Datganiad rheoleiddio 100: Defnyddio clai gwastraff mewn lagynau slyri neu gronfeydd dyfrhau
Mae'r datganiad rheoleiddio hwn yn ddilys tan 1 Gorffennaf 2027, a bydd wedi cael ei adolygu erbyn hynny. Dylech wirio gyda ni bryd hynny i sicrhau bod y datganiad rheoleiddio yn dal i fod yn ddilys.
Gall CNC dynnu’r datganiad rheoleiddio hwn yn ôl neu ei ddiwygio cyn y dyddiad adolygu os ydym o’r farn bod hynny’n angenrheidiol. Mae hyn yn cynnwys pan nad yw'r gweithgareddau y mae'r datganiad rheoleiddio hwn yn ymwneud â hwy wedi newid.
Datganiad rheoleiddio
Os ydych yn cydymffurfio â’r amodau yn y datganiad rheoleiddio hwn, nid oes angen i chi feddu ar drwydded amgylcheddol ar gyfer gweithrediad gwastraff i ddefnyddio hyd at 6,000 tunnell o glai gwastraff (rhestr cod gwastraff 17 05 04) o safleoedd adeiladu a chloddio i adeiladu lagŵn slyri neu gronfa storio dŵr gaeaf.
Os na fedrwch gydymffurfio â'r amodau yn y datganiad rheoleiddio hwn, mae angen i chi wneud wneud cais am drwydded amgylcheddol.
Yr amodau y mae’n rhaid i chi gydymffurfio â nhw
Rhaid i chi fodloni'r amodau hyn i gydymffurfio â'r datganiad rheoleiddio hwn.
Rhaid i chi wneud y canlynol:
- adeiladu lagynau slyri yn unol â’r rheoliadau ar storio silwair, slyri ac olew tanwydd amaethyddol
- sicrhau bod y gronfa storio dŵr gaeaf yn bodloni gofynion a safonau Deddf Cronfeydd Dŵr 1975 a Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010
- sicrhau bod y clai wedi'i ardystio'n addas i'r diben gan beiriannydd â chymwysterau addas
Ni ellir defnyddio'r datganiad rheoleiddio hwn ar y cyd ag esemptiad gwastraff: U1 – defnyddio gwastraff ym maes adeiladu (Saesneg yn unig).
Gorfodi
Nid yw'r datganiad rheoleiddio hwn yn newid y gofyniad cyfreithiol i chi gael trwydded amgylcheddol ar gyfer gweithrediad gwastraff pan ydych yn defnyddio clai gwastraff mewn lagynau slyri neu gronfeydd dyfrhau.
Fodd bynnag, ni fydd CNC fel arfer yn cymryd camau gorfodi os nad ydych yn cydymffurfio â’r angen i gael trwydded amgylcheddol os ydych yn bodloni’r gofynion yn y datganiad rheoleiddio hwn.
Yn ogystal, ni chaiff eich gweithgaredd achosi (na bod yn debygol o achosi) llygredd i'r amgylchedd na niwed i iechyd pobl, ac ni chaniateir iddo:
- beri risg i ddŵr, aer, pridd, planhigion nac anifeiliaid
- peri niwsans drwy sŵn neu arogleuon
- cael effaith andwyol ar gefn gwlad neu leoedd o ddiddordeb arbennig