd, nodwch unrhyw drafodaethau rydych chi wedi'u cael gyda swyddogion yr amgylchedd lleol neu arbenigwyr rhywogaethau o CNC.

4. Asesiad risg cyffredinol

Dylai hyn nodi ac ystyried effeithiau posibl, gan gynnwys:

  • ecosystemau lleol
  • hydroleg a risg llifogydd
  • pysgod mudol a physgod eraill
  • lledaeniad clefyd
  • tir cyfagos
  • seilwaith cyfagos fel ffyrdd, rheilffyrdd, neu gyfleustodau
  • ansawdd dŵr a chyflenwadau dŵr preifat
  • unrhyw safleoedd neu rywogaethau gwarchodedig y gellid effeithio arnynt

Os yw pryderon penodol wedi’u codi gan dirfeddianwyr cyfagos neu randdeiliaid eraill, dylech sicrhau eu bod yn cael eu hystyried yn yr asesiad risg.

5. Asesiad risg gan filfeddyg

Dylai hwn ddefnyddio'r fformat canlynol a rhaid iddo gael ei lofnodi gan filfeddyg cymwys:

  1. Asesiad risg
  2. Llwybrau risg
  3. Crynodeb o ffactorau risg
  4. Crynodeb o ffactorau lliniaru
  5. Crynodeb o'r ansicrwyddau/rhagdybiaethau allweddol
  6. Amcangyfrif risg/tebygoliaeth terfynol
  7. Casgliadau'r asesiad risg
  8. Crynodeb o effaith/canlyniadau’r milfeddyg
  9. Crynodeb o'r tebygoliaeth
  10. Cyngor gan filfeddyg ac opsiynau
  11. Argymhellion
  12. Crynodeb gweithredol

Byddwn yn rhannu hyn gyda Swyddfa’r Prif Swyddog Milfeddygol yn Llywodraeth Cymru ac yn gofyn am eu cyngor fel rhan o'r broses ymgeisio.

6. Manylebau lleoedd caeëdig a chynllun cynnal a chadw (rhyddhau i leoedd caeëdig yn unig)

Rhaid i hyn gynnwys manylion dyluniad a deunyddiau'r lle caeëdig arfaethedig a chynnwys cynlluniau a lluniadau fel bo’r angen. Dylai'r cynllun cynnal a chadw nodi'r drefn archwilio a chynnal a chadw a fydd yn cael ei dilyn am oes y strwythur a dylai gynnwys manylion unrhyw fesurau diogelwch a monitro ychwanegol, fel teledu cylch cyfyng.

7. Cynllun dianc ac ail-ddal (rhyddhau i leoedd caeëdig yn unig)

Rhaid i chi nodi sut y byddwch chi'n ymateb os bydd afancod yn dianc o'r lle caeëdig. Bydd angen i chi gadarnhau y bydd y gweithdrefnau, y personél a'r adnoddau angenrheidiol ar waith i ddod o hyd i unrhyw anifeiliaid sydd wedi dianc yn brydlon a’u hail-ddal. Er bod hyn wedi'i farcio fel "rhyddhau i leoedd caeëdig yn unig" gall fod yn berthnasol hefyd ar gyfer rhyddhau i’r gwyllt lle mae angen rheoli gwasgariad.

8. Cynllun lliniaru effaith (rhyddhau i’r gwyllt yn unig)

Os ydych chi'n cynnig rhyddhau i’r gwyllt, bydd angen i chi amlinellu cynllun hirdymor ar gyfer rheoli unrhyw effeithiau negyddol ar dir neu seilwaith cyfagos, er enghraifft yn sgil argaeau, cwympo coed, neu durio.

9. Strategaeth ymadael

Rhaid i hyn ddarparu esboniad manwl o'r hyn a fydd yn digwydd ar ddiwedd y prosiect yn ogystal â'r hyn a fydd yn digwydd os oes angen dod â'r prosiect i ben yn gynnar. Dylai'r strategaeth ymadael hefyd nodi amgylchiadau a allai olygu bod angen cau'n gynnar ac egluro sut y bydd penderfyniadau allweddol yn cael eu gwneud a chan bwy.

Dilyn arferion gorau

Mae ceisiadau'n fwy tebygol o fod yn llwyddiannus os ydynt yn dilyn canllawiau arferion gorau cyfredol.

Mae’r canllawiau am afancod Ewrasiaidd a gyhoeddwyd gan Gymdeithas Sŵoleg Frenhinol yr Alban, 2013 Captive Management Guidelines for Eurasian Beaver, yn gyfeiriad defnyddiol ar gyfer cynigion am leoedd caeëdig, er nad yw rhai elfennau fel defnyddio tagiau clust neu 'wifrau poeth' trydan yn cael eu hystyried fel arferion gorau mwyach.

Mae'r protocol ynghylch rheoli risg clefydau afancod Ewrasiaidd a chadw golwg ar eu hiechyd ar ôl eu rhyddhau, Eurasian beaver disease risk management and post-release health surveillance protocol a gyhoeddwyd gan Natural England, yn ganllaw defnyddiol ar sut i drosglwyddo afancod Ewrasiaidd yn ddiogel i Loegr drwy reoli risgiau clefydau, sicrhau lles mewn caethiwed, ac arwain y gwaith o fonitro eu hiechyd ar ôl eu rhyddhau.

Pryd y byddwch chi'n gwybod a yw eich cais wedi bod yn llwyddiannus

Ein nod yw penderfynu ar y rhan fwyaf o drwyddedau rhywogaethau o fewn 40 diwrnod gwaith ar ôl derbyn yr holl wybodaeth angenrheidiol. Fodd bynnag, oherwydd bod rhyddhau afancod yn gymharol newydd yng Nghymru, gellir eu hystyried o ddiddordeb mawr i’r cyhoedd a gallent fod yn destun ymgynghoriad cyhoeddus. Mae angen eu hystyried hefyd o dan ganllawiau ailgyflwyno a thrawsleoli cadwraeth eraill yr Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur. Mae hyn yn golygu y gallai fod angen mwy o amser arnom i wneud penderfyniad.

Gallwch ein helpu i ystyried eich cais yn gyflym drwy sicrhau eich bod wedi cyflwyno'r holl wybodaeth rydym yn gofyn amdani. Byddwn yn rhoi gwybod i chi wrth i'r penderfyniad fynd rhagddo.

Diweddarwyd ddiwethaf