Crynodeb Gweithredol

Croeso i'n Hadroddiad Blynyddol yr Iaith Gymraeg ar gyfer 2022–2023. Mae’r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar sut rydym wedi gweithredu ein polisi Safonau’r Gymraeg a’r gwaith rydym wedi’i wneud i wella ein gwasanaethau Cymraeg yn ystod y cyfnod adrodd hwn.

Ar 1 Ebrill 2023, buom yn dathlu degawd o wasanaethu pobl Cymru a lansiwyd ein Cynllun Corfforaethol 2023-2030. Roedd y gwaith ar y Cynllun Corfforaethol yn cynnwys sesiynau ymgynghori helaeth gyda staff ar y fersiwn Gymraeg o'r cynllun, i sicrhau bod y weledigaeth, y gwerthoedd a'r amcanion llesiant yn cael eu mynegi mewn llais Cymraeg gwreiddiol, go iawn gyda mewnbwn gan ein staff sy'n siarad Cymraeg. Ysgrifennwyd y fersiwn Gymraeg o'r cynllun gan ddefnyddio'r dull cyfieithu ysgrifennu fel pâr sy'n galluogi pawb sy'n rhan o'r broses i rannu syniadau, gofyn cwestiynau a gwella'r cynnwys yn y ddwy iaith.

Mae'r cynllun yn cynnwys ein hymrwymiad i greu cyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg ar draws y sefydliad, gan gefnogi'r defnydd yn fewnol yn ogystal â chyda phartneriaid a chwsmeriaid. Mae'r balchder a'r hyder hwn wrth ddefnyddio'r Gymraeg yn ein gwaith wedi bod ar flaen ein meddyliau wrth i'r cynllun corfforaethol esblygu, gan sicrhau bod ein gweledigaeth, ein cenhadaeth a'n gwerthoedd yn cael eu hysgrifennu mewn ffordd sy'n taro tant yn y Gymraeg a'r Saesneg.

Mae iaith yn rhan bwysig o hunaniaeth unigolyn ac mae sgiliau Cymraeg ein gweithlu yn gwneud cyfraniad mawr at ein gallu i gyfathrebu'n effeithiol â'n cwsmeriaid sy'n siarad Cymraeg. Nid yw pob aelod o staff yn gallu siarad Cymraeg, ond mae gallu dweud ychydig eiriau yn Gymraeg yn gallu mynd yn bell a gwneud gwahaniaeth mawr wrth ddelio â chwsmeriaid a phartneriaid. Mae 24.3% (571) o'n staff yn siaradwyr Cymraeg rhugl, gyda'r niferoedd yn cynyddu’n raddol dros y blynyddoedd diwethaf drwy ein gweithdrefnau recriwtio a’n staff sy’n datblygu eu sgiliau iaith drwy ein rhaglen hyfforddi. Mae gan y rhan fwyaf o'n timau o leiaf un siaradwr Cymraeg. Gall 93.7% (2198) o'n staff ddangos cwrteisi ieithyddol wrth gyfarfod a chyfarch eraill.

Yn ystod y pandemig, bu gostyngiad yn nifer y staff sy'n datblygu eu sgiliau iaith. Rydym yn falch bod 173 o'n staff wedi bod yn datblygu eu sgiliau yn wythnosol dros y cyfnod adrodd hwn, sy'n gynnydd o 35 ers y llynedd. Mae'r rhan fwyaf o'n dysgwyr wedi'u lleoli yng Ngheredigion a Phowys 27% (46), gydag 17% (29) yn siaradwyr Cymraeg rhugl neu bron iawn â bod yn rhugl.

Fe enillon ni Gyflogwr Cymraeg Gwaith y Flwyddyn ar gyfer 2022 oherwydd y cymorth rydym yn ei roi i’n staff i ddysgu Cymraeg. Dyfarnodd Coleg Gwent y wobr Dosbarth Gweithle'r Flwyddyn i'n cwrs Cymraeg Uwch ar sail ymrwymiad a dyfalbarhad ein staff dros nifer o flynyddoedd wrth iddynt barhau i ddatblygu eu sgiliau iaith.

Ym mis Tachwedd 2022, pleser oedd cyhoeddi a hyrwyddo'r ffaith y gellir prynu trwyddedau pysgota yn Gymraeg ar wefan .gov. Datblygwyd y gwasanaeth hwn mewn partneriaeth ag Asiantaeth yr Amgylchedd sy'n gweinyddu'r gwasanaeth prynu trwyddedau pysgota ar ein rhan. Byddwn yn parhau i weithio gydag Asiantaeth yr Amgylchedd dros y flwyddyn nesaf i sicrhau bod yr holl dudalennau ar gael yn y Gymraeg.

Dengys ystadegau ein gwefan bod 53,013 (2.19%) o ymweliadau â'n tudalennau Cymraeg dros y flwyddyn, sef cynnydd o 4,994 o ymweliadau ers y llynedd.

Mae gennym ddyletswydd statudol i ymgynghori ac ychwanegu at y Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol ac rydym yn falch iawn o weithio ochr yn ochr â Chomisiynydd y Gymraeg a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru i ddatblygu canllawiau a digwyddiad hyfforddi ar gyfer ein staff.

Rydym yn dal i dderbyn cwynion ac yn croesawu aelodau'r cyhoedd yn tynnu ein sylw at unrhyw enghraifft o ddiffyg gwasanaeth Cymraeg, fel y byddent yn ei ddisgwyl gennym. Mae hyn yn ein helpu i ddeall anghenion ein cwsmeriaid yn well a lle mae angen ymyriadau i wella ein gwasanaethau ar gyfer y dyfodol.

Cyflwyniad

Daeth Safonau’r Gymraeg i rym ar gyfer CNC ar 25 Ionawr 2017, o dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011, ac maent yn cael eu rheoleiddio gan Gomisiynydd y Gymraeg o dan Reoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 2) 2016.

Nod y Safonau yw:

  • Darparu gwasanaeth Cymraeg gwell a mwy cyson i siaradwyr Cymraeg
  • Egluro'n glir i siaradwyr Cymraeg pa wasanaethau y gallant ddisgwyl eu derbyn yn Gymraeg
  • Egluro'n glir i sefydliadau cyhoeddus beth yw eu dyletswyddau mewn perthynas â'r Gymraeg
  • Sicrhau nad yw'r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg

Mae'r adroddiad hwn yn dangos sut rydym wedi gweithredu'r safonau a'r gwaith rydym wedi'i wneud i wella ein gwasanaethau Cymraeg yn ystod blwyddyn adrodd 2022/23.

Safonau’r Gymraeg

Mae'r safonau sy'n ofynnol inni gydymffurfio â nhw mewn pedwar categori:

Safonau Gwasanaeth – y gwasanaethau Cymraeg rydym yn eu darparu ar gyfer y cyhoedd.

Safonau Polisi – sicrhau bod y Gymraeg yn rhan o'r prosesau gwneud penderfyniadau trwy gynnal asesiadau o’r effaith ar gydraddoldeb er mwyn sicrhau bod penderfyniadau yn cael effaith gadarnhaol yn hytrach nag effaith niweidiol ar gyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg neu eu bod yn cynyddu'r cyfleoedd i’w defnyddio.

Safonau Gweithredol – hyrwyddo a hwyluso'r Gymraeg yn ein prosesau gweinyddol mewnol.

Safonau Cadw Cofnodion – cadw cofnodion er mwyn cydymffurfio â gofynion y safonau mewn meysydd megis sgiliau Cymraeg y staff, hyfforddiant, cwynion a recriwtio.

Llywodraethu a Monitro ein Safonau

Cynghorydd Polisi'r Gymraeg sy'n monitro cydymffurfiaeth â'n Safonau, amlygir unrhyw risgiau i'n Tîm Gweithredol i'w trafod â'r rheolwyr ac fe’u heglurir yng nghyfarfodydd y Grŵp Pencampwyr.

Bydd aelodau’r Grŵp Pencampwyr yn codi unrhyw faterion o ddiffyg cydymffurfio â chynghorydd polisi'r Gymraeg ac ym mhob cyfarfod.

Mae sut rydym yn hyrwyddo, hwyluso a goruchwylio cydymffurfiaeth â'n Safonau yn cael ei gyhoeddi ar ein gwefan: Sut rydym yn cydymffurfio â'n Safonau

Gweithredu a Gwella ein Safonau’r Gymraeg

Safonau Gwasanaeth

Prynu Trwyddedau Pysgota ar .Gov

Mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn gweinyddu'r gwasanaeth prynu trwyddedau pysgota ar ein rhan a, thros y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi bod yn gweithio gyda nhw i ddatblygu gallu Cymraeg y gwasanaeth ar wefan .Gov. Gyda chymorth cyllid a chyfieithu gan CNC, diweddarwyd y tudalennau a lansiwyd y gwasanaeth yn fyw ar wefan Gov.uk ym mis Tachwedd 2022, gan ganiatáu i'r cyhoedd brynu eu trwydded yn y Gymraeg. Darperir dolen uniongyrchol o'n gwefan i'r gwasanaeth hwn.

Crëwyd tudalennau gwe newydd i hyrwyddo pysgota a'r gwasanaeth newydd hwn yn barod ar gyfer tymor newydd 2023, gan annog siaradwyr Cymraeg a dysgwyr i wneud cais am eu trwydded yn y Gymraeg, ynghyd â datganiad i'r wasg.

Cafodd y gwasanaeth newydd hwn hefyd ei hyrwyddo ar ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol ac ar gyfrifon The Angling Trust o dan y pennawd "Fishing in Wales”. Cafodd y gwasanaeth ei hyrwyddo eto ar ddechrau'r tymor pysgota ym misoedd Mawrth ac Ebrill, gan atgoffa'r cyhoedd o'r angen i adnewyddu eu trwyddedau, gyda'r gobaith o annog defnyddwyr i ddefnyddio'r gwasanaeth.

Mae angen gwaith pellach i sicrhau bod y tudalennau glanio ar .Gov ar gael yn y Gymraeg, a fydd yn digwydd wrth ryddhau'r gwasanaeth eto yn y dyfodol. Bydd diweddaru'r tudalennau yn dibynnu ar ymgysylltiad Asiantaeth yr Amgylchedd â .Gov, eu prosesau a'u hamserlenni. Yn y cyfamser, bydd neges yn cael ei chyhoeddi ar y dudalen lanio i hysbysu defnyddwyr y gallant brynu Trwydded Bysgota drwy gyfrwng y Gymraeg. Unwaith y bydd y gwaith hwn wedi'i wneud, bydd y gwasanaeth Prynu Trwyddedau Pysgota cyfan ar gael yn y Gymraeg ac yn cydymffurfio â'n Safonau.

Mae hyn yn un o ofynion Safonau 48, 51 a 52.

Tîm Cyfieithu

Ers mis Mawrth 2022, mae'r tîm bron yn llawn o ran staff, sydd wedi caniatáu mwy o waith cyfieithu i gael ei wneud yn fewnol. Mae hyn yn helpu i gefnogi'r sefydliad gyda'n hanghenion iaith Gymraeg ac yn caniatáu cryn gydweithio ar brosiectau, gan helpu i wneud y Gymraeg yn rhan bwysig o'n gwaith.

Drwy weithio gyda chydweithwyr ar draws y sefydliad, mae'r tîm yn manteisio ar bob cyfle i greu testun Cymraeg gwreiddiol yn hytrach na darparu cyfieithiadau ar ddiwedd y broses. Er enghraifft, bu'r tîm yn gweithio ar brosiect ar gyfer crysau-T newydd Llwybr Arfordir Cymru, sydd bellach â llinellau o farddoniaeth Gymraeg gwreiddiol arnynt a grëwyd gan aelod o'r tîm yn hytrach na chyfieithiad.

Mae'r tîm hefyd yn cynghori cydweithwyr ar bosibiliadau a dewisiadau amgen i gyfieithiadau uniongyrchol, a'r ffordd orau o fwrw ymlaen drwy gynnwys y Gymraeg fel rhan annatod o brosiectau – mae'r tîm bob amser yn gwneud eu gorau glas i fod yn arloesol wrth wneud hyn. Mae hyn wedi arwain at fideos a phodlediadau dwyieithog di-ri ac, er enghraifft, fideos uniaith Gymraeg gydag isdeitlau Saesneg yn hytrach na chynhyrchu fideo ddwywaith.

