Ymchwil i goedwigaeth

NRW scientist analysing plants

Mae bygythiadau gan blâu, clefydon a phatrymau tywydd newidiol yn galw am ddirnadaeth newydd ac arloesol gan wneuthurwyr polisi ac ymarferwyr. Bydd hyn yn sicrhau bod coedwigoedd y dyfodol yn parhau'n hyfyw ac yn parhau i ddarparu buddion economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol i gymdeithas. Mae hyn yn cynnwys diwydiant coed a phrosesu coed cystadleuol byd-eang, cynnal ecosystemau bioamrywiol o lefel uchel a darparu lleoedd i bobl chwarae a gweithio ynddyn nhw.

Sut rydyn ni'n cael ein tystiolaeth

Rydyn ni yn Cyfoeth Naturiol Cymru, sy'n sefydliad seiliedig ar dystiolaeth, yn ceisio sicrhau bod ein penderfyniadau, ein gweithrediadau a'n cyngor i'r Llywodraeth ac eraill yn cael eu tanategu gan dystiolaeth gadarn, o safon.

Rydyn ni'n defnyddio tystiolaeth o amrywiaeth o ffynonellau:

  • Rydyn ni'n gwneud ein gwaith ymchwil ein hunain
  • Rydyn ni'n comisiynu gwaith gan eraill, yn cynnwys prifysgolion, ar gyfer gofynion sefydliadol a chynghorol penodol
  • Rydyn ni'n dylanwadu ar y gwaith ymchwil sy'n cael ei wneud gan sefydliadau eraill

Agenda ymchwil drawsffiniol

Rydyn ni, ar y cyd â Llywodraeth Cymru, yn gweithio'n agos gyda'r Comisiwn Coedwigaeth, ei asiantaeth ymchwil Forest Research ac Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig i sicrhau bod gofynion tystiolaeth Cymru yn cael eu cynnwys yng nghylch gwaith cyffredinol Prydain Fawr.

Buddion ymchwil drawsffiniol

Mae'r Comisiwn Coedwigaeth yn parhau i ddarparu gwasanaethau ymchwil a gwasanaethau eraill i Gymru o dan drefniant trawsffiniol. Forest Research yw prif sefydliad Prydain Fawr ar gyfer ymchwil i goedwigaeth a meysydd yn ymwneud â choed. Mae hefyd yn enwog yn rhyngwladol am ddarparu tystiolaeth a gwasanaethau gwyddonol i gefnogi coedwigaeth gynaliadwy. Mae nifer o staff Forest Research yn gweithio yng Nghymru.

Mae cydweithio â chwmnïau gweinyddu eraill ym Mhrydain Fawr yn galluogi i agenda ymchwil gydlynol a chost-effeithiol i goed a choedwigaeth gael ei datblygu.

Ymchwil i goedwigaeth ym Mhrydain

Mae ymchwil i goedwigaeth yn darparu'r dystiolaeth wyddonol gadarn sydd ei hangen ar gyfer rheoli coedwigoedd yn gynaliadwy, ac mae'n cael ei darparu trwy Safon Coedwigaeth y DU a'i chanllawiau ategol.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Diweddarwyd ddiwethaf