Mae ansawdd dŵr ymdrochi yng Nghymru wedi gwella cryn dipyn dros y ddau ddegawd diwethaf. Ein gwaith ni yw gweithio gyda’r llywodraeth, rheolwyr dŵr ymdrochi, awdurdodau lleol a busnesau i gynnal a gwella ansawdd dŵr ymdrochi yng Nghymru.

Sut rydym ni’n monitro ansawdd dŵr ymdrochi

Ceir 109 o ddyffroedd ymdrochi dynodedig yng Nghymru. Yn 2024 bydd pob un ohonynt yn cael eu profi 10 gwaith o leiaf; yn union cyn a thrwy gydol y tymor, o 15 Mai hyd at 30 Medi. Defnyddir y canlyniadau i asesu cydymffurfiad â safonau’r gyfarwyddeb. Gan mai 2015 oedd y flwyddyn gyntaf i’r safonau llymach gael eu gosod yn y gyfarwyddeb ddiwygiedig yng Nghymru, rhaid i’n dyfroedd ymdrochi dynodedig bellach fodloni targedau ansawdd dŵr anoddach fyth. 

Beth yw ansawdd y dŵr ymdrochi yn eich ardal chi?

Mae pob dŵr ymdrochi’n unigryw. Er mwyn eich helpu i wneud dewis gwybodus ynglŷn â ble i nofio, rydym ni wedi cynhyrchu proffil dyfroedd ymdrochi (external link) manwl ar gyfer holl ddyfroedd ymdrochi Cymru.

  • Mae proffil y dyfroedd ymdrochi yn cynnwys:
  • disgrifiad o’r traeth a’r cyffiniau
  • yr afonydd a’r nentydd sy’n llifo i’r dyfroedd
  • manylion ynglŷn â sut rydym ni’n rheoli llygredd ar y safle

Mae’n hwyl mwynhau yn y dŵr ar y traeth ond fe all fod peryglon i iechyd. Mae’n bosib y bydd mwy o beryglon i iechyd mewn dyfroedd sy’n methu bodloni’r safonau Ewropeaidd.

Gellir gweld yr archwiliwr dŵr ymdrochi newydd ar gyfer Cymru 

Gwybodaeth dŵr ymdrochi ar gyfer eich gwefan

Mae’r Bathing Water Widget Designer yn caniatáu addasu ffrwd fyw o ddata ansawdd dŵr ar gyfer safle dŵr ymdrochi penodol, neu’r holl safleoedd mewn ardal benodol, ac arddangos y ffrwd honno ar eu gwefan.

I gael y ‘widget designer

Beth yw’r pum prif beth sy’n llygru dŵr ymdrochi?

  1. Llygredd o garthffosiaeth – gall bacteria o garthffosiaeth fynd i mewn i’r dŵr wrth i systemau fethu neu orlifo neu fe all bacteria ddod yn syth o waith carthffosiaeth
  2. Dŵr yn draenio o ffermydd a thir fferm – gall tail da byw neu slyri sydd wedi’u storio’n wael lifo i afonydd a nentydd gan olygu bod carthion yn cyrraedd y môr
  3. Anifeiliaid ac adar ar y traeth neu gerllaw’r traeth – gall baw cŵn, adar neu anifeiliaid eraill effeithio ar ddyfroedd ymdrochi gan eu bod nhw’n aml yn cynnwys lefelau uchel iawn o facteria (llawer mwy na charthion dynol wedi’u trin)
  4. Dŵr yn draenio o ardaloedd poblog – gall dŵr yn draenio o ardaloedd trefol yn dilyn glaw trwm gynnwys llygredd o bob math o ffynonellau, gan gynnwys baw anifeiliaid ac adar
  5. Carthion domestig – gall draeniau sydd heb eu cysylltu’n iawn a thanciau carthion sydd heb eu cynnal a’u cadw’n dda lygru systemau dŵr wyneb 

Beth yw’r pum prif beth y gallwch chi eu gwneud i wella dŵr ymdrochi?

  1. Gwnewch yn siŵr fod eich cartref neu eiddo busnes wedi’i gysylltu â’r system ddraenio gywir. Gallai unrhyw waith plymio sydd wedi’i gysylltu’n anghywir olygu bod dŵr budr o doiledau, peiriannau golchi llestri a chawodydd yn mynd yn uniongyrhol i mewn i’ch afon leol neu i’r môr
  2. Os ydych chi’n berchen ar gi, cofiwch gadw at y parthau gwahardd cŵn ar draethau a chodwch faw eich ci
  3. Os yw eich eiddo wedi’i gysylltu â thanc carthion, gwnewch yn siŵr ei fod wedi’i gofrestru, yn gweithio’n iawn a’i fod yn cael ei gynnal a’i gadw’n dda
  4. Peidiwch â gollwng sbwriel ar lawr, yn enwedig gwastraff bwyd, gan ei fod yn annog adar
  5. Ymunwch â sesiynau glanhau traethau lleol. Mae llawer o sefydliadau lleol a chenedlaethol yn trefnu sesiynau glanhau traethau’n rheolaidd

Ystadegau swyddogol

Daeth y dosbarthiadau Dyfroedd Ymdrochi yn Ystadegyn Swyddogol ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru yn 2016.

Mae pob adroddiad yn cynrychioli canlyniadau’r gwaith o fonitro'r dŵr ymdrochi. Mae'n trafod sefyllfaoedd mewn dyfroedd ymdrochi unigol a gafodd effaith ar ansawdd y dŵr a'r camau gwella y gellir eu cymryd.

Mae’r adroddiadau tystiolaeth a restrir isod ar gael yn Saesneg yn unig.

Adroddiad ansawdd dŵr ymdrochi Cymru 2023

Adroddiad ansawdd dŵr ymdrochi Cymru 2022

Adroddiad ansawdd dŵr ymdrochi Cymru 2021

Adroddiad ansawdd dŵr ymdrochi Cymru 2020

Adroddiad ansawdd dŵr ymdrochi Cymru 2019

Adroddiad ansawdd dŵr ymdrochi Cymru 2018

Adroddiad ansawdd dŵr ymdrochi Cymru 2017

Adroddiad ansawdd dŵr ymdrochi Cymru 2016

Adroddiad ansawdd dŵr ymdrochi Cymru 2015

Adroddiad ansawdd dŵr ymdrochi Cymru 2014

Adroddiad ansawdd dŵr ymdrochi Cymru 2013

Diweddarwyd ddiwethaf