Mae'r tîm hefyd yn awyddus i fanteisio ar gyfleoedd i gyfieithydd fod yn rhan o'r broses o greu cynnwys, ac maent yn aml yn cyfrannu drwy ysgrifennu fel pâr neu driawd wrth greu cynnwys digidol. Mae creu cynnwys fel hyn yn galluogi pawb sy'n cymryd rhan i rannu syniadau, gofyn cwestiynau a gwella'r cynnwys yn y ddwy iaith. Cawsom gyfle hefyd i gyflwyno'r gwaith hwn yn un o sesiynau'r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol.

Ysgrifennwyd ein Cynllun Corfforaethol mewn ffordd debyg, gan sicrhau bod y Gymraeg yn rhan greiddiol o'r gwaith o baratoi dogfen bwysig ar ddyfodol y sefydliad. Aeth y testun yn ôl ac ymlaen rhwng y ddwy iaith - gan ganiatáu iddynt ddylanwadu ar ei gilydd, ac i welliannau gael eu gwneud i'r testun yn y ddwy iaith. Os oedd adran neu ddarn yn arbennig o lwyddiannus yn y Gymraeg, roedd modd diwygio’r Saesneg mewn ffordd debyg, ac i'r gwrthwyneb.

Roedd y gwaith ar y Cynllun Corfforaethol hefyd yn cynnwys sesiynau ymgynghori helaeth gyda staff ar y fersiwn Gymraeg o'r cynllun, er mwyn sicrhau bod y weledigaeth a'r amcanion yn cael eu mynegi mewn llais Cymraeg gwreiddiol, go iawn gyda mewnbwn gan ein staff sy'n siarad Cymraeg.

Bydd y Tîm Cyfieithu yn parhau i chwilio am gyfleoedd i weithio mewn ffyrdd arloesol, ac i weithio'n agos gyda chydweithwyr ar draws y sefydliad, gan sicrhau bod y Gymraeg wrth wraidd popeth a wnawn fel sefydliad.

Diweddaru ein Templedi Microsoft Dwyieithog

Yn ddiweddar, fe wnaethom ni adnewyddu ein brand ac, fel rhan o'r gwaith hwn, diweddarwyd ein Templedi Microsoft. Mae ystyriaethau'r Gymraeg wedi'u hychwanegu at y templedi, a bydd hyn yn atgoffa pob cydweithiwr o'r angen i ystyried y Gymraeg fel rhan o'u gwaith o ddydd i ddydd.

Dyma'r templedi sy'n cynnwys ystyriaethau Cymraeg: -

  • Mae’r templed papur â phennawd yn atgoffa staff i ofyn i gwsmer ym mha iaith yr hoffai dderbyn gohebiaeth a galwadau ffôn, ac mae'n cynnwys y llinell sy’n nodi ein bod yn croesawu gohebiaeth yn y Gymraeg.
  • Mae templedi dogfennau cyffredinol, adroddiadau tystiolaeth, adroddiadau cyffredinol a gweithdrefnau yn atgoffa cydweithwyr i ystyried gofynion cyfieithu. Darperir dolen uniongyrchol i'n Canllawiau Asesu Cyfieithu.
  • Mae’r templed agenda yn atgoffa staff o'r angen i ystyried gofynion cyfieithu pan fydd cyfarfodydd cyhoeddus ac ystyried anghenion cyfieithu ar y pryd.
  • Mae’r templed polisi yn atgoffa staff o'r angen i gyfieithu polisïau cyn eu cyhoeddi a'r angen am Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb, sy'n cynnwys ystyriaethau iaith.

Fel rhan o'r gwaith hwn, mae ein templed llofnod e-bost bellach wedi'i fewnosod yn e-bost Outlook i staff ei ddefnyddio, sy'n cynnwys y llinell sy’n nodi ein bod yn croesawu gohebiaeth yn y Gymraeg. Bydd cael y llinell hon wedi'i mewnosod yn y llofnod yn ei gwneud hi'n haws i staff ei defnyddio a chydymffurfio â'n Safonau.

Er mwyn helpu i sicrhau dull mwy cyson o ran cydweithwyr yn defnyddio ein templedi diweddaraf, bydd ein Rheolwr Brand yn cyhoeddi canllawiau, yn hyrwyddo'r canllawiau ac yn codi ymwybyddiaeth yn ein modiwl brand fel rhan o'r broses sefydlu ar gyfer cydweithwyr newydd.

Mae'r uchod yn ofynion Safonau 2, 7, 9, 36, 43, 101-107.

Canllawiau ffôn

Mae'r canllawiau ffôn wedi'u hadnewyddu i adlewyrchu'r symudiad i ddefnyddio Ffonau Microsoft Teams. Mae'r canllawiau'n cynnwys rhai ymadroddion Cymraeg y gallai cydweithwyr eu defnyddio i ddangos cwrteisi ieithyddol wrth ddefnyddio'r ffôn. Bydd hyn yn helpu i gydymffurfio â'n Safonau wrth ateb y ffôn, gwneud galwadau ffôn a bod yn rhagweithiol wrth gynnig dewis iaith i'r sawl sy’n ffonio, yn ogystal â recordio neges peiriant ateb ddwyieithog fel rhan o'n gwaith o ddydd i ddydd. Mae'r canllawiau wedi'u hyrwyddo ar y fewnrwyd.

Mae hyn yn un o ofynion Safonau 8 – 22.

Canllawiau Caffael – Mai 2023

Mae Canllawiau Caffael newydd wedi'u drafftio'n ddiweddar i helpu staff i ddeall pa ystyriaethau sydd angen eu rhoi i'r Gymraeg a'u cynnwys fel rhan o'r broses dendro wrth gontractio gwasanaethau a nwyddau.

Bydd y canllawiau hefyd yn helpu trydydd partïon i ddeall pa wasanaethau y byddwn yn gofyn iddynt eu darparu yn Gymraeg, a sut, wrth ddarparu gwasanaethau ar ein rhan, gan helpu i ddarparu gwasanaeth sy'n cydymffurfio â gofynion ein Safonau.

Bydd y canllawiau hyn yn helpu i ystyried anghenion siaradwyr Cymraeg wrth gontractio gwasanaethau a nwyddau yn unol â gofynion ein Safonau Darparu Gwasanaethau, a byddant yn cael eu hyrwyddo yn ystod y flwyddyn nesaf.

Mae hyn yn un o ofynion ein Safonau Darparu Gwasanaethau 1 – 83.

Gwefan

Yn ôl ein hystadegau, cafwyd 53,013 (2.19%) o ymweliadau â'n tudalennau Cymraeg dros y flwyddyn, sef cynnydd o 4,994 o ymweliadau ers y llynedd. Cafwyd 2,363,972 (97.64%) o ymweliadau â'r tudalennau Saesneg.

Y dudalen a gyrchwyd fwyaf yn y Gymraeg oedd ein tudalennau swyddi gwag, lle cafwyd 1,633 o ymweliadau.

Parhaodd y Tîm Gwasanaethau Digidol i weithio'n agos gyda phartneriaid i ddatblygu, rhannu a dysgu o arferion gorau wrth ddylunio ac adeiladu gwasanaethau sy'n hyrwyddo ac yn hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg.

Mae hyn yn cynnwys:

  • Bod yn gyfrannwr gweithredol o’r gymuned Dylunio Gwasanaethau Dwyieithog, a chyfrannu at ganllawiau newydd i gefnogi'r safonau gwasanaeth.
  • Gweithio gyda chydweithwyr TGCh, Cyfieithu a Physgodfeydd yn CNC i gefnogi'r gwaith o ddatblygu'r gwasanaeth ar gyfer cael trwydded bysgota drwy gyfrwng y Gymraeg ar gov.uk.

Canolfan Cwsmeriaid

Mae’r Ganolfan Cwsmeriaid yn delio â’r holl alwadau ffôn a ddaw i'n sefydliad. Yn ystod y flwyddyn adrodd hon, deliodd y Ganolfan â chyfanswm o 18,773 o alwadau, gyda 4.68% ohonynt (879) yn alwadau cyfrwng Cymraeg. Roedd cyfanswm y galwadau yn y Gymraeg 0.55% (185) yn is na'r llynedd, fel yr oedd cyfanswm y galwadau ffôn yn gyffredinol, a oedd 7.61% (1,547) yn is eleni. Gallai'r gostyngiad hwn hefyd fod oherwydd y cynnydd yn nifer y bobl sy'n defnyddio ein gwefan i gael mynediad at ein gwasanaethau yn y Gymraeg.

Er gwaethaf cynnig rhagweithiol o ran iaith, mae nifer o siaradwyr Cymraeg yn parhau i ddewis ein gwasanaeth Saesneg i ddechrau, ond bydd yr alwad yn aml yn newid i'r Gymraeg pan ddeellir bod yr asiant sy’n ateb yr ymholiadau yn siarad Cymraeg. Fodd bynnag, oherwydd bod y cwsmer wedi dewis y gwasanaeth Saesneg i ddechrau, bydd y galwadau hyn yn cael eu cofrestru fel galwadau cyfrwng Saesneg ar ein system, er eu bod yn cael eu trin yn Gymraeg yn y pen draw.

Mae hyn yn un o ofynion Safonau 8, 9, 10, 13 ac 16.

Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gogledd-orllewin Cymru

Mae tystiolaeth yn dangos bod siaradwyr Cymraeg yn dewis peidio â defnyddio gwasanaethau Cymraeg wrth gysylltu â sefydliadau cyhoeddus, a chynhaliwyd prosiect gan is-grŵp Iaith Gymraeg Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gogledd Cymru i geisio canfod beth yw'r rhwystrau. Roedd Coed y Brenin yn un o'r deg lleoliad derbynfa lle yr arsylwyd ar y rhyngweithio rhwng staff a chwsmeriaid fel rhan o'r gwaith prosiect hwn.

Canfu canfyddiadau o'r arsylwadau a sgyrsiau â staff a chwsmeriaid y canlynol:

  • Roedd dewis iaith ar gael, ond nid oedd bob amser yn ddigon amlwg, neu roedd cyfarchiad Cymraeg/dwyieithog rhagweithiol yn cael ei gynnig i'r cwsmer i'w annog i ddefnyddio'r Gymraeg.
  • Pan wnaed "cynnig gweithredol" gan staff, gwnaeth hyn wahaniaeth i'r iaith a ddefnyddiwyd. Mae yna gyfle cyfyngedig i staff wneud gwahaniaeth i ddewis iaith cwsmeriaid - a dyna pam mae'r cyfarchiad dwyieithog rhagweithiol a roddir yn gyntaf gan staff mor bwysig.
  • Roedd angen i ddefnyddwyr gwasanaethau glywed y Gymraeg yn cael ei siarad er mwyn bod yn sicr y gallent siarad â staff yn Gymraeg.
  • Roedd cwsmeriaid rheolaidd neu'r rhai a oedd wedi ymweld o'r blaen yn gwybod y gallent ddefnyddio'r Gymraeg oherwydd eu bod yn gyfarwydd â'r staff.
  • Roedd rhai dysgwyr Cymraeg yn teimlo'n hyderus i ymarfer eu sgiliau iaith.
  • Roedd rhieni am ddangos esiampl ac annog eu plant i siarad a defnyddio'r Gymraeg.

Pethau a ddysgwyd o'r ymarfer hwn: -

  • Mae angen i ni sicrhau bod yr amgylchedd yn ddwyieithog ac yn groesawgar.
  • Sicrhau bod popeth gweledol e.e. posteri ac arwyddion, yn ddwyieithog.
  • Mae amgylchedd clywedol yn dylanwadu'n gryf ar ddewis iaith pobl.

Mae canllawiau wedi'u drafftio a fydd yn cael eu rhannu gyda staff derbynfeydd sy'n cynnwys awgrymiadau, rhestr wirio ac enghreifftiau o eiriau ac ymadroddion defnyddiol wrth gyfarfod a chyfarch cwsmeriaid mewn derbynfeydd, yn dilyn y prosiect hwn.

Bydd y gwaith hwn yn helpu i sicrhau ein bod yn cydymffurfio â Safonau 60, 63 a 64.

Digwyddiadau Hyfforddiant Addysg ac Iechyd

Yn ystod y flwyddyn, cynhaliodd y Tîm Addysg ac Iechyd gyfanswm o 36 o gyrsiau.

