Swyddog Ffeithluniau
Dyddiad cau: 18/06/2025| Cyflog: Gradd 5: £36,246 - £39,942 | Lleoliad: Hyblyg
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cadw'r hawl i gau'r swydd hon cyn y dyddiad cau a hysbysebir
Tîm / Cyfarwyddiaeth: Prosiectau ac Ymgyrchoedd Cyfathrebu / Cyfathrebu, Cwsmeriaid a Masnachol
Cyflog cychwynnol: £36,246 yn codi i £39,942 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser).
Math o gytundeb: Penodiad cyfnod penodol tan until 30/03/2026 gyda'r posibilrwydd o estyniad
Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad)
Rhif swydd: 203954
Y rôl
Datblygu a chyflawni gwaith hyrwyddo integredig ar ran Llwybr Arfordir Cymru a'r Llwybrau Cenedlaethol. Mae hyn yn cynnwys gweithgareddau megis perthynas â'r cyfryngau, digidol, cyfryngau cymdeithasol, cyfathrebu mewnol, cynhyrchu fideos, brandio a dylunio.
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i swyddfa CNC o fewn y lle, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Jont Bulbeck ar jont.bulbeck@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau
Amdanom ni
Byddwch yn rhan o'r tîm cyfathrebu corfforaethol, ac yn gweithio'n agos gyda chydweithwyr sy'n gweithio ar draws ystod o ddisgyblaethau cyfathrebu a materion allanol. Byddwch hefyd yn gweithio'n agos gyda'r timau polisi hamdden a gweithredol i hyrwyddo pob agwedd ar Lwybr Arfordir Cymru a'r Llwybrau Cenedlaethol
Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud
- Gweithio'n agos gyda Thîm Mynediad Awyr Agored a Hamdden CNC ar hyrwyddo Llwybr Arfordir Cymru a’r Llwybrau Cenedlaethol.
- Cynllunio, datblygu, trefnu a chydlynu gweithgaredd hyrwyddo ar Lwybr Arfordir Cymru a’r Llwybrau Cenedlaethol ar ran CNC.
- Gweithredu fel prif gyswllt o fewn CNC ar gyfer hyrwyddo Llwybr Arfordir Cymru a’r Llwybrau Cenedlaethol, cysylltu a gweithio ar y cyd â rhanddeiliaid mewnol ac allanol, gan feithrin perthnasoedd i gefnogi cyflawni canlyniadau.
- Cynhyrchu cynnwys deniadol ac effeithiol o ansawdd uchel, i gefnogi hyrwyddo Llwybr Arfordir Cymru a’r Llwybrau Cenedlaethol.
- Cyflwyno gwaith cyfathrebu integredig ar draws pob sianel, gyda ffocws ar y gynulleidfa/cwsmer, gan weithio'n agos gyda thîm Mynediad Awyr Agored a Hamdden CNC a phartneriaid allweddol eraill
- Cyfrannu at ddatblygu ymgyrchoedd creadigol a chynlluniau Cyfathrebu.
- Cyfrannu at gyflawni nifer o brosiectau neu ymgyrchoedd.
- Cyfrannu at ymateb i ddigwyddiadau, gan gynnwys gweithio y tu allan i oriau gwaith.
- Defnyddio mewnwelediad i lywio eich dull cyfathrebu.
- Darparu cyngor i’r busnes er mwyn diogelu a hyrwyddo ein henw da a brandiau Llwybr Arfordir Cymru a’r Llwybrau Cenedlaethol a CNC yn fwy cyffredinol, naill ai’n annibynnol neu gyda chefnogaeth gan uwch aelodau’r tîm pan fo angen.
- Bod yn ymwybodol o risgiau i enw da ac uwch gyfeirio yn ôl yr angen
- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
- Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
- Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
- Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.
Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau
Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.
- Peth profiad o weithio mewn tîm cyfathrebu proffesiynol mewn asiantaeth cysylltiadau cyhoeddus (ar lefel swyddog gweithredol cyfrif).
- Profiad o weithio o fewn y sector amgylcheddol a hamdden awyr agored a mynediad
- Sgiliau da ar draws pob disgyblaeth a sianel hyrwyddo, marchnata a chyfathrebu.
- Aelod o gorff proffesiynol perthnasol ac ymrwymiad gweladwy i'ch DPP eich hun (neu’ch bod yn barod i ymuno).
- Dealltwriaeth dda o gylch gwaith, rolau, polisïau a blaenoriaethau CNC er mwyn gallu ysgogi ymgyrchoedd cyfathrebu effeithiol i gefnogi'r rhain.
- Gallu dibynnu ar eich barn i wneud penderfyniadau.
- Byddwch yn astudio ar gyfer cymhwyster proffesiynol o fewn eich disgyblaeth benodol neu bydd gennych radd mewn pwnc perthnasol neu lefel gyfatebol o brofiad.
Gofynion y Gymraeg
- Hanfodol: Lefel A1 - Lefel Mynediad (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg)
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Buddion
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Daliwch ati i ddarllen
Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd. Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.
Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.
Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.
Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal. Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.
Gwnewch gais am y rôl hon
Cadwch y manylion hysbyseb yma ar gyfer cyfeirnod yn y dyfodol gan na fyddant ar gael ar-lein ar ôl y dyddiad cau.