Lleoliadau, prentisiaethau a gwirfoddoli

Yn Cyfoeth Naturiol Cymru, rydym wedi ymroi i ddatblygu gweithlu medrus ar gyfer Cymru.
Rydym yn datblygu amrywiaeth o gyfleoedd am leoliadau a rydym yn cynnig cyfleoedd i wirfoddoli.
Byddwn yn diweddaru’r dudalen hon pan fydd rhagor o fanylion i’w rhannu.
Lleoliadau sylfaen (prentisiaethau)
Bydd ein lleoliadau sylfaen yn rolau lefel prentisiaeth ar gyfer pobl sy’n gadael yr ysgol neu’r coleg ac sy’n 16 oed neu’n hŷn.
Lleoliadau i fyfyrwyr (blwyddyn ryngosod/lleoliadau diwydiant)
Bydd y lleoliadau hyn yn cael eu hanelu at fyfyrwyr sy’n astudio ar gyfer gradd israddedig neu ôl-raddedig.
Lleoliadau i raddedigion
Bydd ein lleoliadau i raddedigion ar gyfer pobl sydd wedi cwblhau gradd israddedig neu ôl-raddedig.
Rydym yn bwriadu cynnal cynllun peilot i raddedigion yn y flwyddyn academaidd 2026-2027.
Cyfleoedd gwirfoddoli
Mae ein cyfleoedd i wirfoddolwyr ar hyn o bryd wedi’u rhestru isod:
- Mae gan ein Tîm Rheoli Tir yn y De-orllewin gyfleoedd ar gynllun Gwirfoddolwyr Gŵyr.
- Mae Cyfoeth Naturiol Cymru ac Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru yn bartneriaid ar Brosiect Dileu Jac y Neidiwr. Nod y prosiect yw rheoli effaith rhywogaethau estron goresgynnol ar dair afon yng Ngorllewin Cymru. Am ragor o wybodaeth am gyfleoedd gwirfoddoli ewch i Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru.
Adnoddau addysg
Nid oes gennym gynllun profiad gwaith i fyfyrwyr ac nid ydym yn cynnig lleoliadau i grwpiau ieuenctid ac ysgolion.
Mae gennym ystod o adnoddau addysg i ddarparwyr addysg ac arweinwyr grwpiau.