  • 16 cwrs wyneb yn wyneb, 6 drwy gyfrwng y Gymraeg yn unig.
  • 18 gweminar dwyieithog, 6 drwy gyfrwng y Gymraeg yn unig.
  • 2 gwrs hyfforddi meddygon teulu (gall y rhain gael eu cynnal yn y Gymraeg).
  • Darparodd y Tîm hefyd weithdai Cymraeg yn COP Ieuenctid Cymru cyntaf erioed Llywodraeth Cymru. Un gweithdy Cymraeg, un gweithdy dwyieithog a chynrychiolaeth ddwyieithog ar y stondin arddangos.

Mae cyfranogwyr ar weminarau a chyrsiau wyneb yn wyneb yn derbyn deunydd cwrs dwyieithog, gyda dolenni i fersiynau Cymraeg a Saesneg o'r adnoddau wedi'u rhannu.

Mae'r cysyniad o 'gynefin' yn rhedeg drwy'r Cwricwlwm i Gymru – mae pob cwrs hyfforddi, naill ai wyneb yn wyneb neu ar-lein, yn cynnwys gwybodaeth am sut mae tirwedd a daearyddiaeth Cymru wedi dylanwadu ar ddiwylliant, hanes a'r economi yng Nghymru. Manteisir ar gyfleoedd i hyrwyddo'r Gymraeg e.e. drwy awgrymu i addysgwyr eu bod yn ymchwilio i hanes enwau lleoedd ac ystyr caneuon Cymraeg sy'n ymwneud â'r dirwedd.

Rydym yn parhau i gynghori Llywodraeth Cymru, gan eu cefnogi i wireddu'r Cwricwlwm i Gymru a rôl amgylchedd naturiol Cymru o fewn hynny.

Mae'n ofynnol i ni gynnig unrhyw gyrsiau addysg yn y Gymraeg, sy'n un o ofynion Safon 80.

Mae mwy o wybodaeth yn Atodiad 1 yr adroddiad hwn ar yr adnoddau mae'r tîm wedi'u cynhyrchu ar gyfer addysgwyr ac athrawon, eu gwaith partneriaeth ag eraill ac ymgyrchoedd a digwyddiadau cenedlaethol dros y cyfnod adrodd hwn.

Gwasanaethau Rhybuddio a Hysbysu ynghylch Llifogydd

Mae'r gwasanaeth rhybuddio am lifogydd yn cyhoeddi Negeseuon Llifogydd, Rhybuddion Llifogydd a Rhybuddion Llifogydd Difrifol i'r cyhoedd a phartneriaid proffesiynol. Anfonir negeseuon dros y ffôn, SMS neu e-bost yn Gymraeg neu Saesneg, yn unol â chais y derbynnydd. Mae'r negeseuon rhybudd hyn yn cael eu hategu gan y gwasanaethau canlynol:

  • Tudalen we Gwasanaethau CNC – Perygl llifogydd pum diwrnod ar gyfer Cymru – lle rydym yn darparu crynodeb o berygl llifogydd posibl sydd mewn grym ledled Cymru ar gyfer y pum diwrnod nesaf: dolen we
  • Tudalen we Rhybuddion Llifogydd – rydym yn darparu manylion pob rhybudd sydd mewn grym ynghyd â'r wybodaeth ddiweddaraf am lifogydd: dolen we

Mae pob un o'r gwasanaethau hyn ar gael yn Gymraeg neu yn Saesneg.

Floodline

Mae Floodline yn wasanaeth ledled y DU ar 0345 988 1188 – gwasanaeth galwadau cyfradd leol lle gall y sawl sy’n ffonio wrando ar yr wybodaeth ddiweddaraf am lifogydd, gwrando ar gyngor sydd wedi'i recordio ymlaen llaw, a siarad ag asiant hyfforddedig ar y ffôn i roi gwybod am lifogydd neu gofrestru ar gyfer y gwasanaeth rhybuddion llifogydd

Ym mis Gorffennaf 2019, fe wnaethom ni wella cynllun ffonio’r Llinell Llifogydd er mwyn ei gwneud yn haws i’r sawl a oedd yn ffonio gael mynediad at ein gwasanaeth Cymraeg drwy gynnwys gwasanaeth asiant galwadau Cymraeg yn ystod y dydd yn ystod yr wythnos. Y tu allan i'r oriau hyn, neu os nad oes asiant galwadau sy'n siarad Cymraeg ar gael, caiff y sawl sy’n ffonio gynnig gadael neges i ofyn am alwad yn ôl yn Gymraeg, neu gellir eu cyfeirio at asiant galwadau sy'n siarad Saesneg.

Er bod cynnig rhagweithiol ar gyfer gwasanaeth Cymraeg yn parhau i fod ar waith, mae siaradwyr Cymraeg yn aml yn cael eu trosglwyddo i asiantiaid sy'n delio â galwadau Saesneg gan na all y gwasanaeth sicrhau y bydd siaradwr Cymraeg penodedig yn delio â'r galwadau cyfrwng Cymraeg. Gall y sawl sy’n ffonio yn Gymraeg hefyd ddewis terfynu'r alwad a threfnu bod asiant sy’n siarad Cymraeg yn ei ffonio yn ôl pan fydd un ar gael.

Er mwyn mynd i'r afael â'r mater hwn, mae prosiect wedi'i gomisiynu yn adran Dylunio ac Arloesi CNC i wella'r gwasanaeth hwn a fydd ar gael 24/7 trwy ddargyfeirio galwadau Cymraeg o Floodline i'n Canolfan Cyfathrebu Digwyddiadau. Bydd hyn yn golygu bod  siaradwyr Cymraeg sy’n ffonio Floodline yn cael gwasanaeth Cymraeg di-dor drwy Ganolfan Cyfathrebu Digwyddiadau CNC. Byddai hyn yn sicrhau bod y gwasanaeth Cymraeg yn gydradd â’r gwasanaeth Saesneg a byddai gan CNC reolaeth dros y gwasanaeth Cymraeg yn ogystal â gallu hyrwyddo’r gwasanaeth yn ehangach yma yng Nghymru. Disgwylir i'r prosiect gael ei gyflawni yn ystod hydref 2023. 

Mae darparu gwasanaeth Cymraeg ar linellau cymorth yn un o ofynion Safonau 9 a 10.

Gwefan CNC – Rhybuddion Llifogydd a Gwasanaethau Perygl Llifogydd

Ym mis Hydref 2020, fe wnaethom ni adfywio dyluniad ein gwefan i'w gwneud hi’n haws ac yn gynt i'w defnyddio, gan sicrhau bod y dyluniad yn hollol gydnaws â'r Gymraeg.

Gofynnir i ymwelwyr â’n gwefan ddewis iaith. O gymharu â'r flwyddyn ariannol ddiwethaf, rydym wedi gweld cynnydd yn nifer yr ymwelwyr â'r dudalen Gymraeg ar gyfer perygl llifogydd 5 diwrnod, ond gostyngiad yn nifer yr ymweliadau â'r dudalen Rhybuddion Cymraeg.

Cynnwys Negeseuon Rhybuddion Llifogydd 

Elfen allweddol o'n gwasanaeth yw darparu gwybodaeth amser real i helpu pobl i ddeall eu perygl llifogydd uniongyrchol. Mae cyfieithu gwybodaeth yn gywir yn Gymraeg yn gwbl ofynnol. Rydym yn bwriadu archwilio opsiynau ar gyfer datblygu'r gallu hwn i gyfieithu fel y gallwn ddarparu gwybodaeth fwy defnyddiol ac o ansawdd gwell - gan nodi nad oes lle i gamgymeriadau cyfieithu mewn gwasanaeth a allai achub bywyd. Ar ôl cwblhau'r gwelliannau i Floodline, rydym yn bwriadu cynnal gweithgareddau i hyrwyddo ein darpariaeth Gymraeg.

Mae gwybodaeth am ein gwasanaethau ac ystadegau llifogydd i’w gweld yn Atodiad 2 yr adroddiad hwn.

Codi Ymwybyddiaeth o'n Safonau

Bob mis mae rheolwyr yn cael gwybodaeth gorfforaethol i'w rhannu gyda'u tîm. Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi parhau i godi ymwybyddiaeth o bolisi'r Gymraeg, a gofynnwyd i reolwyr atgoffa eu timau i gyflawni'r canlynol:

  • Anfon gohebiaeth yn ddwyieithog at gwsmeriaid/partneriaid, gofyn am eu dewis iaith a chofnodi hynny, oni bai bod eu dewis iaith eisoes yn hysbys
  • Ymateb yn Gymraeg i unrhyw ohebiaeth a dderbynnir yn Gymraeg.
  • Ateb y ffôn yn ddwyieithog a recordio neges peiriant ateb ddwyieithog.
  • Cyfarch cwsmeriaid yn ddwyieithog.
  • Gwybod pwy yw'r siaradwyr Cymraeg ym mhob tîm a all helpu i ddelio ag ymholiadau Cymraeg.
  • Sicrhau bod negeseuon allan o'r swyddfa yn ddwyieithog.
  • Hunanasesu a chofnodi sgiliau iaith Gymraeg yn FyCNC.
  • Sicrhau bod yr holl gyflwyniadau Powerpoint yn ddwyieithog.
  • Dylai pob ffurflen fod yn ddwyieithog neu ar gael yn y ddwy iaith.
  • Dylai pob arwydd parhaol a dros dro fod yn ddwyieithog, gyda'r testun Cymraeg i ymddangos ar y chwith neu uwchben y testun Saesneg.
  • Defnyddio'r Rhestr Wirio Cyfieithu i asesu a oes angen cyfieithu dogfen.
  • Canllawiau cyfathrebu dros y ffôn wedi'u diweddaru.

Grŵp Pencampwyr

Mae’r Grŵp Pencampwyr wedi cyfarfod bedair gwaith dros y flwyddyn ddiwethaf gyda chynrychiolwyr o bob rhan o'r Gyfarwyddiaeth. Mae hyn yn cynnwys dysgwr Cymraeg sydd wedi ymuno i glywed yr iaith yn cael ei siarad yn naturiol mewn amgylchedd gwaith. Dros y flwyddyn mae'r Pencampwyr wedi: -

  • Hyrwyddo ein rhaglen hyfforddiant Cymraeg.
  • Codi ymwybyddiaeth o'r canllawiau recriwtio newydd i reolwyr.
  • Hyrwyddo systemau TGCh sydd gennym i staff eu defnyddio drwy gyfrwng y Gymraeg.
  • Hyrwyddo diwrnodau diwylliant Cymraeg.
  • Ail-frandio ein 'Cynllun Mentora' a lansiwyd ym mis Ebrill 2023 fel "Clwb Clonc”.
  • Creu tudalen Grŵp Pencampwyr ar Yammer – i rannu syniadau a digwyddiadau sy'n digwydd o fewn eu Cyfarwyddiaeth.
  • Creu Grŵp Siarad Cymraeg ar Yammer – lle gall yr holl staff drafod materion yn y Gymraeg.

Canllaw Pecyn Cymorth i Reolwyr

Crëwyd tudalen Pecyn Cymorth i Reolwr ar ein mewnrwyd i helpu Rheolwyr i ddeall y tasgau y mae angen iddynt eu cwblhau fel rheolwr. Mae'n dwyn ynghyd yr holl weithgareddau rhyngweithredol sy'n ofynnol fel rheolwr.

Mae canllawiau ar Safonau’r Gymraeg wedi'u hychwanegu at y dudalen. Bydd hyn yn helpu i brif ffrydio'r Gymraeg i raddau mwy helaeth i ffyrdd o weithio o ddydd i ddydd, gan helpu Rheolwyr i fonitro cydymffurfiaeth eu tîm â'r Safonau fel rhan o'u rôl. Bydd hyn yn helpu i leihau nifer y cwynion a dderbynnir gan ein cwsmeriaid.

Er mwyn deall pa mor dda y gweithredwyd canllawiau Cymraeg y Pecyn Cymorth i Reolwyr, byddwn yn datblygu ffurflen fonitro ac yn cynnal ymarfer i Arweinwyr Tîm ei gwblhau ar gydymffurfiaeth eu Timau â'r Safonau.

Gweithredu ein Safonau Llunio Polisi

Yn ystod y flwyddyn adrodd hon, cadarnhaodd penderfyniad gan Dribiwnlys Llywodraeth Cymru y diffiniad o'r term "penderfyniad polisi" y cyfeirir ato yn Safonau 88 - 89 fel "unrhyw benderfyniad a wnaed gan gorff ynglŷn ag arfer ei swyddogaethau neu am weithrediad ei fusnes neu ymgymeriad arall”. Rhaid i ni geisio barn fel rhan o'r broses ymgynghori ar yr effeithiau y gallai'r penderfyniad eu cael ar y cyfleoedd i ddefnyddio'r iaith, cynyddu'r defnydd ohoni, unrhyw effeithiau cadarnhaol neu effeithiau negyddol.

Wrth fonitro ein hymgynghoriadau, canfuwyd nad oedd y cwestiynau hyn bob amser yn cael eu gofyn a bod angen eu monitro'n fanylach. Yn dilyn cyngor gan Gomisiynydd y Gymraeg ac arferion gorau, diweddarwyd ein canllawiau Ymgynghori a Gofod Dinasyddion a mynnwyd bod cwestiynau mewn perthynas â'r iaith yn cael eu gofyn ym mhob ymgynghoriad, beth bynnag fo'u natur; mae hyn yn sicrhau y gall ymgyngoreion roi'r wybodaeth honno i ni ac y gall yr  adborth gael ei ystyried fel rhan o'n prosesau gwneud penderfyniadau.

Dros y flwyddyn nesaf, byddwn yn monitro'r ymatebion a gafwyd er mwyn helpu i sicrhau bod yr adborth a ddarperir yn rhan o'n prosesau gwneud penderfyniadau.

Mae hyn yn un o ofynion Safonau 84 – 89.

Gweithredu ein Safonau Gweithredol

TGCh

Ym mis Medi, lansiwyd ein Gwasanaeth Rheoli Gwasanaethau mewnol TGCh newydd; mae'r gwasanaeth newydd hwn y bydd yr holl staff yn ei ddefnyddio yn fwy rhyngweithiol ac effeithlon ac yn cynnig gwell gwasanaeth TGCh ac mae ar gael i'w ddefnyddio yn y Gymraeg. Mae'r gwasanaeth hwn yn caniatáu i'n holl staff godi tocyn am help, cymorth, cyngor neu wasanaethau newydd gan TGCh heb yr angen i ffonio neu e-bostio a pharhau i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd ac amseroedd datrys. Cafodd y gwasanaeth newydd hwn ei hyrwyddo i'r holl staff ar y fewnrwyd ac mewn e-bost.

Datblygwyd y system gan ddilyn ein canllawiau TGCh mewnol ar gyfer systemau y bydd yr holl staff neu grŵp mawr o staff yn eu defnyddio i ddatblygu neu gaffael yn y Gymraeg os yn bosibl.

Gwybodaeth i staff newydd

Er mwyn sicrhau bod staff newydd yn ymwybodol o'n gofyniad i weithio'n ddwyieithog ac yn ymwybodol o'n Safonau’r Gymraeg, rydym yn cymryd y camau canlynol: -

  • Mae pob aelod newydd o staff yn derbyn e-bost gan ein Cydlynydd Hyfforddiant Iaith Gymraeg yn eu croesawu i'r sefydliad a gwybodaeth am ein Cynllun Iaith Gymraeg, ein rhaglen Hyfforddiant Iaith Gymraeg, yr angen i hunanasesu a chofnodi sgiliau iaith yn FyCNC a gwahoddiad i fynychu cwrs Ymwybyddiaeth o'r Gymraeg.
  • Mae rhestr wirio ar waith i reolwyr fynd drwyddi gyda phob aelod newydd o staff, ac mae'n cynnwys yr angen i esbonio Safonau’r Gymraeg a hunanasesu eu sgiliau iaith yn FyCNC. Mae'r rhestr wirio hon yn cael ei llofnodi gan aelod o staff a rheolwr llinell ac fe'i cedwir ar ffeil gan ein Tîm Recriwtio.

Mae hyn yn un o ofynion Safon 129.

Cwrs sefydlu

Pan gyflwynwyd cyfyngiadau Covid, symudodd ein cwrs Sefydlu o fod yn gwrs wyneb yn wyneb i fod yn gwrs ar-lein. Oherwydd llwyddiant y cwrs a'r pontio llyfn, rydym yn bwriadu parhau â'r fformat hwn a pharhau i ddatblygu'r cwrs hwn ymhellach.

Yn dilyn cyflwyno'r cyfleuster cyfieithu ar y pryd ar Microsoft Teams ar ddiwedd 2022, byddwn nawr yn gallu hwyluso'r cwrs ar-lein hwn yn ddwyieithog. Rydym wrthi'n adolygu holl gynnwys y cwrs a, gyda chymorth ein Tîm Cyfieithu, bydd y rhan fwyaf o gynnwys diwygiedig y cwrs yn barod ar gyfer y garfan nesaf a fydd yn cychwyn ym mis Mai 2023. Mae'r cwrs a adolygir yn cynnwys cyflwyniad i Safonau’r Gymraeg a sut rydym yn eu gweithredu a pha gymorth sydd ar gael i alluogi ein holl staff i weithio'n ddwyieithog.

Er bod y rhan fwyaf o'r cyflwyniadau ar y sgrin yn ddwyieithog, ac y darperir yr holl ddogfennau cysylltiedig yn Gymraeg a Saesneg, nid yw pob cyflwyniad yn cael ei wneud yn Gymraeg. Bydd hyn yn dibynnu ar yr unigolyn sy'n cyflwyno a'r arbenigedd sydd ei angen i esbonio'r pwnc. Byddwn yn parhau i ddatblygu'r cwrs mewn ffordd gyfunol, gyda rhywfaint o'r cynnwys yn cael ei gyflwyno yn Gymraeg yn unig, gan ddefnyddio cyfieithu ar y pryd i hwyluso'r sesiynau hyn. Bydd hyn yn rhoi profiad i staff di-Gymraeg o glywed yr iaith yn cael ei siarad yn naturiol mewn amgylchedd gwaith a'i gweld yn ysgrifenedig yn y cyflwyniadau. Byddwn yn parhau i ddatblygu cwrs cyfrwng Cymraeg dros y flwyddyn nesaf.

Mae hyn yn un o ofynion Safon 129.

Hyfforddiant Ymwybyddiaeth o'r Gymraeg

Rydym wedi dechrau treialu rhai darparwyr gwahanol i ddarparu'r hyfforddiant hwn; mae 60 aelod o staff wedi mynychu sesiynau ymwybyddiaeth yn ystod y cyfnod adrodd hwn.

Ar Ddydd Gŵyl Dewi 2023, cynhaliwyd sesiwn ymwybyddiaeth 'Cymraeg a Chi' i holl staff CNC. Y sesiwn hon oedd y gyntaf o dair a’r nod oedd trafod sut mae taith iaith pawb yn wahanol a'n bod ni i gyd yn parhau i ddysgu hyd yn oed os ydym yn ystyried ein hunain yn siaradwyr Cymraeg rhugl. Cafodd y sesiwn hon adborth gwych ac roedd yn ffordd benigamp o ddathlu Dydd Gŵyl Dewi.

Mae hyn yn un o ofynion Safon 128.

Rhaglen Hyfforddiant Cymraeg

Dros y cyfnod adrodd hwn, mae 173 o aelodau staff yn mynychu hyfforddiant Cymraeg ar wahanol lefelau. Mae hyn yn gynnydd o 35% ers y llynedd:

  • Mae'r rhan fwyaf o'n dysgwyr eleni wedi'u lleoli yng Ngheredigion a Phowys 27% (46) a'r Gogledd-orllewin 24% (41).
  • Mae 17% (29) o'n dysgwyr yn siaradwyr Cymraeg rhugl neu bron iawn â bod yn rhugl.
  • Os yw'r 10% (18) sy'n dysgu ar hyn o bryd ar lefel Ganolradd yn parhau i ddysgu Cymraeg, byddant yn siaradwyr Cymraeg rhugl ymhen tair neu bedair blynedd.

Mae sgiliau Cymraeg ein gweithlu yn gwneud cyfraniad allweddol at ein gallu i gyfathrebu'n effeithiol â siaradwyr Cymraeg. Er bod y rhan fwyaf o'n dysgwyr yng nghadarnleoedd Cymraeg Ceredigion, Gogledd Powys a'r Gogledd-orllewin, mae angen i ni annog mwy o'n staff i ddatblygu eu sgiliau iaith yn y De-orllewin lle mae'r iaith hefyd yn cael ei siarad yn eang. Mae 11 aelod o staff yn datblygu eu sgiliau iaith yn yr ardal hon ar hyn o bryd, a bydd hyn yn ein helpu i feithrin perthnasoedd dibynadwy a gallu darparu "cynnig gweithredol" sy'n helpu i sicrhau bod anghenion pobl yn cael eu deall a'u diwallu.

Mae hyn yn un o ofynion Safon 126, 127 a 128.

Mae rhagor o wybodaeth am ein rhaglen Hyfforddi ar gael yn Atodiad 3 o'r adroddiad hwn.

Gwobrau

Yn 2022, enillodd CNC Gyflogwr Cymraeg Gwaith y Flwyddyn ar gyfer 2022. Dyfarnwyd hyn am y cymorth a roddwn i'n haelodau staff i'w galluogi i ymrwymo i ddysgu Cymraeg. Roedd hyn yn gamp heb ei hail i CNC, ac rydym wedi dathlu'r anrhydedd hwn yn fewnol ac ar ein tudalennau ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae'r cymorth yn cynnwys ein cynllun mentora, neilltuo amser yn ystod yr wythnos waith i staff astudio, talu am gost cyrsiau a llyfrau cwrs Cymraeg a chaniatáu absenoldeb astudio yn ystod oriau gwaith. Cafodd ein staff eu canmol hefyd am eu penderfynoldeb a'u dyfalbarhad yn ystod y tarfu a achoswyd gan Covid-19.

Dyfarnodd Coleg Gwent y wobr Dosbarth Gweithle'r Flwyddyn ar gyfer 2022 i gwrs Cymraeg Uwch CNC. Enwebodd tiwtor y grŵp y dosbarth ar gyfer y wobr hon ar sail eu cyfraniad parhaus, eu brwdfrydedd a'u hymroddiad i ddysgu'r Gymraeg, yn enwedig yn ystod y cyfyngiadau symud ac o ystyried eu hymrwymiadau gwaith cyfnewidiol ac argyfyngau. Mae'r dysgwyr Cymraeg arobryn wedi bod yn dysgu Cymraeg ers 2013.

Rhannodd y dysgwyr eu hawgrymiadau ar gyfer dysgu llwyddiannus:

  • Dal ati i fynd i’r gwersi
  • Ymuno â sesiynau ychwanegol os yn bosibl e.e. “Sadwrn Siarad", gan helpu i gyflawni a defnyddio sgiliau Cymraeg y tu allan i'r ystafell ddosbarth
  • Gwrando ar "Say Something in Welsh" bob dydd, wrth fynd am dro
  • Defnyddio sgiliau Cymraeg pryd bynnag y bo modd i ymarfer siarad, gyda ffrindiau, teulu, mewn cyfarfodydd yn y gwaith neu hyd yn oed i'r ariannwr yn y siop

Nod Cymru yw bod â miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 ac, fel sefydliad, rydym yn croesawu'r her hon drwy annog a chefnogi ein staff i fanteisio ar gyfle i ddysgu Cymraeg.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol (ARWAP), gyda gweledigaeth o 'Cymru sy'n wrth-hiliol erbyn 2030’. Nod ARWAP yw mynd i'r afael ag anghydraddoldebau hiliol sefydliadol a strwythurol yng Nghymru er mwyn gwneud 'newidiadau ystyrlon a mesuradwy i fywydau pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol drwy fynd i'r afael â hiliaeth' a chyflawni 'Cymru sy'n wrth-hiliol erbyn 2030’. 

  1. Y Gymraeg ac Addysg: Gwneir mwy i hyrwyddo mynediad at y Gymraeg gan gymunedau ethnig lleiafrifol ym meysydd addysg, dysgu iaith, y gweithle a gweithgareddau cymunedol.

