Datganiad rheoleiddio 013: Storio gwastraff o eiddo a feddiannwyd yn flaenorol ac sy’n berchen i awdurdod lleol neu gymdeithas tai
Mae’r datganiad rheoleiddio hwn yn ddilys tan 31 Mawrth 2026, a bydd wedi cael ei adolygu erbyn hynny. Dylech wirio gyda ni bryd hynny i sicrhau bod y datganiad rheoleiddio yn dal i fod yn ddilys.
Gall CNC dynnu’r datganiad rheoleiddio hwn yn ôl neu ei ddiwygio cyn y dyddiad adolygu os ydym o’r farn bod hynny’n angenrheidiol. Mae hyn yn cynnwys pan nad yw'r gweithgaredd y mae'r datganiad rheoleiddio hwn yn ymwneud ag ef wedi newid.
Datganiad rheoleiddio
Mae'r datganiad rheoleiddio hwn yn ymwneud â storio gwastraff a gynhyrchwyd gan denantiaid ac sydd mewn eiddo gwag y mae awdurdod lleol neu gymdeithas tai yn berchen arno.
Pan fydd cyn denant yn gadael gwastraff mewn eiddo y mae awdurdod lleol neu gymdeithas tai yn berchen arno, ystyrir mai’r tenant yw cynhyrchydd y gwastraff. Nid yw'r gwastraff hwn wedi cael ei gynhyrchu gan yr awdurdod lleol na'r gymdeithas tai.
Fel arfer byddai angen trwydded amgylcheddol ar awdurdod lleol neu gymdeithas tai ar gyfer gweithrediad gwastraff i storio'r gwastraff hwn. Mae hyn oherwydd nad yw’n dod o fewn yr esemptiad gwastraff: NWFD 3 storio gwastraff dros dro mewn man a reolir gan y cynhyrchydd.
Fodd bynnag, os byddwch yn cydymffurfio â’r amodau yn y datganiad rheoleiddio hwn, gallwch swmpio a storio gwastraff a adawyd gan gyn-denantiaid dros dro, cyn iddo gael ei gasglu, mewn lleoliad a reolir gan yr awdurdod lleol neu gymdeithas tai heb drwydded amgylcheddol ar gyfer gweithrediad gwastraff.
Os na fedrwch gydymffurfio â'r amodau yn y datganiad rheoleiddio hwn, mae angen i chi wneud cais am drwydded amgylcheddol.
Pryd y mae’r datganiad rheoleiddio hwn yn gymwys
Nid yw’r datganiad rheoleiddio hwn ond yn gymwys i awdurdodau lleol a chymdeithasau tai sy’n storio gwastraff nad yw’n beryglus, dros dro, a adawyd gan gyn-denantiaid pan fyddant yn clirio eiddo gwag.
Nid yw'r datganiad rheoleiddio hwn yn gymwys i unrhyw weithgaredd arall, hyd yn oed os yw’n dod o dan yr un ddeddfwriaeth. Mae’n bosibl y bydd angen i chi gael trwyddedau eraill o hyd ar gyfer gweithgareddau eraill yr ydych chi’n eu cyflawni.
Yr amodau y mae’n rhaid i chi gydymffurfio â nhw
Rhaid i chi wneud y canlynol:
- storio gwastraff nad yw'n beryglus yn unig
- storio’r gwastraff mewn man a reolir gan yr awdurdod lleol neu’r gymdeithas tai
- storio'r gwastraff am ddim mwy na thri mis
- storio dim mwy na 50m3 o wastraff nad yw'n hylif ar unrhyw adeg
- storio dim mwy na 1,000 litr o wastraff hylifol ar unrhyw adeg
- storio unrhyw wastraff hylifol mewn cynhwysydd â system atal eilaidd i atal gwastraff rhag dianc
- storio gwastraff mewn man diogel, sef man lle rydych wedi cymryd pob rhagofal rhesymol i atal gwastraff rhag dianc a lle na all aelodau’r cyhoedd gael mynediad iddo
- peidio â chymysgu gwahanol fathau o wastraff
- cadw cofnodion am ddwy flynedd sy’n dangos eich bod wedi cydymffurfio â’r datganiad rheoleiddio hwn – rhaid i chi sicrhau bod y cofnodion hyn ar gael i Cyfoeth Naturiol Cymru ar gais
Gorfodi
Nid yw'r datganiad rheoleiddio hwn yn newid y gofyniad cyfreithiol i chi gael trwydded amgylcheddol ar gyfer gweithrediad gwastraff pan ydych yn storio gwastraff o eiddo a feddiannwyd yn flaenorol ac sy’n berchen i awdurdod lleol neu gymdeithas tai.
Fodd bynnag, ni fydd CNC fel arfer yn cymryd camau gorfodi os nad ydych yn cydymffurfio â’r angen i gael trwydded amgylcheddol os ydych yn bodloni’r gofynion yn y datganiad rheoleiddio hwn.
Yn ogystal, ni chaiff eich gweithgaredd achosi (na bod yn debygol o achosi) llygredd i'r amgylchedd na niwed i iechyd pobl, ac ni chaniateir iddoff:
- beri risg i ddŵr, aer, pridd, planhigion nac anifeiliaid
- peri niwsans drwy sŵn neu arogleuon
- cael effaith andwyol ar gefn gwlad neu leoedd o ddiddordeb arbennig