Gwneud cais i drosglwyddo trwydded wastraff gyfan neu ran ohoni

BETA: Mae hwn yn wasanaeth newydd — rhowch adborth i'n helpu i'w wella

Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i wneud cais am i drwydded wastraff gyfan neu ran ohoni gael ei throsglwyddo i chi.

Cyn i chi ddechrau

Gwnewch yn siŵr bod gennych chi:

Dogfennau i'w uwchlwytho

  1. Disgrifiad o’r hyn yr ydych am ei gael wedi’i drosglwyddo i chi.

  2. Os yw hwn ar gyfer trosglwyddiad rhannol, bydd angen i chi ddarparu dau gynllun:
  • un ar gyfer y rhannau sy'n weddill gyda'r deiliad presennol
  • un ar gyfer y rhannau y bwriedir eu trosglwyddo i'r deiliad newydd
  1. Eich system reoli, os yw'n newid.

  2. Tystiolaeth bod gennych, neu eich bod yn gweithio tuag at, ‘gymhwyster perthnasol’.

  3. Os ydych am hawlio cyfrinachedd neu ddiogelwch gwladol bydd angen i chi gyflwyno tystiolaeth.

  4. Datganiad wedi'i lofnodi gan ddeiliad presennol y drwydded, neu'ch tystiolaeth na allwch ddod o hyd iddynt.


Graddfeydd amser

Byddwn yn gwneud penderfyniad cyn pen dau fis o dderbyn cais cyflawn a'r ffi gywir.

Os oes unrhyw beth ar goll o'ch cais byddwn yn gofyn i chi amdano.

Efallai y byddwn yn gofyn am fwy o wybodaeth ar gyfer senarios mwy cymhleth. Gallai hyn fod lle:

  • mae nifer o weithgareddau ar y safle
  • mae mwy nag un cais am drosglwyddiad rhannol o'r drwydded
  • mae gollyngiadau i aer, dŵr neu dir yn cael eu rhannu rhwng y gweithredwyr

Yn yr achosion hyn, mae angen i ni fod yn glir pwy fydd yn gwneud beth ar ôl y trosglwyddiad neu drosglwyddiadau er mwyn gwneud y newidiadau cywir i bob trwydded.

Diweddarwyd ddiwethaf