Gwaharddeb wedi’i sicrhau i amddiffyn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Magwyr a Gwndy rhag difrod pellach

Ardal o dir wedi'i godi â gwastraff ar Dir Comin Whitewall

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru a Chyngor Sir Fynwy wedi sicrhau gwaharddeb gan yr Uchel Lys i atal rhagor o weithgarwch anawdurdodedig a difrod amgylcheddol ar Gomin Whitewall, Magwyr, sy’n rhan o Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) hynod sensitif, SoDdGA Magwyr a Gwndy.

Mae’r waharddeb lawn, a gyflwynwyd ar 26 Chwefror 2026 yng Nghofrestrfa Ardal Caerdydd yr Uchel Lys, yn gwahardd yr unigolion a enwir isod:

  • Ronald Connors, Jeremiah Connors, Luke Williams, Anthony Strange, Morgan Harvey, Andrew Barton a Tobermore Paving & Development Ltd

 a “phersonau anhysbys” rhag cyflawni amrywiaeth o weithgareddau ar y tir, gan gynnwys y canlynol:

  • Dyddodi gwastraff neu ddeunyddiau
  • Cynnal gwaith adeiladu neu waith paratoi’r pridd
  • Difrodi neu addasu ffosydd draenio neu gyrsiau dŵr, gan gynnwys Whitewater Winter Sewer Reen a Mill Reen
  • Ymyrryd â seilwaith rheoli perygl llifogydd
  • Symud neu gael gwared ar flociau concrit a osodwyd i ddiogelu’r safle

Wedi i’r gorchymyn gael ei gyflwyno, ymatebodd Cyfoeth Naturiol Cymru a Chyngor Sir Fynwy yn gyflym i ddiogelu’r fynedfa i’r safle drwy osod blociau concrit mawr er mwyn atal mynediad pellach heb awdurdod.

Mae SoDdGA Magwyr a Gwndy yn rhan hanfodol o Wastadeddau Gwent, un o’r tirweddau mwyaf ecolegol gyfoethog ac arwyddocaol hanesyddol yng Nghymru.

Mae’r safle wedi’i warchod oherwydd ei rwydwaith o ffosydd draenio traddodiadol o waith dyn a geir ar draws Gwastadeddau Gwent, sy’n gartref i ystod eang o blanhigion a phryfed dyfrol prin, ac yn safle pwysig i’r gardwenynen feinlais.

Gan fod y waharddeb hefyd yn berthnasol i “bersonau anhysbys”, gallai unrhyw unigolyn sy’n mynd i mewn i’r safle i gyflawni gweithgareddau sydd wedi’u cyfyngu gael ei gyhuddo o ddirmyg llys, a allai olygu wynebu dirwyon, atafaeliad o asedau, neu garchar.

Dywedodd Ioan Williams, Rheolwr Gweithrediadau (Tir ac Asedau) Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer De-ddwyrain Cymru:

“Mae SoDdGA Magwyr a Gwndy yn cael ei gydnabod yn rhyngwladol am ei fywyd gwyllt prin a’i systemau ffosydd hynafol, ac nid ydym am ganiatáu iddo gael ei ddinistrio ymhellach.
“Mae sicrhau’r gorchymyn hwn yn adlewyrchu misoedd o waith caled ar ran ein timau a’n partneriaid yng Nghyngor Sir Fynwy. Mae’n gam hanfodol i amddiffyn un o’r tirweddau mwyaf sensitif a hanesyddol bwysig yng Nghymru.
“Ni ddylai unrhyw un sy’n ystyried torri’r waharddeb hon – p’un a yw wedi’i enwi yn y gorchymyn ai peidio – fod mewn unrhyw amheuaeth ynghylch y canlyniadau, a dylai’r waharddeb hon fod yn arf ataliol clir.
“Os byddwch yn mynd i mewn i’r safle hwn i ddympio gwastraff, cynnal gwaith, difrodi ffosydd draenio neu ymyrryd â’r blociau concrit, byddwch yn wynebu camau cyfreithiol. Byddwn yn parhau i ddefnyddio pob offeryn cyfreithiol sydd ar gael i amddiffyn y SoDdGA hwn a dwyn y rhai sy’n gyfrifol i gyfrif.”

Dywedodd y Cynghorydd Paul Griffiths, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Fynwy a’r Aelod Cabinet dros Gynllunio a Datblygu Economaidd:

“Mae Comin Whitewall yn dirwedd o bwys cenedlaethol y mae’n rhaid ei diogelu oherwydd ei bywyd gwyllt a’i chyfraniad at reoli perygl llifogydd.
“Wedi’i lleoli o fewn SoDdGA Gwastadeddau Gwent, mae’r ardal hon ymhlith y mwyaf o’i bath yng Nghymru. Mae’n hanfodol ar gyfer amrywiol rywogaethau a chynefinoedd, ar lefel genedlaethol a rhyngwladol.
“Mae’r waharddeb hon yn anfon neges glir na fydd gweithgarwch anghyfreithlon sy’n achosi niwed amgylcheddol yn cael ei oddef yn Sir Fynwy.
“Rydym wedi gweithio’n agos gyda Cyfoeth Naturiol Cymru i sicrhau’r gorchymyn hwn ac i gymryd camau gweithredu ar unwaith ar lawr gwlad i atal difrod pellach. Bydd y cyngor, ochr yn och â’n partneriaid, yn parhau i ddefnyddio’r holl bwerau cyfreithiol sydd ar gael i ddiogelu’r safle sensitif hwn a’i amddiffyn ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”