Canllawiau cyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr pecynnu (pEPR)
Mae cyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr pecynnu (pEPR) yn gosod rhwymedigaethau ar sefydliadau yng Nghymru sy'n:
- cyflenwi neu’n mewnforio pecynnau a nwyddau sydd wedi'u pecynnu
- gweithredu fel cynllun cydymffurfio
- ailbrosesu neu allforio gwastraff pecynnu ar gyfer ei ailgylchu
Cyfoeth Naturiol Cymru yw’r rheoleiddiwr ar gyfer y sefydliadau hyn yng Nghymru.
Cynhyrchydd deunydd pecynnu
Os yw eich sefydliad yn cyflenwi neu'n mewnforio deunydd pecynnu mae'n bosibl y bydd rhwymedigaeth arnoch fel cynhyrchydd pecynnu. Mae'n rhaid i gynhyrchwyr deunydd pecynnu gofrestru, adrodd ar ddata pecynnu a thalu tuag at gasglu ac ailgylchu deunydd pecynnu pan ddaw'n wastraff.
Darganfod ar bwy fydd hyn yn effeithio a beth i'w wneud (GOV.UK).
Cynlluniau cydymffurfio cynhyrchwyr
Mae cynlluniau cydymffurfio pecynnu yn fusnesau sy'n helpu cynhyrchwyr deunyddiau pecynnu i gyflawni eu rhwymedigaethau.
Gwirio rhestr yr holl gynlluniau cydymffurfio â phecynnu (GOV.UK).
Os ydych chi eisiau sefydlu cynllun cydymffurfio yng Nghymru e-bostiwch deunyddpacio@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.
Ailbroseswyr ac allforwyr gwastraff pecynnu
Mae angen i sefydliadau sy'n ailgylchu neu'n allforio gwastraff pecynnu gofrestru fel ailbrosesydd neu allforiwr pecynnu a rhoi gwybod am ddata gwastraff pecynnu.
Mae angen i sefydliadau sy’n dymuno cyhoeddi nodiadau adfer deunydd pacio (PRN) wneud cais am achrediad.
Canfod beth sydd angen i ailbroseswyr ac allforwyr gwastraff pecynnu ei wneud (GOV.UK).
Ein cydymffurfiaeth a'n monitro
Rydym yn monitro cydymffurfiaeth busnesau yng Nghymru sydd â chyfrifoldebau o dan pEPR yn unol â'n canllawiau cyhoeddedig ‘Sut rydym yn rheoleiddio’ gan gymhwyso ein
- hegwyddorion rheoleiddio,
- dull rheoleiddio i gyflawni, a
- Safonau ein gwasanaeth rheoleiddio: yr hyn y gallwch ei ddisgwyl gennym.
Mae ein dull rheoleiddio yn canolbwyntio ar gyflawni ein pwrpas i sicrhau rheolaeth gynaliadwy o adnoddau naturiol a chyflawni canlyniadau lles.
Mae hyn yn golygu gweithredu mewn modd sy'n ceisio sicrhau bod anghenion y presennol yn cael eu diwallu heb beryglu gallu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain.
Rydym yn dilyn y cod rheoleiddwyr (Saesneg yn unig), ac yn mabwysiadu dull seiliedig ar wybodaeth sy'n canolbwyntio ar risg ac sy'n canolbwyntio ar fusnesau yr ydym yn eu hadnabod sy'n peri'r risgiau mwyaf i'r drefn becynnu a'r amgylchedd.
Rydym yn monitro busnesau i sicrhau’r canlynol:
- bod cynhyrchwyr deunyddiau pecynnu yng Nghymru yn cyfrannu at dargedau ailgylchu'r DU.
- bod pob cynhyrchydd sydd wedi ymrwymo yn cofrestru ac yn darparu data cywir, gan gynnwys asesiadau ailgylchadwyedd (RAM).
- bod ailbroseswyr ac allforwyr yn cydymffurfio â'u rhwymedigaethau cyfreithiol, gan gynnwys cofrestru, adrodd yn gywir a bodloni eu hamodau achredu yn llawn.
- bod deunydd pecynnu gwastraff yn cael ei ailgylchu'n gyfreithlon, ac i'r safonau cywir.
Rydym yn defnyddio cyfuniad o arolygiadau desg/safle ac archwiliadau i sicrhau bod busnesau'n cydymffurfio, gydag ymweliadau â detholiad o fusnesau sy’n cael eu targedu drwy gydol y flwyddyn.
Mae ein gweithgareddau monitro yn cynnwys:
- asesu perfformiad ac ymddygiad busnesau er mwyn nodi achosion posibl o ddiffyg cydymffurfio.
- asesu a phenderfynu ar geisiadau i gofrestru, achredu a chymeradwyo.
- ymchwilio i 'reidwyr am ddim' (cynhyrchwyr rhwymedig heb eu cofrestru) a chynhyrchwyr 'sydd wedi’u gollwng' (cynhyrchwyr a oedd wedi cofrestru o’r blaen ond nad ydynt wedi ailgofrestru).
- dilysu ac asesu cyflwyniadau ac ymchwilio i gyflwyniadau hwyr neu goll.
- asesu, monitro a dadansoddi nodiadau ailgylchu deunydd pecynnu a gyhoeddir gan ailbroseswyr ac allforwyr, a phrynu gan gynhyrchwyr.
- asesu a phenderfynu ar dystysgrifau a datganiadau cydymffurfiaeth.
- casglu gwybodaeth a dadansoddi tueddiadau data.
- proffilio risg.
Pan fyddwn yn dod o hyd i unrhyw achos o ddiffyg cydymffurfio, byddwn yn dilyn ein polisi gorfodi a sancsiynau er mwyn ystyried y camau gweithredu priodol a sut i gefnogi'r busnes i ddod i gydymffurfio.
Bydd unrhyw gamau gorfodi a gymerwn yn cyfateb i'r risgiau a berir i bobl a'r amgylchedd. Byddwn hefyd yn ystyried difrifoldeb yr achos o dor-cyfraith a’i effaith ar fusnesau cyfreithlon.
Cysylltwch â ni
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â pEPR gallwch anfon e-bost at:deunyddpacio@cyfoethnaturiol.cymru