Ymweld â'n lleoedd yn ddiogel
Awgrymiadau ar gyfer ymweliad diogel a difyr
Gallwch wrando ar lwybr sain pan fyddwch yn ymweld â rhai o'n coetiroedd neu warchodfeydd.
Bydd pob llwybr sain yn eich helpu i ddysgu mwy am hanes neu nodweddion eraill yn y lleoedd hyn.
Rydym yn argymell eich bod yn lawrlwytho'r llwybr sain i'ch ffôn clyfar cyn eich ymweliad oherwydd gall darpariaeth rhwydwaith symudol fod yn gyfyngedig mewn ardaloedd gwledig.
Mae llwybrau sain yn y lleoedd hyn. Ewch i'r adran lawrlwythiadau ar waelod pob tudalen i ddod o hyd i ffeil mp3 y llwybr sain a PDF o sgript.