Gwarchodfa Natur Genedlaethol Ogof Ffynnon Ddu, ger Ystradgynlais

Beth sydd yma

Croeso

Mae Gwarchodfa Natur Ogof Ffynnon Ddu yn ardal fawr o rostir yng nghanol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog sydd â golygfeydd gwych o’r ardal.

Heddiw mae’n anodd dychmygu Penwyllt fel pentref prysur, ond roedd yno orsaf drenau, swyddfa bost, a thafarn ar un cyfnod.

Gweithwyr y gwaith brics, a’r chwarel a’r odynau calch oedd yn byw yn y pentref.

Dilynwch ein harwyddion wrth gerdded ar hyd y llwybr i ddarganfod rhai o’r olion diwydiannol, neu mwynhewch y golygfeydd ar un o’r llwybrau sy’n mynd o’r maes parcio.

Mae priddoedd y warchodfa yn amrywio o ganlyniad i newidiadau yn y graig islaw, ac mae amrywiaeth o blanhigion gwahanol yn tyfu yno.

Mae’r system ogofâu ymhlith y systemau mwyaf yn Ewrop ac yn boblogaidd iawn gydag ogofwyr profiadol. 

Llwybr cerdded

Mae arwyddbyst ar y llwybr cerdded o’r dechrau i’r diwedd.

Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr.

Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.

Llwybr Tram a Thrên

  • Gradd: cymedrol
  • Pellter:1½ milltir, 2.3km neu 2½ milltir, 3.6km gyda'r rheilffordd
  • Dringo: 200 troedfedd/60 metr
  • Amser: 1 awr
  • Gwybodaeth am y llwybr: Mae’r llwybrau glaswelltog yn anwastad mewn mannau. Ceir llawer o glwydi a chamfeydd.

Dilynwch y daith gerdded fer hon o gwmpas y warchodfa a darfanfod gweddillion tramordd, rheilffordd, odynau calch a gwaith brics.

Llwybrau eraill

Penwyllt – Craig-y-nos

Dilynwch y llwybr cylchol o Warchodfa Natur Genedlaethol Ogof Ffynnon Ddu i Barc Gwledig Craig-y-nos.

Byddwch yn cerdded ar hyd llwybrau ceffylau a hen dramffyrdd – mae’n werth dod â map i wybod y ffordd.

Ewch i wefan Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog am ragor o wybodaeth.

Ffordd y Bannau

Mae Ffordd y Bannau’n croesi’r warchodfa.

Mae’r llwybr eiconig hwn yn 95 milltir (152km) o hyd, ac yn ymestyn o un pen y Parc Cenedlaethol i’r llall.

Ewch i wefan Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog am ragor o wybodaeth.

Beth sydd i’w weld ar y Warchodfa Natur Genedlaethol

Mae Ogof Ffynnon Ddu yn Warchodfa Natur Genedlaethol.

Mae Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol yn lleoedd sydd â rhai o'r enghreifftiau gorau o gynefinoedd bywyd gwyllt a nodweddion daearegol.

Mae’r tirlun a’r bywyd gwyllt yn amrywio yn ôl yr adeg o’r flwyddyn – cadwch olwg am y rhain.

Amrywiaeth eang o blanhigion

Mae grug, llus, mwsoglau, a chen yn gorchuddio ardaloedd eang o’r creigiau asidig sydd yn y warchodfa. Bydd y grug ar ei orau wrth i’r haf droi’n hydref.

Yn y glaswelltir ceir ambell i rywogaeth lai cyffredin hefyd, megis edafeddog y mynydd, crwynllys yr hydref, a thormaen llydandroed.

Mae ambell i rywogaeth arbennig yn tyfu yn holltau’r palmant calchfaen, yn ogystal â rhai sy’n fwy cyffredin. Yn eu plith ceir:

  • Clafrllys bach
  • Lili’r dyffrynnoedd
  • Blodau’r gwynt
  • Tafod yr hydd
  • Duegredynen goesddu
  • Y goesgoch

Yr adeg gorau i weld y rhan fwyaf o’r planhigion calchfaen yma yw dechrau’r Haf.

Bywyd gwyllt uwchlaw ac islaw’r ddaear

Mae’r rhostir yn gynefin gwych ar gyfer adar sy’n nythu - cadwch lygad barcud am yr ehedydd a thinwen y garn yn yr haf.

Mae’r creaduriaid difyrraf yn byw yn yr ogofâu ac mae rhai, megis y cramenogion sydd yn y dŵr, yn unigryw i ogofâu.

Mae eraill, gan gynnwys gwyfynod fel yr ‘Herald moth ’ a’r brychan rhafnwydd, yn treulio’r gaeaf yn yr ogofâu a’r hafau yn yr awyr iach.

Mae ystlumod yn gaeafgysgu yn yr ogofâu, ac mae brithyll gwynion yn y byw yn y nant danddaearol.

Hanes diwydiannol

Dilynodd hanes Penwyllt lanw a thrai’r chwyldro diwydiannol yn Ne Cymru, ac wedi blynyddoedd hir o ddirywio cafodd y pentref ei adael yn wag.

Yn awr, yr unig bethau sydd ar ôl yw rhes o dai teras ger y maes parcio, adfeilion y gwaith brics a’r chwarel, ac ambell lwybr tram.

Y gweithwyr a’u teuluoedd fyddai wedi byw yn y tai. Erbyn hyn maent yn gartref i Glwb Ogofâu De Cymru, gan gynnig llety i aelodau ac i ymwelwyr.

Am ragor o wybodaeth ynglŷn â Phenwyllt, ewch i wefan Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Yr ogofâu

Cafodd yr ogofâu eu darganfod gan Glwb Ogofâu De Cymru yn 1946.

Mae ganddynt nifer o nodweddion diddorol gan gynnwys nentydd tanddaearol, stalagmidau, a stalactidau.

Dim ond ogofwyr gyda’r offer priodol a thrwydded gan Glwb Ogofâu De Cymru all fentro’r ogofâu - bydd mynedfa’r ogofâu dan glo ar adegau eraill.

Cewch ragor o fanylion ar wefan Clwb Ogofâu De Cymru, mae yno luniau a ffilmiau o’r ogofâu.

Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol yng Nghymru

Mae dros 70 o Warchodfeydd Natur Cenedlaethol yng Nghymru.

Dysgwch fwy am Warchodfeydd Natur Cenedlaethol.

Canolfan Genedlaethol Dan-yr-Ogof

Mae Canolfan Dan-yr-Ogof yn yr un dyffryn. Mae’r fynedfa oddi ar yr A4067.

Atyniad ymwelwyr preifat yw hwn a bydd angen talu ffi mynediad.

Mae rhan o Dan-yr-ogof yn Warchodfa Natur Genedlaethol.

Rhagor o wybodaeth am Ganolfan Dan-yr-ogof

Parc Gwledig Craig-y-nos

Mae cyfleusterau ymwelwyr, gan gynnwys toiledau a chaffi, i’w cael ym mharc gwledig cyfagos Craig-y-nos.

Mae’r ardd Fictorianaidd yma’n cael ei chadw gan y Parc Cenedlaethol, ac yn cynnwys 40 erw o goedwigoedd, llynnoedd, lawntiau, ac afonydd.

Mae mynedfa’r maes parcio ar yr A4067, ac ar agor bob dydd (Oni bai am Ddydd Nadolig).

Rhagor o wybodaeth am Barc Gwledig Craig-y-nos.

Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Ogof Ffynnon Ddu ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Mae’r Parc Cenedlaethol yn ymestyn dros ardal o tua 520 milltir sgwâr o fynyddoedd a rhostir yn Ne a Chanolbarth Cymru.

Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog sy’n gofalu amdano.

Er mwyn cael rhagor o wybodaeth am Fannau Brycheiniog ewch i wefan Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Ymweld yn ddiogel

Rydyn ni eich eisiau chi i ddychwelyd adref yn ddiogel ar ôl eich ymweliad yma.

Rydych yn gyfrifol am eich diogelwch eich hun yn ogystal â diogelwch unrhyw blant ac anifeiliaid sydd gyda chi yn ystod eich ymweliad.

Sylwer:

  • Clogwyni a hen chwarel beryglus gyda llethrau sgri a chlogfeini- peidiwch â’u dringo.
  • Llethrau llithrig, llyncdyllau (tyllau dwfn i mewn i’r tir a’r ogofau islaw) yn ogystal â thir garw iawn – gwisgwch esgidiau gyda gafael da, cadwch at y llwybrau a chymerwch ofal.
  • Mae’r tywydd ar y mynydd yn gallu newid yn sydyn – ewch â dillad ac offer addas gyda chi bob amser.
  • Dim ond ogofwyr gyda’r offer priodol a thrwydded gan Glwb Ogofâu De Cymru all fentro’r ogofâu - bydd mynedfa’r ogofâu dan glo ar adegau eraill.

Am gyngor ac awgrymiadau i'ch helpu i gynllunio'ch ymweliad, ewch i dudalen Ymweld â'n lleoedd yn ddiogel.

Newidiadau i gyfleusterau ymwelwyr

Gweler brig y dudalen we hon i gael manylion unrhyw gynlluniau i gau cyfleusterau neu unrhyw newidiadau eraill i gyfleusterau ymwelwyr yma.

Er mwyn eich diogelwch, dilynwch gyfarwyddiadau'r staff ac arwyddion bob amser gan gynnwys y rhai ar gyfer dargyfeirio neu gau llwybrau.

Mae'n bosibl y bydd angen i ni ddargyfeirio neu gau llwybrau wrth i ni wneud gwaith cynnal a chadw neu gynnal gweithrediadau eraill ac mae'n bosibl y bydd angen i ni gau cyfleusterau ymwelwyr eraill dros dro.

Mewn tywydd eithafol, mae'n bosibl y byddwn yn cau cyfleusterau ar fyr rybudd oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr a staff.

Sut i gyrraedd yma

Lleoliad

Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Ogof Ffynnon Ddu chwe milltir i’r gogledd o Ystradgynlais.

Mae’r safle hwn yn Sir Powys.

Map Arolwg Ordnans

Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Ogof Ffynnon Ddu ar fap Arolwg Ordnans (OS) OL 12.

SN 856 155 yw’r cyfeirnod grid OS.

Cyfeiriadau

Dilynwch yr A4067 o Ystradgynlais tua Abercraf a Phen-y-cae.

Ewch trwy Pen-y-cae gan droi i’r dde tuag at Penwyllt.

Dilynwch yr arwyddion ymwelwyr brown a gwyn dros yr afon, ac i’r chwith ar y gyffordd.

Ewch heibio’r hen chwarel, a dilyn y ffordd tua’r maes parcio.

Trafnidiaeth gyhoeddus

Er mwyn cael manylion cludiant cyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.

Maes parcio

Mae parcio’n ddi-dâl.

Ni chaniateir parcio dros nos.

Manylion cyswllt

Nid oes staff yn y lleoliad hwn.

Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Mannau eraill yng De Ddwyrain Cymru

Diweddarwyd ddiwethaf