-  Mae gan CNC raglen Hyfforddiant Cymraeg ar waith hefyd. Mae’n cefnogi cydweithwyr i ddatblygu eu sgiliau iaith Gymraeg; er nad ydynt yn targedu pobl o leiafrifoedd ethnig yn benodol, mae'r cyrsiau ar gael i helpu pob aelod o staff i ddatblygu eu sgiliau iaith yn ystod amser gwaith ledled Cymru. 

- Enillodd CNC 'Cyflogwr Cymraeg Gwaith y Flwyddyn', ac mae un o'n cyrsiau Cymraeg Uwch wedi derbyn 'Dosbarth Gweithle'r Flwyddyn' gyda Choleg Gwent ar gyfer 2022. Roedd tri o'r dysgwyr Cymraeg yn digwydd bod o gefndiroedd ethnig amrywiol, gan gynnwys 'gwyn arall’.

Coed y Brenin – cefnogi dysgwyr

Mae Canolfan Ymwelwyr Coed y Brenin yn un o gadarnleoedd y Gymraeg yng Nghymru. Mae rhai o'r staff yn dysgu Cymraeg a, phob dydd Mercher, cynhelir sesiwn "paned a sgwrs" i ymarfer eu Cymraeg llafar yn anffurfiol gyda chydweithwyr.

Ym mis Mawrth, cynhaliwyd sesiwn "Am Dro a Sgwrs" dan arweiniad staff Parc Cenedlaethol Eryri y Ganolfan. Rhoddodd hyn gyfle i ddysgwyr ymarfer eu sgiliau Cymraeg. Mae'n bwysig bod ymwelwyr yn profi'r "naws am le" hwnnw wrth ymweld â Choed y Brenin wrth gael eu cyfarch yn ddwyieithog gan ein staff. Mae clywed yr iaith yn cael ei siarad, ei gweld yn ysgrifenedig ar ein harwyddion a'n pamffledi, yn ogystal â gallu defnyddio'r iaith gyda'n staff, i ba bynnag raddau, yn helpu i greu profiad unigryw i'r rhai sy'n ymweld â'r ganolfan.

Lansio Canllawiau Recriwtio

Yn dilyn treialu proses newydd ar gyfer asesu lefel iaith pob swydd newydd neu wag cyn hysbysebu, mae Rheolwyr yn dilyn y canllawiau ac yn llenwi ffurflen Microsoft Teams i gipio'r asesiad. Lansiwyd y canllawiau ym mis Medi 2022, maent ar gael ar y fewnrwyd ac yn cael eu hyrwyddo yng nghyfarfod misol y Rheolwyr. Mae gan y Tîm Recriwtio fynediad at yr asesiadau a byddant yn gwirio bod y broses wedi'i chwblhau ar gyfer pob swydd wag cyn hysbysebu. Caiff y ffurflen ei monitro i sicrhau bod y canllawiau'n cael eu dilyn ac i sicrhau bod siaradwyr Cymraeg yn ein holl dimau sy'n delio â'r cyhoedd yn rheolaidd.

Mae hyn yn un o ofynion Safonau 132 a 132a.

Hyrwyddo diwylliant Cymru a'r Gymraeg

Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi dathlu nifer o ddigwyddiadau yn rhithwir ac un digwyddiad wyneb yn wyneb i hyrwyddo diwylliant Cymru a'r Gymraeg yn fewnol ac yn allanol. Dyma'r digwyddiadau rydym wedi'u dathlu eleni: -

  • Calan Mai – 1 Mai – erthygl ar ein tudalen fewnrwyd yn esbonio hanes y digwyddiad.
  • Canmlwyddiant yr Urdd – 11 Mai – rhannu'r neges heddwch ac ewyllys da ar ein platfformau Cyfryngau Cymdeithasol
  • 25 mlynedd ers agor Llwybr Arfordir Cymru
  • Diwrnod #TîmCNC – 15 Mehefin – stondin hyfforddiant Cymraeg yn cynnig laniardiau 'Cymraeg Gwaith' a bathodynnau 'Dwi'n Dysgu Cymraeg'. Roedd hyn hefyd yn caniatáu i ddysgwyr gyfarfod mewn lleoliad wyneb yn wyneb.
  • Diwrnod Shwmae – 15 Hydref – erthygl ar ein mewnrwyd a rhannu posteri a gynhyrchwyd gan Dysgu Cymraeg a Mentrau Iaith ar Yammer
  • Diwrnod Hawliau'r Gymraeg – 7 Rhagfyr – aeth staff CNC ati i greu fideo yn esbonio pwysigrwydd y Gymraeg iddynt. Roedd y fideo hwn hefyd yn cynnwys rhai o'n dysgwyr a esboniodd pa mor bwysig yw dysgu Cymraeg iddynt.
  • Blog Dysgwyr Cymraeg – yr wythnos yn dechrau ar 12 Rhagfyr – dathlu ennill 'Dosbarth Gweithle'r Flwyddyn ar gyfer 2022’
  • Dydd Santes Dwynwen – 25 Ionawr – erthygl ar y fewnrwyd a rhannu lluniau ar Yammer
  • Dydd Miwsig Cymraeg – Chwefror – dechrau sgwrs ar Yammer am gerddoriaeth a bandiau Cymraeg
  • Dydd Gŵyl Dewi – 1 Mawrth – trefnu cwrs Ymwybyddiaeth o'r Gymraeg "Cymraeg a Chi". Aeth Côr Cyfoeth ati hefyd i recordio Calon Lân yn arbennig i ddathlu'r diwrnod, a chafodd y perfformiad ei bostio ar y fewnrwyd ac ar y cyfryngau cymdeithasol.
  • Diwrnod y Llyfr – 2 Mawrth – dechrau sgwrs ar Yammer am y gwahanol lyfrau Cymraeg sydd ar gael.

Tîm Hamdden

Yn dilyn penderfyniad Awdurdod y Parc Cenedlaethol i ddefnyddio'r enwau Cymraeg Eryri a'r Wyddfa yn unig yn y dyfodol, mewn ymateb uniongyrchol mae ein Tîm Hamdden wedi diweddaru ein gwefan i adlewyrchu'r newid hwn. Gan fod nifer o'n safleoedd hamdden yn y Parc Cenedlaethol ac yn cael eu hyrwyddo ar ein tudalennau Diwrnodau Allan ar y wefan, penderfynwyd rhoi Eryri (Snowdonia) yn y teitlau Saesneg a'r tro cyntaf i ni sôn amdano yn y testun, yna defnyddio Eryri yn y gweddill. Mae pob cyfeiriad at y Parc Cenedlaethol wedi cael eu diweddaru i Barc Cenedlaethol Eryri, ac mae'r un dull wedi'i ddefnyddio ar gyfer yr Wyddfa.

Teimlwyd mai dyma'r dull gorau i ddechrau, a byddwn yn ailedrych ar y mater ar ryw bwynt yn y dyfodol pan fydd y defnydd o Eryri a'r Wyddfa wedi ennill ei blwyf. Mae defnyddio enwau Cymraeg yn rhoi cyfle i'r rhai sy'n ymweld â'r ardal ymgysylltu â diwylliant Cymru a'r Gymraeg.

Enwau Lleoedd Hanesyddol

Fel sefydliad, mae gennym ddyletswydd statudol i ymgynghori ac ychwanegu at y Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol sy'n cynnwys cannoedd ar filoedd o enwau lleoedd a gasglwyd o fapiau hanesyddol a ffynonellau eraill. Mae'n rhoi golwg gynhwysfawr ar ddefnydd tir, archaeoleg a hanes Cymru. Mae enwau lleoedd hanesyddol yn ein cysylltu â'r gorffennol, ein hanes a'n diwylliant. Gall astudio enwau lleoedd (toponymeg) ardal gryfhau ymdeimlad o berthyn a pharhad gyda chenedlaethau blaenorol a chyda'n treftadaeth.

Mae ein Tîm Tirwedd, Cynllunio ac Ynni wedi gweithio ochr yn ochr â Chomisiynydd y Gymraeg a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru (CBHC) i ddatblygu a chyhoeddi Nodyn Cyfarwyddyd Gweithredol (OGN) 124 Enwau Lleoedd Hanesyddol. Mae'r canllawiau wedi'u hanelu at yr holl staff sy'n ymwneud ag unrhyw weithgareddau enwi neu staff a all ddod ar draws enwau hanesyddol efallai nad ydynt wedi'u rhestru eto e.e. wrth brynu tir newydd lle rhennir enwau caeau hanesyddol. Deallwn mai dyma'r canllawiau penodol cyntaf efallai i gyrff cyhoeddus sy'n ymwneud ag Enwau Lleoedd Hanesyddol yng Nghymru.

Ym mis Mawrth 2023, cynhaliwyd digwyddiad hyfforddi dwyieithog gan ddefnyddio'r cyfleuster cyfieithu ar y pryd yn Microsoft Teams. Cafwyd cyflwyniadau gan CNC, CBHC a Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg a rhoddwyd sylw i'r Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol a’r Canllawiau Statudol, pwysigrwydd safoni enwau lleoedd Cymru, OGN124 ac enghreifftiau o weithgarwch enwau lleoedd CNC. Mynychwyd y digwyddiad gan 65 aelod o staff ac fe'i recordiwyd ar gyfer y rhai na allent fod yn bresennol ar y dydd.

Rydym bellach yn bwriadu edrych ar ffyrdd o gysylltu ardaloedd ar draws y sefydliad sy'n ymwneud â gweithgarwch enwau lleoedd er mwyn casglu ac adrodd ar yr wybodaeth hon mewn un lle, gan ein galluogi i adrodd bod CNC yn cyflawni ein dyletswyddau statudol o ran y Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol.

Diwrnod Tîm CNC

Ym mis Mehefin, cynhaliwyd ein Diwrnod #TîmCNC blynyddol yn Aberystwyth. Mae hwn yn ddigwyddiad y gwahoddir pob aelod o staff i'w fynychu yn y cnawd neu ar-lein. Roedd y Gymraeg yn rhan o'r broses gynllunio o'r dechrau a gwnaeth sawl un o'r prif gyflwynwyr gyflwyno'n ddwyieithog ar y dydd, ac roedd yr holl ddeunydd arddangos yn ddwyieithog, gyda chymysgedd o fideos Cymraeg a Saesneg wedi'u cynhyrchu ar gyfer y diwrnod.

Drwy sicrhau bod digon o amser i gynllunio ac ystyried yr iaith, llwyddodd y digwyddiad i redeg yn llyfn ac yn naturiol ddwyieithog heb ddefnyddio cyfieithwyr ar y pryd ar y dydd.

Safonau Cadw Cofnodion

Mae ein Safonau yn mynnu ein bod yn cadw cofnodion fel a ganlyn:

Nifer y gweithwyr sydd â sgiliau Cymraeg ar ddiwedd y flwyddyn dan sylw ar sail y cofnodion a gedwir yn unol â Safon 145.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae ein niferoedd staff wedi cynyddu 87 ac rydym wedi gweld cynnydd cyson yn sgiliau iaith ein staff ar y mwyafrif o lefelau, ac mae gan ganran uchaf o’n siaradwyr Cymraeg Gymraeg ysgrifenedig a llafar rhugl ar Lefel 5 (14.8%). Mae'r rhan fwyaf o'n siaradwyr Cymraeg rhugl (331) yn ein Cyfarwyddiaeth Gweithrediadau. Yn gyffredinol, mae 750 (32%) o’n staff yn gallu trafod materion yn Gymraeg ac mae eraill ar Lefelau, 3, 4 a 5. Mae cyfanswm o 93.7% o’n staff yn gallu dangos cwrteisi ieithyddol wrth gyfarfod a chyfarch eraill.

Mae nifer y siaradwyr Cymraeg rhugl wedi codi gan 16, drwy ein proses recriwtio. Nid yw'r cynnydd canrannol o'r llynedd yn adlewyrchu hyn o ganlyniad i’r cynnydd yn niferoedd cyffredinol ein staff.

Gofynnir i staff hunanasesu eu sgiliau iaith a chofnodi yn FyCNC. Gweler sgiliau Cymraeg ein staff ym mis Mawrth 2022 isod:

  • Lefel 5 = 348 (14.8%)
  • Lefel 4 = 223 (9.5%)
  • Lefel 3 = 179 (7.6%)
  • Lefel 2 = 469 (20%)
  • Lefel 1 = 980 (41.8%)
  • Dim sgiliau = 98 (4.2%)
  • Mae 49 (2.1%) heb hunanasesu eu sgiliau iaith hyd yma.

Mae dadansoddiad o’n siaradwyr Cymraeg rhugl yn dangos y canlynol:

  • Mae’r mwyafrif rhwng 30-39 oed (159)
  • Mae 124 rhwng 50-59 oed
  • Mae 50 yn 60 oed neu'n hŷn
  • Mae 317 yn ddynion a 254 yn fenywod
  • Mae 83 yn gweithio'n rhan-amser
  • Mae'r niferoedd uchaf ar Raddau 5 a 6 (272) ond mae'r niferoedd isaf (24) ar ein graddau uwch o 9 ac uwch.
  • Mae 57 o staff newydd yn siaradwyr Cymraeg rhugl
  • Mae 28 o siaradwyr Cymraeg rhugl wedi gadael yn ystod y flwyddyn adrodd hon

Gellir gweld rhagor o wybodaeth am sgiliau Cymraeg y staff yn Atodiad 4 yr adroddiad hwn.

Nifer y staff a fynychodd gyrsiau hyfforddi a gynigiwyd drwy'r Gymraeg yn ystod y flwyddyn, ar sail y cofnodion a gadwyd, yn unol â Safon 146. Os cynigiwyd fersiwn Gymraeg o gwrs yn ystod y flwyddyn, canran o gyfanswm y staff a fynychodd y cwrs a fynychodd y fersiwn Gymraeg, ar sail y cofnodion a gadwyd, yn unol â Safon 124.

Yn ystod y cyfnod adrodd hwn ni chynigiwyd yr un o’r cyrsiau a restrir isod yn Gymraeg yn unol â Safon 146:

  • recriwtio a chyfweld – ar-lein gan ddefnyddio Microsoft Teams
  • rheoli perfformiad – ar-lein gan ddefnyddio Microsoft Teams
  • gweithdrefnau cwyno a disgyblu – ni chynhaliwyd unrhyw gyrsiau
  • rhaglen sefydlu – ar-lein gan ddefnyddio Microsoft Teams
  • delio â'r cyhoedd – ni chynhaliwyd unrhyw gyrsiau
  • iechyd a diogelwch – rhywfaint o hyfforddiant technegol wyneb yn wyneb

Mae'r rhan fwyaf o'n cyrsiau wedi parhau ar-lein yn ystod y cyfnod hwn, ar wahân i rai cyrsiau iechyd a diogelwch technegol.

Dros y flwyddyn nesaf, bydd y Tîm Recriwtio yn datblygu ac yn ceisio cyflwyno'r cwrs recriwtio a chyfweld mewnol yn y Gymraeg.

Rydym mewn cysylltiad â chwmni i gyflwyno'r cyrsiau a grybwyllir isod yn y Gymraeg yn y dyfodol:

  • Sgiliau cyfweld ar gyfer y rhai sy'n cael eu cyfweld
  • Sgiliau cyfweld ar gyfer cyfwelwyr

Nifer y swyddi newydd a gwag a hysbysebwyd yn ystod y flwyddyn a gawsant eu categoreiddio fel rhai lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol, yn ddymunol, lle mae angen eu dysgu ar ôl cael eich penodi i'r swydd, neu lle nad oeddent yn angenrheidiol, ar sail y cofnodion a gadwyd ac yn unol â Safon 148.

Mae rhai swyddi gwag yn cael eu hysbysebu'n fewnol ac yn allanol ar yr un pryd. Penodwyd 456 o ymgeiswyr mewnol, 290 o ymgeiswyr allanol a 6 secondai o gyrff cyhoeddus eraill, cyfanswm o 752.

Hysbysebir pob swydd yn gofyn am sgiliau Cymraeg Lefel 1 fel yr isafswm iaith, rhoddir hyfforddiant i staff sydd angen cyrraedd y lefel hon o ddealltwriaeth i ddangos cwrteisi ieithyddol.

Roedd nifer y swyddi a hysbysebwyd yn ystod y cyfnod adrodd hwn fel a ganlyn:

Lefel iaith

Hanfodol

Dymunol

Angen dysgu Cymraeg

Lefel 5 – Rhugl yn y Gymraeg ar lafar ac yn ysgrifenedig

5

0

0

Lefel 4 – Rhugl yn y Gymraeg ar lafar

48

0

0

Lefel 3 – Y gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg â hyder mewn rhai sefyllfaoedd gwaith

36

30

7

Lefel 1 – Y gallu i ynganu enwau, ymadroddion a chyfarchion Cymraeg sylfaenol

622

0

0

Mae dadansoddiad o’r ystadegau uchod a galluoedd ieithyddol staff a gafodd swyddi drwy ein proses recriwtio, yn fewnol ac yn allanol yn ystod y cyfnod adrodd hwn fel a ganlyn:

  • 118 yn siaradwyr Cymraeg ar Lefel 5
  • 69 yn siaradwyr Cymraeg ar Lefel 4
  • 79 yn siaradwyr Cymraeg ar Lefel 3
  • 134 yn siaradwyr Cymraeg ar Lefel 2
  • 305 yn siaradwyr Cymraeg ar Lefel 1
  • Nid oes gan 43 unrhyw sgiliau Cymraeg

Disgwylir i’r 43 nad ydynt yn bodloni’r isafswm lefel iaith Lefel 1 sy’n ofynnol gwblhau’r cwrs 10 awr ar-lein a ddarperir gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Bydd angen cwblhau'r cwrs hwn o fewn y cyfnod prawf i helpu i gyflawni'r lefel hon.

Nifer y cwynion a ddaeth i law yn ystod y flwyddyn a oedd mewn perthynas â chydymffurfio â safonau 152, 156, 162 a 164, sef safonau y mae gennym ddyletswydd i gydymffurfio â nhw.

Yn ystod y cyfnod adrodd hwn, daeth pedair cwyn i law, sef gostyngiad o'r wyth a gafwyd y llynedd. Gwnaed tair cwyn yn uniongyrchol i ni a daeth un atom drwy Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg.

Mae tair cwyn wedi'u datrys ac mae un ar hyn o bryd yn rhan o ymchwiliad sy'n cael ei gynnal gan Gomisiynydd y Gymraeg i'n diffyg cydymffurfiaeth â Safonau’r Gymraeg.

Dyma'r cwynion a dderbyniwyd:

Mater

Canlyniad

Ym mis Mai 2022, cafwyd cwyn bod anghysondebau wedi'u canfod ar y sillafiadau o Gwm Carn ar arwyddion ar y safle.

Anfonwyd ymateb at y cwsmer yn esbonio ein bod wedi derbyn sawl ymholiad am hyn. Fel rhan o'r ymateb, fe wnaethom nodi'r hanes a'r cefndir i'r sillafiad a ddefnyddiwn, a darparwyd dolen i ragor o wybodaeth am 'Enwau Lleoedd Safonol' o wefan Comisiynydd y Gymraeg.

Ym mis Medi 2022, derbyniodd Comisiynydd y Gymraeg alwad gan aelod o'r cyhoedd a oedd wedi derbyn trwydded bysgota uniaith Saesneg.

Mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn gweinyddu'r gwasanaeth hwn ar ein rhan ac anfonwyd ymddiheuriad at y cwsmer yn esbonio bod gwasanaeth digidol newydd wedi cael ei lansio'n ddiweddar ac nad oedd ar gael yn y Gymraeg ar hyn o bryd. Roedd trwydded cerdyn Cymraeg gyda llythyr cysylltiedig ar gael. Roedd y cwsmer yn hapus i dderbyn y fersiwn Gymraeg o'r drwydded.

Esboniodd y llythyr hefyd y datblygiadau sydd ar y gweill ar y wefan mewn perthynas â’r gwasanaeth Cymraeg a lansiwyd ym mis Tachwedd 2022.

Ym mis Rhagfyr 2022, cawsom gŵyn gan gwsmer a oedd wedi derbyn llythyr uniaith Saesneg. Mae Comisiynydd y Gymraeg yn ymchwilio i'r gŵyn hon ar hyn o bryd.

Mewn galwad ffôn, ymddiheurodd yr aelod staff i'r cwsmer am y camgymeriad, a siaradodd Arweinydd y Tîm â'r achwynydd hefyd ac anfonodd e-bost at y cwsmer yn Gymraeg. Cyflwynodd y cwsmer gŵyn i Gomisiynydd y Gymraeg, sydd wedi penderfynu cynnal ymchwiliad i'n diffyg cydymffurfiaeth â'n polisi Safonau’r Gymraeg. Mae'r mater hwn yn dal i fynd rhagddo.

Ym mis Ionawr 2023, cafwyd cwyn gan gwsmer a oedd wedi derbyn gohebiaeth gennym yn Gymraeg, ond roedd y cyfeiriad ar y llythyr yn Saesneg.

Anfonwyd ymateb i'r achwynydd yn ymddiheuro ac yn esbonio bod y llythyr wedi'i anfon o system awtomataidd. Aeth y tîm dan sylw ati i ymchwilio i’r sefyllfa er mwyn gwella a chywiro'r system. Anfonwyd llythyr diwygiedig gyda'r cyfeiriad Cymraeg at y cwsmer.

Rydym yn derbyn cwynion gan ein staff ein hunain am ddiffyg cydymffurfiaeth â'n polisi iaith mewnol a'n Safonau Gweithredol. Oherwydd y pandemig a gweithio ar-lein, ynghyd â'r diffyg cyfleusterau cyfieithu ar y pryd yn Microsoft Teams, rydym yn ymwybodol ei bod wedi bod yn anodd gweithio'n ddwyieithog yn fewnol ar adegau. Yn sgil ailgyflwyno'r cyfleuster cyfieithu ar y pryd ar Microsoft Teams ar ddiwedd 2022, rydym bellach yn gweithio i wella cyfleoedd i ddefnyddio'r cyfleuster hwn yn fwy mewnol drwy gynnal cyrsiau dwyieithog.

Canmoliaeth

Roedd y Tîm Addysg ac Iechyd wrth eu bodd i dderbyn canmoliaeth gan athrawon am y gwaith gwych y maent yn ei wneud wrth ddarparu hyfforddiant drwy gyfrwng y Gymraeg i safon mor uchel. Rydym yn gwerthfawrogi'r athrawon a roddodd o'u hamser i gydnabod eu gwerthfawrogiad o waith y tîm.

Perygl diffyg cydymffurfio

Gwasanaeth Trwyddedau Pysgota ar. Gov

Mae angen gwaith pellach i sicrhau bod y tudalennau glanio ar .Gov ar gael yn y Gymraeg, a fydd yn digwydd wrth ryddhau'r gwasanaeth eto yn y dyfodol. Bydd diweddaru'r tudalennau yn dibynnu ar yr ymgysylltu rhwng Asiantaeth yr Amgylchedd a .Gov, eu prosesau a'u llinellau amser. Yn y cyfamser, bydd neges yn cael ei chyhoeddi ar y dudalen lanio i hysbysu defnyddwyr y gallant brynu Trwydded Bysgota yn Gymraeg.

Unwaith y bydd y gwaith uchod wedi'i wneud, bydd y gwasanaeth Prynu Trwyddedau Pysgota cyfan ar gael yn Gymraeg ac yn cydymffurfio â'n Safonau.

Floodline UK

Mae cynnig rhagweithiol ar gyfer gwasanaeth Cymraeg yn parhau i fod ar waith, gyda siaradwyr Cymraeg yn aml yn cael eu trosglwyddo i asiantiaid sy'n delio â galwadau drwy gyfrwng y Saesneg am na all y gwasanaeth sicrhau y bydd siaradwr Cymraeg penodedig ar gael i ddelio â'r galwadau cyfrwng Cymraeg. Gall y sawl sy’n ffonio drwy gyfrwng y Gymraeg hefyd ddewis terfynu'r alwad a chael galwad yn ôl gan asiant sy’n siarad Cymraeg pan fydd un ar gael.

