Penderfyniad rheoleiddio 098: Storio’n ddiogel dros dro wastraff tipio anghyfreithlon a gwastraff o sgriniau sbwriel a biniau cyhoeddus

Mae'r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn ddilys tan 1 Mehefin 2025, a bydd wedi cael ei adolygu erbyn hynny. Dylech wirio gyda ni bryd hynny i sicrhau bod y penderfyniad rheoleiddiol yn dal i fod yn ddilys.

Gall CNC dynnu’r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn ôl neu ei ddiwygio cyn y dyddiad adolygu os ydym o’r farn bod hynny’n angenrheidiol. Mae hyn yn cynnwys pan nad yw'r gweithgareddau y mae'r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn ymwneud â hwy wedi newid.

Penderfyniad rheoleiddiol

Os byddwch yn cydymffurfio â'r gofynion isod, byddwn yn caniatáu defnyddio lludw tanwydd maluriedig heb ei rwymo a lludw gwaelod ffwrnais o dan amgylchiadau penodol heb fod angen cael trwydded amgylcheddol.

Ystyriodd y Prosiect Protocolau Gwastraff a ellid datblygu safle diwedd gwastraff generig ar gyfer defnyddio lludw tanwydd maluriedig heb ei rwymo a lludw gwaelod ffwrnais heb ei rwymo. Daeth y gwaith i'r casgliad na ellid llunio protocol ansawdd, yn nodi'r meini prawf diwedd gwastraff ar gyfer cynhyrchu a defnyddio lludw tanwydd maluriedig a lludw gwaelod ffwrnais heb eu rhwymo, ar hyn o bryd. Mae’r diwydiant ar hyn o bryd yn gweithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru i asesu effaith defnyddio lludw tanwydd maluriedig heb ei rwymo ar yr amgylchedd.

Mae’r penderfyniad rheoliadol hwn yn gymwys os ydych yn storio’n ddiogel dros dro wastraff tipio anghyfreithlon a gwastraff o gliriadau sgriniau sbwriel a biniau sbwriel cyhoeddus ar safle heblaw’r safle y cafodd ei gynhyrchu, tra’n aros i’r gwastraff hwnnw gael ei adfer neu ei waredu yn rhywle arall.

Ystyrir mai’r safle lle mae gwastraff wedi'i dipio'n anghyfreithlon yw'r safle cynhyrchu. Mae'r un peth yn wir am wastraff sydd wedi’i glirio o sgriniau sbwriel ar ddyfrffyrdd neu pan fo gwastraff wedi'i roi mewn biniau sbwriel cyhoeddus. Pan fydd rhywun yn eu casglu ac yn mynd â nhw i safle i'w storio cyn iddynt gael eu casglu i'w hadfer yn derfynol neu eu gwaredu yn rhywle arall, yna mae angen cael trwydded amgylcheddol ar gyfer y safle hwnnw.

Os na fedrwch gydymffurfio â'r amodau yn y penderfyniad rheoleiddiol hwn, mae angen i chi wneud cais am drwydded amgylcheddol.

Yr amodau y mae’n rhaid i chi gydymffurfio â nhw

Ni fyddwn yn mynd ar drywydd cais am drwydded amgylcheddol ar gyfer y gweithgaredd:

  • pan mai chi yw perchennog y tir neu chi sy’n gyfrifol am glirio’r tir lle mae’r deunydd a dipiwyd yn anghyfreithlon wedi’i adael, lle mae’r sgrin sbwriel wedi’i chlirio, neu lle mae’r bin sbwriel wedi’i leoli
  • pan mai chi hefyd yw perchennog y tir neu chi sy'n gyfrifol am y safle lle mae'r gwastraff yn cael ei storio
  • pan nad yw cyfanswm y gwastraff nad yw'n beryglus sydd wedi’i storio ar unrhyw un safle, ar unrhyw un adeg, yn fwy nag 20 metr ciwbig
  • pan nad yw cyfanswm y gwastraff peryglus sydd wedi’i storio ar unrhyw safle, ar unrhyw adeg, yn fwy na phum metr ciwbig
  • pan fo'r gwastraff wedi’i storio'n ddiogel ac am ddim mwy na chwe mis. Ystyr ‘yn ddiogel’ yw na all y gwastraff ddianc a bod pobl heb awdurdod wedi’u hatal rhag cael mynediad iddo
  • pan fo unrhyw lwythi o wastraff peryglus yn cael eu trosglwyddo yn unol â Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005

Gorfodi

Nid yw'r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn newid y gofyniad cyfreithiol i chi gael trwydded amgylcheddol ar gyfer gweithrediad gwastraff pan ydych yn storio’n ddiogel dros dro wastraff a dipiwyd yn anghyfreithlon a gwastraff o sgriniau sbwriel a biniau cyhoeddus.

Fodd bynnag, ni fydd CNC fel arfer yn cymryd camau gorfodi os na fyddwch yn cydymffurfio â’r angen i gael trwydded amgylcheddol os ydych yn bodloni’r gofynion yn y penderfyniad rheoleiddiol hwn.

Yn ogystal, ni chaiff eich gweithgaredd achosi (na bod yn debygol o achosi) llygredd i'r amgylchedd na niwed i iechyd pobl, ac ni chaniateir iddo:

  • beri risg i ddŵr, aer, pridd, planhigion nac anifeiliaid
  • peri niwsans drwy sŵn neu arogleuon
  • cael effaith andwyol ar gefn gwlad neu leoedd o ddiddordeb arbennig

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf