Gwneud cais

Bydd angen i chi chwilio a gwneud cais ar-lein am ein swyddi gwag.

Gallwch wneud cais yn Gymraeg neu Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal.

Bydd y ffurflen gais yn gofyn i chi:

  • roi eich manylion cyswllt a gwybodaeth bersonol arall.
  • nodi lefel eich Cymraeg.
  • defnyddio enghreifftiau STAR i ddangos sut rydych chi’n bodloni pob gofyniad yn yr adran ‘Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau’ yn yr hysbyseb swydd.

Bydd opsiwn hefyd i chi uwchlwytho eich CV.

Llunio’r rhestr fer

Ar ôl y dyddiad cau, bydd y rheolwr recriwtio ac aelodau’r panel recriwtio yn adolygu’r holl geisiadau.

Rydym yn gwarantu cyfweliad i bob person anabl y mae eu cais yn bodloni’r meini prawf hanfodol ar gyfer y swydd.

Os ydych chi’n cyrraedd y rhestr fer, cewch eich gwahodd i gyfweliad.

Byddwch hefyd yn cael gwybod os ydych yn aflwyddiannus yn ystod y cam o lunio’r rhestr fer.

Cyfweld

Mae pob hysbyseb swydd yn cynnwys dyddiad arfaethedig neu bendant ar gyfer cyfweliadau

Bydd hefyd yn nodi a fydd y cyfweliad ar-lein neu wyneb yn wyneb.

Rydym yn defnyddio Microsoft Teams ar gyfer ein cyfweliadau ar-lein.

Bydd ein cyfweliadau wyneb yn wyneb yn cael eu cynnal yn un o’n swyddfeydd.

Gallwch ofyn am gynnal y cyfweliad yn y Gymraeg neu’r Saesneg.

Bydd angen i chi ddweud wrthym cyn y cyfweliad os oes angen unrhyw addasiadau rhesymol arnoch, fel:

  • meddalwedd cyfrifiadurol penodol
  • os oes arnoch angen unrhyw e-byst a dogfennau mewn fformat hygyrch
  • cymorth arbenigol, er enghraifft dehonglydd iaith arwyddion

Bydd tri o bobl ar y panel cyfweld.

Dylech ddefnyddio’r dull STAR i'ch helpu i strwythuro'ch atebion yn ystod y cyfweliad.

Cynnig y rôl

Ar ôl i’r holl gyfweliadau gael eu cynnal, bydd y rheolwr recriwtio yn cysylltu â’r ymgeisydd llwyddiannus i gynnig y rôl iddynt.

Bydd y rheolwr recriwtio hefyd yn cysylltu â’r holl ymgeiswyr aflwyddiannus.

Mae ein proses sgrinio ar gyfer staff newydd yn cynnwys cael geirdaon a gwirio eich hawl i weithio.

Diweddarwyd ddiwethaf