Gwneud cais i ganslo (ildio) trwydded wastraff gyfan neu ran ohoni

BETA: Mae hwn yn wasanaeth newydd — rhowch adborth i'n helpu i'w wella

Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i ganslo (ildio) eich trwydded gyfan neu ran ohoni.

Cyn i chi ddechrau

Gwnewch yn siŵr bod gennych chi:

Dogfennau i'w uwchlwytho

  1. Adroddiad cyflwr safle yn disgrifio cyflwr safle'r drwydded (neu'r rhan berthnasol o'r safle ar gyfer ildiad rhannol). Ni fydd angen hwn arnom ar gyfer trwydded offer symudol. Ar gyfer adroddiadau tirlenwi, darllenwch ildio trwyddedau ar gyfer dodi gwastraff yn barhaol
  1. Tystiolaeth ysgrifenedig (gennym ni) ein bod wedi cytuno eich bod yn bodloni'r gofynion. Fel arfer, llythyr neu e-bost gan eich swyddog cydymffurfio safle fydd hwn.

  2. Dau gynllun yn dangos ildio rhannol:
  • cynllun yn nodi'r rhan(nau) o'r drwydded rydych am ei hildio
  • cynllun yn nodi'r rhan(nau) o'r drwydded y byddwch yn ei chadw
  1. Camau rydych wedi'u cymryd i osgoi unrhyw risg o lygredd neu i ddychwelyd y safle i gyflwr boddhaol.
  2. Disgrifiad o’r hyn yr ydych am ei ildio.

  3. Er mwyn hawlio cyfrinachedd neu ddiogelwch gwladol, bydd angen i chi gyflwyno tystiolaeth.

 

Graddfeydd amser

Byddwn yn gwneud penderfyniad cyn pen tri mis o dderbyn cais cyflawn a'r ffi gywir.

Byddwn yn gwirio eich cais ac yn cadarnhau a yw’n gyflawn ac, os bydd yn gyflawn, fe’i nodir fel hyn: ‘wedi’i wneud yn briodol’. Os na fydd yn gyflawn, efallai y byddwn yn gofyn am ragor o wybodaeth gennych. Nid yw’r amserlen benderfynu o dri mis yn dechrau nes byddwn wedi ystyried bod y cais ‘wedi’i wneud yn briodol’.

Diweddarwyd ddiwethaf