Er mwyn mynd i'r afael â'r mater hwn, mae prosiect wedi'i gomisiynu yn adran Dylunio ac Arloesi CNC i wella'r gwasanaeth hwn a fydd ar gael 24/7 trwy ddargyfeirio galwadau Cymraeg o Floodline i'n Canolfan Cyfathrebu Digwyddiadau. Bydd hyn yn golygu bod  siaradwyr Cymraeg sy’n ffonio Floodline yn cael gwasanaeth Cymraeg di-dor drwy Ganolfan Cyfathrebu Digwyddiadau CNC. Byddai hyn yn sicrhau bod y gwasanaeth Cymraeg yn gydradd â’r gwasanaeth Saesneg a byddai gan CNC reolaeth dros y gwasanaeth Cymraeg yn ogystal â gallu hyrwyddo’r gwasanaeth yn ehangach yma yng Nghymru. Disgwylir i'r prosiect gael ei gyflawni yn ystod hydref 2023. 

Unwaith y bydd y gwasanaeth hwn yn weithredol, byddwn yn cydymffurfio â Safonau 9 a 10.

Hyfforddiant

Mae'r contract presennol ar gyfer ein cyrsiau diogelwch ar-lein wedi bod ar waith ers 2013 ac ar gael yn Saesneg yn unig. Rydym wrthi'n caffael System Rheoli Dysgu newydd i fod ar waith erbyn mis Gorffennaf 2024. Mae disgwyl i'r system allu cynnal cynnwys dwyieithog a fydd yn galluogi staff i gwblhau cyrsiau ar-lein drwy gyfrwng y Gymraeg. Unwaith y bydd y system hon ar waith, byddwn yn cydymffurfio â Safon 124.

Byddwn yn parhau i ddatblygu cwrs sefydlu cyfrwng Cymraeg dros y flwyddyn nesaf. Unwaith y bydd y gwaith hwn wedi'i gwblhau, byddwn yn cydymffurfio â Safon 129.

Sut rydym yn cefnogi Cymraeg 2050

Drwy ein gwaith yn gweithredu a gwella ein gwasanaethau Cymraeg, dros y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi cyfrannu at Gynllun Gweithredu Strategaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022–23 drwy wneud y canlynol:

  • Cefnogi staff i ddatblygu eu sgiliau iaith at ddibenion gwaith.
  • Annog staff i ddefnyddio'r Gymraeg fel rhan o'u gwaith.
  • Tîm Addysg CNC yn hyrwyddo'r Gymraeg ym mhob digwyddiad hyfforddi.
  • Tîm Addysg CNC yn cynghori Llywodraeth Cymru, gan ei chefnogi i wireddu'r Cwricwlwm i Gymru a rôl amgylchedd naturiol Cymru o fewn hynny.
  • Asesu sgiliau iaith ar gyfer pob swydd newydd neu wag, gan sicrhau bod gennym staff sydd â'r sgiliau Cymraeg yn y rolau a'r lleoliadau iawn sy'n darparu cyfleoedd i bobl ddefnyddio'r iaith fel rhan o'u rôl ac wrth ddelio â'n cymunedau.
  • Bod yn rhagweithiol a hyrwyddo ein gwasanaethau Cymraeg.
  • Gweithredu cyfrifon cyfryngau cymdeithasol dwyieithog, hyrwyddo diwylliant a digwyddiadau Cymru a'r Gymraeg i gynulleidfa eang, codi ymwybyddiaeth o'r Gymraeg fel iaith fyw.
  • Datblygu ein gwasanaethau digidol yn ddwyieithog o'r cychwyn cyntaf.
  • Ymgynghori ac ychwanegu at y Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol fel rhan o'n gwaith.

Sut rydym yn cefnogi Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol (ARWAP), gyda gweledigaeth o 'Cymru sy'n wrth-hiliol erbyn 2030’. Nod ARWAP yw mynd i'r afael ag anghydraddoldebau hiliol sefydliadol a strwythurol yng Nghymru er mwyn gwneud 'newidiadau ystyrlon a mesuradwy i fywydau pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol drwy fynd i'r afael â hiliaeth' a chyflawni 'Cymru sy'n wrth-hiliol erbyn 2030’. 

Y Gymraeg ac Addysg: Gwneir mwy i hyrwyddo mynediad at y Gymraeg gan gymunedau ethnig lleiafrifol ym meysydd addysg, dysgu iaith, y gweithle a gweithgareddau cymunedol. Rydym yn cefnogi'r camau hyn yn y cynllun drwy:

  • - Gefnogi cydweithwyr i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg; er nad ydynt yn targedu pobl ethnig leiafrifol yn benodol, mae'r cyrsiau ar gael i helpu'r holl staff i ddatblygu eu sgiliau iaith yn ystod amser gwaith ledled Cymru. 
  • Mae ein cyrsiau Cymraeg Uwch wedi derbyn 'Dosbarth Gweithle'r Flwyddyn' gyda Choleg Gwent ar gyfer 2022. Roedd tri o'r dysgwyr Cymraeg yn digwydd bod o gefndiroedd ethnig amrywiol, gan gynnwys 'gwyn arall’.

Cynllun Gweithredu 2022-23

Roedd y cynllun gweithredu ar gyfer 2022–23 yn gynhwysfawr, gyda 53 o gamau gweithredu. O'r camau hynny, cwblhawyd 23 ohonynt, mae 16 ar waith, chwech yn parhau ac wyth heb eu dechrau. Mae rhai o'r camau sydd ar waith a heb eu cwblhau o ganlyniad i flaenoriaethau gwaith eraill. Bydd y camau sy'n parhau a heb eu dechrau yn rhan o’r cynllun gweithredu ar gyfer 2023-24.

Cynllun Gweithredu 2023-24

Dyma’r blaenoriaethau yn ein cynllun gweithredu ar gyfer 2023-24:

  • Parhau i weithio gydag Asiantaeth yr Amgylchedd i sicrhau bod y tudalennau glanio ar .Gov ar gael yn Gymraeg.
  • Datblygu gwasanaeth gwybodaeth llifogydd Floodline UK fel ei fod yn cydymffurfio â Safonau’r Gymraeg.
  • Caffael System Rheoli Dysgu newydd a fydd yn ein galluogi i gynnal cyrsiau ar-lein yn Gymraeg.
  • Parhau i ddatblygu ein rhaglen Hyfforddiant Sefydlu cyfrwng Cymraeg.
  • Datblygu ffyrdd gwell o hunan-fonitro ein cydymffurfiaeth â'r Safonau.
  • Datblygu ein hyfforddiant Ymwybyddiaeth o'r Gymraeg ein hunain.

Casgliad

Rydym yn falch o'r cynnydd a wnawn wrth weithredu ein Safonau’r Gymraeg, gyda nifer ein staff sy'n siarad Cymraeg yn cynyddu, yn ogystal â'r cynnydd yn nifer ein staff sy'n datblygu eu sgiliau iaith at ddibenion gwaith.

Mae yna rai Safonau nad ydym yn cydymffurfio'n llawn â nhw o hyd, ac rydym yn gweithio i fynd i'r afael â'r meysydd hyn. Yn ystod y flwyddyn i ddod, rydym yn bwriadu edrych ar ffyrdd o fod yn fwy rhagweithiol wrth fonitro ein cydymffurfiaeth, a bydd hyn yn helpu i liniaru rhai meysydd lle nad ydym yn cydymffurfio.

Rydym yn croesawu adborth gan gwsmeriaid ar ein gwasanaethau gan fod hyn yn ein helpu i ddeall eu hanghenion yn well ac yn ein helpu i ddatblygu gwasanaethau'n well i'r dyfodol. Fel sefydliad, rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ddarparu cynnig gweithredol o wasanaeth Cymraeg ac annog cwsmeriaid i ddefnyddio ein gwasanaethau cyfrwng Cymraeg, gyda'r nod o gynyddu eu defnydd. Mae'r gwaith hwn yn cyfrannu at nod Strategaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

O dro i dro, gall gweithio hybrid fod yn fwy heriol mewn perthynas â'r Gymraeg, gyda rhai staff heb yr un ymwybyddiaeth o ran clywed yr iaith yn cael ei siarad neu ei gweld ar arwyddion ac mewn amgylchedd swyddfa. Gyda nifer ein staff sy'n siarad Cymraeg ar gynnydd, yn ogystal â'r rhai sy'n datblygu eu sgiliau iaith, mae'n bwysig ein bod yn darparu mwy o gyfleoedd i staff weithio drwy gyfrwng y Gymraeg ar draws y sefydliad ac ymrwymiad amserol yn ein Cynllun Corfforaethol. Mae'r ffordd rydym yn gweithio'n fewnol yn adlewyrchu ein gwaith yn allanol a bydd hyn yn helpu i feithrin y cysylltiadau hynny y gellir ymddiried ynddynt a rhannu negeseuon pwysig gyda'n partneriaid a'n cwsmeriaid sy'n siarad Cymraeg.

Erbyn hyn, mae gan ein Tîm Cyfieithu y capasiti i fod yn fwy creadigol o ran sut maent yn gweithio ac mae gallu gwneud hynny ar y cyd yn helpu i sicrhau bod y Gymraeg yn rhan bwysig o'r gwaith a wnawn, yn hytrach na bod yn wasanaeth cyfieithu ar ddiwedd proses. Rydym am i bobl ddefnyddio ein gwasanaethau a gobeithio y bydd y ffordd hon o weithio yn annog mwy o ddefnydd o'n gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg fel y gwelsom gyda'r cynnydd yn y defnydd o'n gwasanaethau ar-lein Cymraeg.

Atodiad 1

Tîm Addysg ac Iechyd

Adnoddau i addysgwyr ac athrawon

Mae'r holl adnoddau addysg ar gael yn Gymraeg ar ein tudalen we ac ar Hwb. Mae'r adnoddau newydd a lanlwythwyd yn ystod y flwyddyn ariannol hon wedi cynnwys:

Adborth ar ein hadnoddau: ‘Mae wastad yn ddefnyddiol cael adnoddau parod yn y Gymraeg - maen nhw o safon uchel.’

Gweithio gydag eraill

Mae aelodau o'r tîm wedi gweithio mewn partneriaeth â'r canlynol i hyrwyddo'r Gymraeg a:

  • Staywise Cymru i gynhyrchu fersiwn penodol i Gymru ddwyieithog o wefan Staywise UK Blue Light ar gyfer gweithwyr brys, gweithwyr addysg proffesiynol, teuluoedd a dysgwyr fel y gallant gael mynediad at adnoddau dysgu diogelwch personol.
  • Prosiect Lefelau Byw Gwent – helpu i ddatblygu adnoddau dysgu dwyieithog ar gyfer Geidiaid, Brownis, a bathodyn Rainbows Alien Invaders.
  • Ymwybyddiaeth Llifogydd Cymru i adolygu ein cyfres ddwyieithog bresennol o adnoddau.
  • Tîm prosiect Sands of Life i gynhyrchu cyfres newydd o adnoddau dwyieithog.

Ymgyrchoedd a digwyddiadau cenedlaethol

Cafodd y ddwy ymgyrch genedlaethol yn 2022/23 – Miri Mes ac Wythnos Dysgu Awyr Agored Cymru sy'n cael eu trefnu gennym mewn partneriaeth â Chyngor Dysgu Awyr Agored Cymru, eu cynnal yn ddwyieithog. Hashnodau Cymraeg penodol er mwyn i grwpiau ymgysylltu drwy gyfrwng y Gymraeg os dymunant.

  • #MiriMes
  • #WythnosDysguAwyrAgored

Atodiad 2

Ystadegau Gwasanaethau Rhybuddio a Hysbysu ynghylch Llifogydd

Floodline

Mae'r tabl isod yn dangos bod canrannau bach o gwsmeriaid Cymraeg o hyd.

 

2019-2020*

2020-2021

2021-2022

2022-2023

Cymraeg

Saesneg

Cymraeg

Saesneg

Cymraeg

Saesneg

Cymraeg

Saesneg

Galwyr i’r Llinell Llifogydd – dewis iaith

307 (3.1%)

9,652

244 (4.1%)

5,713

176 (3.2%)

5,334

114 (4.4%)

2,473

Galwyr i’r Llinell Llifogydd – gwybodaeth fyw am rybuddion wedi'i recordio ymlaen llaw

95 (1.3%)

7,456

94 (2.4%)

3,789

59 (1.6%)

3,567

46 (2.9%)

1,533

Galwyr i’r Llinell Llifogydd – galwadau i asiantau

25 (2%)

1,256

61 (5.3%)

1,067

58 (7.4%)

729

25 (5.3%)

443

Tabl 1: Galwyr i Floodline. *Mae data 2019-2020 o fis Gorffennaf 2019 yn unig.

Rhybuddion Llifogydd a Gwasanaethau Perygl Llifogydd

 

2019-2020

2020-2021

2021-2022

2022-2023

Cymraeg

Saesneg

Cymraeg

Saesneg

Cymraeg

Saesneg

Cymraeg

Saesneg

Ymweliadau â thudalen we Rhybuddion Llifogydd

10,257

(0.95%)

1,067,767

6,771 (0.8%)

856,914

4,843 (0.5%)

1,024,469

2,971 (0.3%)

901,042

Ymweliadau â thudalen we Perygl llifogydd pum diwrnod ar gyfer Cymru

489

(0.73%)

66,570

570 (0.3%)

174,150

346 (0.1%)

336,933

655 (0.2%)

335,049

Tabl 2: Ymweliadau â thudalennau gwe CNC

Atodiad 3

Hyfforddiant Cymraeg

Eleni, mae gennym 173 o aelodau staff wedi cofrestru ar hyn o bryd mewn hyfforddiant Cymraeg ar wahanol lefelau. Mae hyn wedi cynyddu 35 ers y llynedd.

Cyfanswm

173

100%

Cwrs

Dysgwyr 2022/23

Canran

Mynediad

80

47%

Sylfaen

44

25%

Canolradd

18

10%

Uwch

29

17%

Hyfedredd

1

1%

 

Cyfanswm

173           

100%

Rhanbarth

Dysgwyr 2022/23

Canran

Caerdydd

9

5%

Sir Gaerfyrddin

8

5%

Ceredigion/Powys

46

27%

Morgannwg

0

0%

Gwent

32

18%

Y Gogledd-ddwyrain

18

10%

Y Gogledd-orllewin

41

24%

Sir Benfro

3

2%

Bae Abertawe

13

7%

Y Fro

0

0%

Cymraeg Gwaith (Opsiwn hunanddysgedig)

3

2%

Nant Gwrtheyrn

Mae chwe aelod o staff CNC wedi mynychu cyrsiau dwys a ddarparwyd yn rhithwir ac yn y cnawd gan Nant Gwrtheyrn eleni. Nid ydynt wedi'u cynnwys yn yr uchod gan nad ydynt wedi'u cofrestru ar gwrs ar hyn o bryd.

Mae Nant Gwrtheyrn yn cynnig cyrsiau dwys i bobl o bob gallu ac mae rhai o'r rhain yn rhad ac am ddim drwy gynllun Cymraeg Gwaith.

Unwaith y bydd cyllid wedi'i gadarnhau gan Lywodraeth Cymru ar gyfer cyrsiau Cymraeg Gwaith 2023/24, mae gennym lond llaw o aelodau o staff sy'n gobeithio rhedeg cyrsiau penodol i CNC yn uniongyrchol gyda Nant Gwrtheyrn oherwydd y profiad cadarnhaol a gawsant yn ystod eu cyrsiau blaenorol.

Dysgu Cymraeg

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae rhai o'r darparwyr Dysgu Cymraeg wedi cynnig cyrsiau wyneb yn wyneb i'w dysgwyr ac mae rhai aelodau o staff CNC wedi dychwelyd i'r ystafell ddosbarth ar gyfer eu dysgu. Fodd bynnag, mae'r rhan fwyaf o'n staff wedi parhau i ddysgu'n rhithwir, gan ei bod yn haws cael mynediad at ddysgu o'r fath a'i fod yn ecogyfeillgar, sy'n bwysig i staff CNC.

Eleni, rydym hefyd wedi gallu cynnig opsiwn hunanddysgedig i rai o'n staff. Darperir hyn gan Dysgu Cymraeg – Cymraeg Gwaith. Fe wnaethom ni gynnig hyn yn arbennig i aelodau staff a oedd yn gwybod na fyddent yn gallu ymrwymo i gyrsiau wythnosol yn rheolaidd (oherwydd ymrwymiadau gwaith, salwch ac ati). Mae hyn wedi profi i fod yn ddull llwyddiannus i'r unigolion hyn.

Say Something in Welsh

Mae Say Something in Welsh (SSiW) yn danysgrifiad rydym bellach wedi'i gyflwyno ac yn ei gynnig i'n holl staff, waeth a ydynt ar gontractau parhaol neu dymor byr. Mae hefyd yn ddull dysgu sy'n cael ei annog gan Dysgu Cymraeg. Rydym hefyd yn cynnig hwn fel ateb dros dro i staff sy'n aros i gofrestru ar gyfer cwrs Dysgu Cymraeg.

Oherwydd hyn, nid yw ffigurau SSiW wedi'u cynnwys yn yr ystadegau uchod gan fod rhai dysgwyr sydd wedi cofrestru ar gyfer cyrsiau Mynediad wedi cofrestru ar gyfer SSiW hefyd.

Ar hyn o bryd, mae gennym 26 o ddysgwyr wedi cofrestru ar Say Something in Welsh.

Sgiliau personol

Ar gyfer 2023/24, mae sawl sesiwn sgiliau personol wedi'u trefnu. Bydd y rhain yn cael eu cyflwyno'n ddwyieithog. Bydd y rhain yn cael eu hysbysebu'n fewnol ac yn agored i'r holl staff eu mynychu. Dyma'r sesiynau sydd wedi'u trefnu hyd yma:

  • Gwydnwch a Llesiant
  • Cael Sgyrsiau Gonest

Yammer

Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi bod yn diweddaru ein tudalennau Yammer Cymraeg yn rheolaidd. Mae'r rhain yn cael eu diweddaru'n rheolaidd gan y cydlynydd hyfforddiant Cymraeg gydag awgrymiadau, argymhellion hyfforddiant a chyrsiau ar gyfer staff CNC. Mae hon yn ffordd wych o gyfathrebu'n anffurfiol â staff CNC, ac maent yn ymatebol iawn yno hefyd.

  • Dysgu Cymraeg
  • Hyfforddiant Cymraeg

Atodiad 4

Hunanasesiad staff o sgiliau Cymraeg ym mis Mawrth 2023

Dyddiad

Heb gwblhau datganiad

Dim sgiliau iaith

Gallu ynganu ymadroddion a chyfarchion sylfaenol

Gallu llunio brawddegau sylfaenol

Gallu trafod rhai materion gwaith yn hyderus

Siaradwr Cymraeg rhugl

Rhugl yn y Gymraeg ar lafar ac yn ysgrifenedig

Mawrth 2023

49 (2.1%)

98 (4.2%)

980 (41.8%)

469 (20%)

179 (7.6%)

223 (9.5%)

348(14.8%)

Mawrth 2022

43 (2%)

88 (3.9%)

942 (41.7%)

456 (20%)

175 (7.8%)

221 (9.8%)

334 (14.8%)

Chwefror 2021

109 (4.9%)

87(3.9%)

915(40.9%)

438 (19.6%)

153 (6.8%)

225 (10%)

310 (13.9%)

Mawrth 2020

134 (6.5%)

63 (3.1%)

820 (40.0%)

412 (20.1%)

136 (6.6%)

211 (10.3%)

275 (13.4%)

Niferoedd ym mis Mawrth 2023 = 2346 – Nifer a chanran y siaradwyr Cymraeg ym mis Mawrth 2023 = 571 (24.3%)

Niferoedd ym mis Mawrth 2022 = 2259 – Nifer a chanran y siaradwyr Cymraeg ym mis Mawrth 2022 = 555 (24.6%)

Niferoedd ym mis Chwefror 2021 = 2237 – Nifer a chanran y siaradwyr Cymraeg ym mis Chwefror 2021 = 535 (24%)

Niferoedd ym mis Mawrth 2020 = 2051 – Nifer a chanran y siaradwyr Cymraeg ym mis Mawrth 2020 = 486 (23.7%)

Sgiliau Cymraeg yn ôl Cyfarwyddiaeth – Mawrth 2023

CYFANSWM

49

98

980

469

179

223

348

2346

Cyfarwyddiaeth

Heb gwblhau datganiad

Dim dealltwriaeth o’r Gymraeg

Gallu ynganu ymadroddion ac enwau Cymraeg sylfaenol

Gallu llunio brawddegau Cymraeg sylfaenol

Gallu trafod rhai materion gwaith yn hyderus

Rhugl ar lafar yn y Gymraeg

Rhugl yn y Gymraeg ar lafar ac yn ysgrifenedig

Cyfanswm

CCC

4

4

29

20

10

11

41

119

CSD

4

2

40

34

5

12

23

120

EPP

7

27

278

139

56

48

66

621

FCS

3

14

83

36

15

16

23

190

OPS

31

51

550

240

93

136

195

1296

Sgiliau Cymraeg yn ôl Proffil Oedran - Mawrth 2023

Cyfanswm

49

98

980

469

179

223

348

2346

Oedran

Heb gwblhau datganiad

Heb gwblhau datganiad

Gallu ynganu ymadroddion ac enwau Cymraeg sylfaenol

Gallu llunio brawddegau Cymraeg sylfaenol

Gallu trafod rhai materion gwaith yn hyderus

Rhugl ar lafar yn y Gymraeg

Rhugl yn y Gymraeg ar lafar ac yn ysgrifenedig

Cyfanswm

<20

1

0

1

0

1

1

0

4

22 - 29

9

17

89

32

13

19

66

245

30 - 39

9

21

206

113

41

54

105

549

40 - 49

12

26

314

164

60

75

77

728

50 - 59

13

27

299

124

51

55

69

638

60 +

5

7

71

36

13

19

31

182

 

Sgiliau Cymraeg fesul rhyw – Gweithwyr Llawn Amser/Rhan-amser - Mawrth 2023

Cyfanswm

49

98

980

469

179

223

348

2346

Rhyw
Llawn amser
Rhan-amser

Heb gwblhau datganiad

Dim dealltwriaeth o’r Gymraeg

Gallu ynganu ymadroddion ac enwau Cymraeg sylfaenol

Gallu llunio brawddegau Cymraeg sylfaenol

Gallu trafod rhai materion gwaith yn hyderus

Rhugl ar lafar yn y Gymraeg

Rhugl yn y Gymraeg ar lafar ac yn ysgrifenedig

Cyfanswm

Menywod

23

48

432

246

95

95

159

1098

Llawn amser

15

42

334

182

68

68

127

836

Rhan-amser

8

6

98

64

27

27

32

262

Dynion

26

50

548

223

84

128

189

1248

Llawn amser

26

48

517

209

79

114

179

1172

Rhan-amser

-

2

31

14

5

14

10

76

Sgiliau Cymraeg fesul gradd - Mawrth 2023

Gradd

Heb gwblhau datganiad

Dim dealltwriaeth o’r Gymraeg

Gallu ynganu ymadroddion ac enwau Cymraeg sylfaenol

Gallu llunio brawddegau Cymraeg sylfaenol

Gallu trafod rhai materion gwaith yn hyderus

Rhugl ar lafar yn y Gymraeg

Rhugl yn y Gymraeg ar lafar ac yn ysgrifenedig

Cyfanswm

G1

-

-

- -

-

- - -

G2

8

8

27

13

6

10

13

85

G3

3

7

47

11

2

18

28

116

G4

12

14

140

53

17

41

65

342

G5

10

30

258

106

53

58

91

606

G6

7

18

252

150

50

50

73

600

G7

4

11

134

85

30

30

39

333

G8

2

2

78

33

13

9

22

159

G9

2

2

33

13

5

6

10

71

G10

-

1

1

1

-

-

1

4

G11

1

4

9

3

1

1

5

24

GWEITHREDOL

-

1

1

2

1

-

1

6

Cyfanswm

49

98

980

469

179

223

348

2346

Sgiliau Cymraeg staff newydd a'r rhai sy'n gadael - Mawrth 2023

 

Heb gwblhau datganiad

Dim dealltwriaeth o’r Gymraeg

Gallu ynganu ymadroddion ac enwau Cymraeg sylfaenol

Gallu llunio brawddegau Cymraeg sylfaenol

Gallu trafod rhai materion gwaith yn hyderus

Rhugl ar lafar yn y Gymraeg

Rhugl yn y Gymraeg ar lafar ac yn ysgrifenedig

Cyfanswm

Staff newydd

36

24

111

37

23

39

18

288

Staff sy’n gadael

8

11

55

17

11

19

9

130

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf