Croeso
Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Coed y Cerrig yn ardal goediog mewn dyffryn bychan dwfn a ffurfiwyd gan rewlifoedd.
Mae coetir gwern, gwlyb yn gorchuddio llawr y dyffryn, a gellir ei archwilio drwy ddilyn ein llwybr pren hygyrch.
Hefyd, ceir llwybr cerdded byr ond serth sy’n arwain drwy’r coetir cymysg sy’n glynu wrth ochrau serth y dyffryn ac mae hwn yn llawn arogl persawrus clychau'r gog yn y gwanwyn.
Mae’r warchodfa mewn rhan dawel o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ond, ar un adeg, roedd y ffordd drwyddi yn rheilffordd brysur a oedd yn cludo deunyddiau i adeiladu cronfa ddŵr Grwyne Fawr.
Llwybrau cerdded
Mae arwyddbyst ar y llwybrau cerdded o’r dechrau i’r diwedd.
Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybrau.
Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.
Llwybr Pren y Gwern
- Gradd: Hygyrch
- Pellter: 0.4 milltir/0.6 cilomedr
- Amser: 30 muned
- Gwybodaeth am y llwybr: Mae’r llwybr yn cychwyn dros y ffordd o'r maes parcio – cymerwch ofal wrth groesi’r ffordd. Mae’r llwybr bordiau llydan a gwastad, gyda lleoedd pasio, yn eich galluogi i fwynhau’r coetir yng ngwaelod gwlyb y dyffryn. Gallwch wneud cylchdaith drwy gynnwys yr adran heb lwybr pren sy’n cael ei ddangos ar y map. Mae meinciau pren ar hyd y llwybr. Mae mwd meddal – peidiwch â chrwydro o’r llwybr pren neu’r llwybr.
Sylwch ar goesynnau’r gwern – tystiolaeth o ‘brysgoedio’ (torri’n agos i’r bôn ac ail dyfu).
Edrychwch allan am gold y gors ac ymbarelau pinc, tyner y triaglog sy’n tyfu ar hyd y llwybr coed yn y gwanwyn, ac aroglwch glychau’r gog sy’n tyfu ar hyd y llwybr.

Dringfa’r Coetir
- Gradd: Anodd
- Peltter: ¼ milltir/0.5 cilomedr
- Amser: 30 muned
- Gwybodaeth am y llwybr: Mae’r llwybr cylchol, byr hwn yn dringo’n serth ar hyd cyfres o risiau carreg, anwastad ac yn parhau ar hyd y coetir gan ddisgyn ar hyd llethr i’r maes parcio. Gallwch hefyd ymuno â’r llwybr troed cyhoeddus sy’n parhau i fyny, allan o’r warchodfa.
Mwynhewch y môr o glychau’r gog sydd ar hyd y llwybr un y gwanwyn.

Beth sydd i’w weld ar y Warchodfa Natur Genedlaethol
Mae Coed y Cerrig yn Warchodfa Natur Genedlaethol.
Mae Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol yn lleoedd sydd â rhai o'r enghreifftiau gorau o gynefinoedd bywyd gwyllt a nodweddion daearegol.
Mae’r tirlun a’r bywyd gwyllt yn amrywio yn ôl yr adeg o’r flwyddyn – cadwch olwg am y rhain.

Gwanwyn
- Edrychwch am flodau pinc, siâp pyramid, trawiadol y tegeirian por or, cynnar
- Mwynhewch y môr o glychau’r gog sydd ar hyd y llwybr
- Edrychwch am y deintlys rhyfedd a di-liw
Haf
- Gwrandewch ar drydar telor y coed (tebyg i ddarn arian sy’n troelli)
- Edrychwch am ach du a gwyn y gwybedog brith
- Byddwch yn barod am y tingoch gwrywaidd lliwgar sy’n edrych fel ysbeiliwr yn ei ddu, oren a llwyd
Mathau eraill o fywyd gwyllt i edrych amdanynt
- Cewch gipolwg o’r gweirlöyn brych wrth iddo wibio drwy belydrau’r haul
- Cadwch lygad allan am fawredd y clychlys dail danadl
- Edrychwch am wychder rhyfedd y tegeirian nyth aderyn yn gynnar yn yr haf
Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol yng Nghymru
Mae dros 70 o Warchodfeydd Natur Cenedlaethol yng Nghymru.
Dysgwch fwy am Warchodfeydd Natur Cenedlaethol.
Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
Mae Coed y Cerrig ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Mae'r Parc Cenedlaethol yn cwmpasu tua 520 milltir sgwâr o fynyddoedd a rhostiroedd yn y De a’r Canolbarth.
Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog sy’n gofalu amdano.
I gael rhagor o wybodaeth am ymweld â Bannau Brycheiniog, ewch i wefan Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Ymweld yn ddiogel
Rydyn ni eich eisiau chi i ddychwelyd adref yn ddiogel ar ôl eich ymweliad yma.
Rydych yn gyfrifol am eich diogelwch eich hun yn ogystal â diogelwch unrhyw blant ac anifeiliaid sydd gyda chi yn ystod eich ymweliad.
Sylwer:
- Mae yna lethrau serth a gall fod yn llithrig o dan draed pan fo’r amodau’n wlyb.
- Mwd meddal – peidiwch â chrwydro o’r llwybr pren neu’r llwybr.
- Cymerwch ofal wrth groesi’r ffordd i gyrraedd y llwybr pren.
Am gyngor ac awgrymiadau i'ch helpu i gynllunio'ch ymweliad, ewch i dudalen Ymweld â'n lleoedd yn ddiogel.
Gwybodaeth am hygyrchedd
Mae'r llwybr pren llydan a gwastad yn addas ar gyfer cadeiriau olwyn.
Mae'n cychwyn ychydig dros y ffordd o'r maes parcio ac mae iddo fannau pasio a meinciau pren.
Newidiadau i gyfleusterau ymwelwyr
Gweler brig y dudalen we hon i gael manylion unrhyw gynlluniau i gau cyfleusterau neu unrhyw newidiadau eraill i gyfleusterau ymwelwyr yma.
Er mwyn eich diogelwch, dilynwch gyfarwyddiadau'r staff ac arwyddion bob amser gan gynnwys y rhai ar gyfer dargyfeirio neu gau llwybrau.
Mae'n bosibl y bydd angen i ni ddargyfeirio neu gau llwybrau wrth i ni wneud gwaith cynnal a chadw neu gynnal gweithrediadau eraill ac mae'n bosibl y bydd angen i ni gau cyfleusterau ymwelwyr eraill dros dro.
Mewn tywydd eithafol, mae'n bosibl y byddwn yn cau cyfleusterau ar fyr rybudd oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr a staff.
Trefnu digwyddiad ar ein tir
Efallai y bydd angen caniatâd gennym ni i drefnu digwyddiad neu gynnal rhai gweithgareddau ar ein tir.
Gwiriwch a gewch chi ddefnyddio tir rydyn ni’n ei reoli.
Sut i gyrraedd yma
Rydym yn argymell eich bod yn dilyn y cyfarwyddiadau hyn neu’n defnyddio’r map Google isod lle mae pin yn nodi’r lleoliad.
Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Coed y Cerrig 4 milltir i’r gogledd o’r Fenni.
Dilynwch yr A465 o’r Fenni i gyfeiriad Henffordd.
Ar ôl 4 milltir, trowch i’r chwith i bentref Llanfihangel Crucornau.
Ymhen ½ milltir trowch i’r chwith ar isffordd i Landdewi Nant Hodni.
Ar ôl 1¼ milltir cymerwch y fforch chwith, a dilynwch yr arwyddion brown a gwyn y warchodfa natur.
Mae’r maes parcio ar y dde ymhen 1¼ milltir.
Y cyfeirnod grid Arolwg Ordnans ar gyfer y maes parcio yw SO 293 211 (Explorer Map OL 13).
Y cod post yw NP7 7NA. Sylwer bod y cod post hwn yn cwmpasu ardal eang ac ni fydd yn mynd â chi yn uniongyrchol i’r fynedfa.
Edrychwch ar y lle hwn ar wefan What3Words.
Cludiant cyhoeddus
Y prif orsaf reilffordd agosaf yw'r Fenni.
Er mwyn cael manylion ynghylch cludiant cyhoeddus, ewch i wefan Traveline Cymru.
Parcio
Mae'r maes parcio yn fach ac mae lle i hyd at dri char.
Mae’r maes parcio yn rhad ac am ddim.
Ni chaniateir parcio dros nos.
Manylion cyswllt
Nid oes staff yn y lleoliad hwn.
Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.