Tractor coch yn tynnu cwch bach ar drelar allan o'r môr

Ynglŷn â’r prosiect

Rydym yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar brosiect i werthuso effaith pysgota ar nodweddion Ardaloedd Morol Gwarchodedig yng Nghymru. 

Bydd yr allbynnau o Brosiect Asesu Gweithgareddau Pysgota Cymru yn:  

  • Sicrhau ein bod yn diogelu ein rhwydwaith o Ardaloedd Morol Gwarchodedig yng Nghymru
  • Cyfrannu at ddefnyddio pysgod môr yn gynaliadwy
  • Sicrhau bod yr amgylchedd morol yn fwy sefydlog

Er mwyn gwneud hyn, byddwn yn cynnal nifer o asesiadau, gan ddechrau gyda’r hyn sydd â’r risg mwyaf, megis offer symudol ar gynefinoedd riff sensitif. Mae deugain o’r rhain sydd wedi eu hasesu bellach wedi cael eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru ac i’w gweld ar gwaelod y dudalen yma.

Bydd allbynnau’r Prosiect hwn yn cefnogi amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 a’r Gyfarwyddeb Cynefinoedd drwy gyfrannu at y broses o reoli’r amgylchedd morol yn gynaliadwy.

Cewch wybod mwy o fanylion yn y dogfennau y byddwn yn eu defnyddio i lywio’r gwaith asesu:

Canlyniadau'r prosiect

Roedd Prosiect Asesu Gweithgareddau Pysgota Cymru yn archwilio sut y gallai gweithgareddau pysgota ryngweithio â chynefinoedd a rhywogaethau gwarchodedig yn nyfroedd Cymru.

Nododd y prosiect 552 o ryngweithiadau posibl rhwng nodweddion pysgota, a chwblhaodd asesiadau ar gyfer 374 o'r rhyngweithiadau hyn.

Roedd yr asesiadau'n cynnwys:

  • 318 o ryngweithiadau pysgota-cynefin, a
  • 56 o ryngweithiadau pysgota-rhywogaethau symudol, gan gynnwys pysgod, mamaliaid ac adar

Ni chafodd y rhyngweithiadau sy'n weddill, sydd ar gael yn y Matrics, eu hasesu oherwydd eu bod yn cael eu hystyried yn flaenoriaeth is yn seiliedig ar ffactorau megis tebygolrwydd y digwyddiad, effaith bosibl, tystiolaeth sydd ar gael a pherthnasedd rheoli.

Mae'r holl asesiadau a gwblhawyd wedi'u darparu i Lywodraeth Cymru. Mae asesiadau a gyhoeddwyd ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru (LLYW.CYMRU).

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Matrics EXCEL [478.9 KB]
Adroddiad Egwyddorion a Blaenoriaethu Saesneg yn unig PDF [975.5 KB]
Diweddarwyd ddiwethaf