O oresgynwyr cudd i 2,000 o goed newydd – dathlu blwyddyn o fuddugoliaethau ar afon Gwy uchaf

Y mis diwethaf yn Sioe Frenhinol Cymru, fe wnaethom ni ddathlu pen-blwydd cyntaf Prosiect Adfer Dalgylch Gwy Uchaf – ac am flwyddyn mae hi wedi bod!

O fynd i'r afael â rhywogaethau oresgynnol i blannu 2,000 o goed brodorol, mae'r prosiect wedi dod â phobl, natur a chamau ymarferol ynghyd i helpu i adfer afon Gwy uchaf a sicrhau gwydnwch ar gyfer y dyfodol.

Buddugoliaethau mawr yn ein blwyddyn gyntaf

Mynd i'r afael â rhywogaethau goresgynnol
Arweiniodd arolygon y llynedd at ddarganfod pla nas cofnodwyd o'r blaen o bidyn-y-gog Americanaidd ar un o lednentydd afon Gwy, a gwnaeth wybodaeth gan aelod o’r cyhoedd ein cyfeirio ni at blanhigion eraill sydd mewn perygl o ymledu ymhellach. Mae pidyn-y-gog Americanaidd yn blanhigyn goresgynnol sy'n lledaenu ei hadau trwy nentydd ac afonydd. Mae'n hanfodol ein bod yn atal ymlediad y rhain ac yn ei atal rhag ymledu i brif afon Gwy. Diolch i waith rheoli wedi'i dargedu, rydym eisoes yn gwneud cynnydd o ran ei atal rhag ymledu ymhellach. Ochr yn ochr â hyn, mae gwaith arolygu ar gyfer jac y neidiwr yn mynd rhagddo ar lednentydd allweddol, i helpu i gynllunio strategaeth ‘o'r brig i'r bôn’ i gael gwared ar y rhywogaeth dros y blynyddoedd nesaf. Mae eich cofnodion o weld y rhywogaeth yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol – daliwch ati i roi gwybod i ni beth rydych chi'n ei weld!

Straeon llwyddiant ‘arafu’r llif’
Gan weithio yng nghoedwigoedd Hafren a Tharenig Llywodraeth Cymru, rydym wedi gwneud gwaith syml ond effeithiol, fel gosod argaeau sy'n gollwng dŵr, byndiau, a blocio systemau draenio coedwigoedd. Mae'r rhain wedi arafu dŵr llifogydd, dal gwaddod, ailgysylltu gorlifdiroedd, a chreu cynefinoedd cyfoethocach i fywyd gwyllt – buddugoliaeth enfawr i'r afonydd a'r dirwedd o'u cwmpas.

Ym mis Mawrth, croesawyd Huw Irranca-Davies, y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, i Goedwig Tarenig i weld y gwaith yn uniongyrchol. Canmolodd effaith y prosiect a thynnodd sylw at ei rôl wrth wella iechyd afonydd a gwydnwch yn erbyn newid yn yr hinsawdd ledled Cymru.

Mae Coedwig Tarenig bellach yn cael ei defnyddio fel safle arddangos enghreifftiol, gan ddangos sut y gellir efelychu atebion ar sail natur ar dir y llywodraeth er budd afonydd eraill ledled y wlad.

Trawsnewid ffermydd ac afonydd
Mae dau gynllun fferm mawr eisoes wedi gwneud gwahaniaeth, gan osod cilometrau o ffensys a chreu clustogfeydd newydd, pwyntiau dyfrio oddi ar yr afon a gwlyptiroedd newydd. Bydd y prosiectau hyn yn lleihau erydu, yn gwella ansawdd dŵr, ac yn cefnogi rhywogaethau sydd mewn perygl fel y fisglen berlog. Trwy gysylltu ffermydd ar draws afon Gwy uchaf, rydym yn gweld effaith gronnus – mae'r dull ar sail dalgylchoedd wir yn gwneud yr afonydd yn iachach.

2,000 o goed wedi'u plannu
Plannodd ein tîm a'n partneriaid 2,000 o goed ar un fferm ar hyd yr afon, a bydd y rhain, unwaith y byddant wedi tyfu'n llawn, yn sefydlogi glannau'r afon ac yn creu cysgod hanfodol i bysgod yn ystod cyfnodau o dywydd poeth yn y dyfodol. Mae gwreiddiau'r coed hefyd yn creu cynefinoedd newydd i fywyd gwyllt, gan helpu ein hafonydd i ffynnu.

Blwyddyn o bartneriaethau cryf
O ffermwyr i elusennau cadwraeth, ymunodd dros 50 o randdeiliaid â'n gweithdy cyntaf yn ardal afon Gwy uchaf fis Hydref diwethaf. Ers hynny, rydym wedi cynnal cysylltiadau cryf â sefydliadau fel yr Ymddiriedolaeth Cynefinoedd Dŵr Croyw, Sefydliad Gwy ac Wysg, Dŵr Cymru, Coed Cadw, ac ymddiriedolaethau natur lleol. Gyda'n gilydd, rydym yn cynllunio adferiad hirdymor sy'n fuddiol i bawb – pobl a natur fel ei gilydd.

Golwg o’r awyr
Mae arolygon drôn wedi tynnu lluniau ‘cyn ac ar ôl’ syfrdanol o'n gwaith, gan ein helpu i gynllunio, ac ysbrydoli rhagor o ffermwyr i gymryd rhan. Mae’r lluniau o'r awyr yn uchafbwynt go iawn – ac yn gyfle i weld y dirwedd yn trawsnewid o uwchben, wrth i'r newidiadau o'r gwaith rydym wedi'i gyflawni ddechrau dwyn ffrwyth.

Beth sydd nesaf?

Bydd y flwyddyn nesaf yn adeiladu ar y momentwm hwn – gan weithio gyda ffermwyr a pherchnogion tir i gyflawni mwy o waith ar ffermydd ar lan yr afon, ymestyn mesurau arafu’r llif i goedwigoedd eraill, ehangu’r gwaith o blannu coed, a pharhau â’r frwydr yn erbyn rhywogaethau planhigion goresgynnol.

Dywedodd arweinydd y prosiect, Susie Tudge:

“Mae'r flwyddyn gyntaf hon wedi dangos beth sy'n bosibl pan fyddwn yn cydweithio â pherchnogion tir, ffermwyr, cymunedau a sefydliadau lleol. Rydym wedi cyflawni newid go iawn ar lawr gwlad, wedi meithrin cydberthnasau parhaol, ac wedi gwneud y gwaith paratoi ar gyfer adfer ardal afon Gwy uchaf ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.”

--

Mae Prosiect Adfer Dalgylch Gwy Uchaf yn rhan o raglen ehangach Cyfoeth Naturiol Cymru a ariennir gan Gronfa Argyfwng Natur a Hinsawdd Llywodraeth Cymru. Mae'n ymwneud â diogelu bywyd gwyllt gwerthfawr, adfer cynefinoedd, gwella ansawdd dŵr, a gwneud ein hafonydd yn fwy gwydn i newid yn yr hinsawdd.

I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ein gwaith, gallwch ein dilyn ar Facebook, X (Twitter gynt) ac Instagram, neu weld cylchlythyrau ein prosiect yma.

Os hoffech chi roi gwybod am rywogaethau goresgynnol neu gymryd rhan, anfonwch neges e-bost atom i adfergwyuchaf@cyfoethnaturiol.cymru

 

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru