Croeso
Coetir derw Gwarchodfa Natur Genedlaethol Coedydd Maentwrog yw’r hyn sy’n weddill o goedwig law Geltaidd enfawr a ymestynai ar hyd ochr orllewinol Prydain ac Iwerddon ar un adeg.
Mae'r glawiad uchel a'r chwistrell o'i nentydd byrlymus serth yn cynnal amgylchedd llaith sydd bron yn barhaol o dan y canopi coed, gan gefnogi coedwig law dymherus brin.
Mae llawer o'r mwsoglau, llysiau'r afu a'r cennau ar foncyffion y coed a’r creigiau'n goroesi mewn ardaloedd llaith yn unig – mae rhai mor brin nes eu bod o bwysigrwydd rhyngwladol.
Mae'r coetir hefyd yn lle gwych i bryfed sy'n darparu bwyd i'r ystlumod sy'n clwydo ac yn bridio yma, gan gynnwys yr ystlum pedol lleiaf prin
Gallwch ddilyn llwybr cylchol drwy’r coetir o faes parcio Coed Llyn Mair neu gerdded i Orsaf Tan y Bwlch ar Reilffordd Ffestiniog.
Mae ardal bicnic ar lan y llyn gyferbyn â’r maes parcio sy’n fan cychwyn ar gyfer llwybrau cerdded a beicio hirach a reolir gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.

Llwybrau cerdded
Mae arwyddbyst ar y llwybrau cerdded o’r dechrau i’r diwedd.
Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr.
Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.
Llwybr Gorsaf Gyswllt
- Gradd: Hawdd
- Pellter: 0.4 milltir/0.6 kilometres yno ac yn ôl
- Amser: 30 muned
- Gwybodaeth am y llwybr: Mae wyneb y llwybr o’r faes parcio i orsaf Tan y Bwlch ar ochr orllewinol yr afon yn llydan a chadarn a cheir rhigolau dŵr o bryd i’w gilydd a rhes fechan o risiau. Ceir mannau gorffwys bob 100m a byrddau picnic ar ben y bryn. Mae’r llwybr o orsaf Tan y Bwlch i’r faes parcio ar ochr ddwyreiniol yr afon yn serth ac anwastad – os ydych yn ansicr, ewch ar hyd yr un llwybr i faes parcio ar ochr orllewinol yr afon.
Dilynwch yr arwyddion glas a dringo'n raddol drwy'r coetiroedd derw hyd at orsaf reilffordd Tan-y-Bwlch.
Mae'r orsaf hon ar Reilffordd Ffestiniog ac mae ganddi gaffi gyda thoiledau.

Llwybr Coed Llyn Mair
- Gradd: Cymedrol
- Pellter: 0.4 miles/0.6 kilometres
- Amser: 30-45 muned
- Gwybodaeth am y llwybr: Mae wyneb y llwybr yn naturiol gyda chreigiau a gwreiddiau amlwg, a sawl cyfres o risia.
Dilynwch yr arwyddion coch wrth i'r llwybr ddringo drwy'r coed, a chwiliwch am y cerfluniau bach a mawr ar y ffordd.
Yna, mae'r llwybr yn arwain i lawr ar hyd ochr y ceunant a cheir golygfeydd o'r nant islaw.

Beth sydd i’w weld ar y Warchodfa Natur Genedlaethol
Mae Coedydd Maentwrog yn Warchodfa Natur Genedlaethol.
Mae Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol yn lleoedd sydd â rhai o'r enghreifftiau gorau o gynefinoedd bywyd gwyllt a nodweddion daearegol.
Mae’r tirlun a’r bywyd gwyllt yn amrywio yn ôl yr adeg o’r flwyddyn – cadwch olwg am y rhain.
Mwsogl, llysiau’r afu a chennau
Safwch ger y ceunant, lle mae canopi’r coed yn fwy trwchus ac mae ewyn dŵr yn codi’n ddi-baid o’r nant, ac fe deimlwch ar unwaith ei bod yn fwy llaith yno.
Mae hyn yn creu amodau perffaith ar gyfer 200 o rywogaethau o fwsogl a llysiau’r afu a 120 o rywogaethau o gen, gan gynnwys cen ysblennydd llysiau’r ysgyfaint sy’n tyfu ar goed aeddfed.
Gwyfynod, ystlumod ac adar
Mae’r goedwig hefyd yn gartref gwych i bryfed, a 286 o wahanol fathau o wyfynod bychain yn unig.
Ceir digonedd o fwyd felly i’r ystlumod amrywiol sy’n byw yma.
Ar nosweithiau cynnes o haf, os byddwch yn lwcus, efallai y gwelwch yr ystlum pedol lleiaf prin, yn hela’n uchel ym mrigau’r goedwig.
Yn yr haf, efallai y byddwch yn ddigon bodlon yn eistedd yn un o’r llennyrch llonydd yn aros i’r tingochiaid, y gwybedogion brith a theloriaid y coed gyrraedd – y mudwyr haf sy’n nodweddiadol o "goed derw ucheldirol".
Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol yng Nghymru
Mae dros 70 o Warchodfeydd Natur Cenedlaethol yng Nghymru.
Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am Warchodfeydd Natur Cenedlaethol.
Coedydd Derw Meirionnydd
Mae Coedydd Maentwrog yn un o’r chwech o Goedydd Derw Meirionnydd mawr sydd wedi'u gwarchod fel Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol.
Mae'r coedydd derw hyn yr un mor bwysig yn fyd-eang ac yr un mor fregus â rhai coedwigoedd glaw trofannol ac maent yn weddillion 'coed gwyllt' Atlantig helaeth a oedd ar un adeg yn ymestyn i lawr ochr orllewinol Prydain ac Iwerddon.
Gellir ymweld â dau o Goedydd Derw eraill Meirionnydd yn ofalus:
Mae llystyfiant trwchus a mynediad serth yn golygu nad yw'r Coedydd Derw eraill (Coed Camlyn, Coed Cymerau, a Choed y Rhygen) yn addas ar gyfer ymwelwyr.
Parc Cenedlaethol Eryri
Mae Coedydd Maentwrog wedi’i leoli ym Mharc Cenedlaethol Eryri.
Eryri yw’r Parc Cenedlaethol mwyaf yng Nghymru ac mae’n gartref i drefi a phentrefi hardd a’r mynydd uchaf yng Nghymru.
Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri sy’n gofalu amdano.
I gael mwy o wybodaeth am ymweld ag Eryri, ewch i wefan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.
Ymweld yn ddiogel
Rydyn ni eich eisiau chi i ddychwelyd adref yn ddiogel ar ôl eich ymweliad yma.
Rydych yn gyfrifol am eich diogelwch eich hun yn ogystal â diogelwch unrhyw blant ac anifeiliaid sydd gyda chi yn ystod eich ymweliad.
Sylwer:
- Rheilffordd gul a threnau aml – peidiwch byth â cherdded ar y cledrau.
- Llethrau, clogwyni a chreigiau serth – gwisgwch esgidiau priodol, cadwch at y llwybrau a chymerwch ofal.
Am gyngor ac awgrymiadau i'ch helpu i gynllunio'ch ymweliad, ewch i dudalen Ymweld â'n lleoedd yn ddiogel.
Newidiadau i gyfleusterau ymwelwyr
Gweler brig y dudalen we hon i gael manylion unrhyw gynlluniau i gau cyfleusterau neu unrhyw newidiadau eraill i gyfleusterau ymwelwyr yma.
Er mwyn eich diogelwch, dilynwch gyfarwyddiadau'r staff ac arwyddion bob amser gan gynnwys y rhai ar gyfer dargyfeirio neu gau llwybrau.
Mae'n bosibl y bydd angen i ni ddargyfeirio neu gau llwybrau wrth i ni wneud gwaith cynnal a chadw neu gynnal gweithrediadau eraill ac mae'n bosibl y bydd angen i ni gau cyfleusterau ymwelwyr eraill dros dro.
Mewn tywydd eithafol, mae'n bosibl y byddwn yn cau cyfleusterau ar fyr rybudd oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr a staff.
Trefnu digwyddiad ar ein tir
Efallai y bydd angen caniatâd gennym ni i drefnu digwyddiad neu gynnal rhai gweithgareddau ar ein tir.
Gwiriwch a gewch chi ddefnyddio tir rydyn ni’n ei reoli.
Sut i gyrraedd yma
Rydym yn argymell eich bod yn dilyn y cyfarwyddiadau hyn neu’n defnyddio’r map Google isod lle mae pin yn nodi’r lleoliad.
Mae Coedydd Maentwrog 7 milltir i'r gogledd ddwyrain o Borthmadog.
Cymerwch yr A487 o Borthmadog i Faentwrog.
Trowch i'r chwith i ddilyn y B4410 wrth dafarn yr Oakeley Arms ac, ar ôl tua 500 metr, mae'r maes parcio ar y dde.
Y cyfeirnod grid Arolwg Ordnans ar gyfer maes parcio Coed Llyn Mair yw SH 652 413 (Explorer Map OL 18).
Y cod post yw LL41 3AQ. Sylwer bod y cod post hwn yn cwmpasu ardal eang ac ni fydd yn mynd â chi yn uniongyrchol i’r fynedfa.
Edrychwch ar y lle hwn ar wefan What3Words.
Cludiant cyhoeddus
Y prif orsaf reilffordd agosaf yw Penrhyndeudraeth.
Er mwyn cael manylion ynghylch cludiant cyhoeddus, ewch i wefan Traveline Cymru.
Parcio
Mae’r maes parcio yn rhad ac am ddim.
Ni chaniateir parcio dros nos.
Manylion cyswllt
Nid oes staff yn y lleoliad hwn.
Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.