Deddf Adnoddau Dŵr 1991 (fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Dŵr 2003)

Hysbysir trwy hyn, yn unol ag Adran 37 Deddf Adnoddau Dŵr 1991 a Rheoliad 6 Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Tynnu a Chronni Dŵr) 2006 fod tri chais wedi cael eu gwneud i Cyfoeth Naturiol Cymru gan Morgan Sindall Construction & Infrastructure Ltd am drwyddedau llawn i dynnu dŵr o strata tanddaearol yng Nghaergybi, Ynys Môn rhwng Cyfeirnodau Grid Cenedlaethol :

Cyfeirnod cais PAN-029212: SH 26831 80714, SH 26781 80683, SH 26866 80629, SH 26937 80626, SH 27093 80551, SH 27245 80485,  SH 27383 80430, SH 27568 80363, SH 27205 80585, ac SH 27342 80527.

Cyfeirnod cais PAN-029213: SH 27876 80166 ac SH 28186 79992.

Cyfeirnod cais PAN-029214: SH 28481 79844, SH 28728 79880, SH 28907 79912, SH 29130 79930, SH 29364 79840, SH 28701 79706 ac SH 28825 79833.

Y cynigion yw tynnu dŵr yn ôl y cyfraddau a’r cyfnodau canlynol i’w defnyddio at ddibenion disbyddu: 9.83 metr ciwbig yr awr, 236 metr ciwbig y dydd a 86,140 metr ciwbig y flwyddyn, drwy’r flwyddyn.

Gallwch weld dogfennau’r ceisiadau yn rhad ac am ddim, ar ein cofrestr gyhoeddus ar-lein. Neu gallwch ofyn am gopi o'r wybodaeth gennym ni. Gall hyn gymryd amser i'w brosesu a gellid codi tâl am hynny.

Os dymunwch ofyn am gopi neu wneud sylwadau ynglŷn â’r ceisiadau, rhaid ichi wneud hynny yn ysgrifenedig, gan ddyfynnu enw’r ymgeisydd a’r Cyfeirnodau PAN-029212, PAN-029213 a PAN-029214 wrth

Cyfoeth Naturiol Cymru,
Gwasanaeth Trwyddedu,
Swyddfeydd Llywodraeth Cymru,
Parc Cathays,
Rhodfa’r Brenin Edward VII,
Caerdydd,
CF10 3NQ

neu drwy ebost i permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk erbyn 06/10/2025 fan bellaf.

Er mwyn cael rhagor o wybodaeth, gweler adran ymgynghoriadau ein gwefan http://naturalresources.wales/?lang=cy neu ffoniwch ein Canolfan Gofal Cwsmeriaid 0300 0653000 (Dydd Llun-Gwener, 9-5).

Diweddarwyd ddiwethaf