Deddf Adnoddau Dŵr 1991 (fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Dŵr 2003)

Hysbysir trwy hyn, yn unol ag Adran 37 Deddf Adnoddau Dŵr 1991 a Rheoliad 6 Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Tynnu a Chronni Dŵr) 2006 i gais gael ei wneud i Cyfoeth Naturiol Cymru gan Hochtief (UK) Construction Limited i amrywio trwydded lawn i dynnu dŵr, rhif cyfres WA/065/0003/0003, sy’n awdurdodi tynnu dŵr o strata tanddaearol o fewn yr ardal a ffurfir gan linellau syth sy’n rhedeg rhwng Cyfeirnodau Grid Cenedlaethol SH 62475 37966, SH 62508 37965, SH 62507 37935 ac SH 62475 37936. Gofynnwyd am yr amrywiad i gynyddu’r cyfeintiau blynyddol a drwyddedir o 29,160 metr ciwbig i 43,800 metr ciwbig y flwyddyn ac i ddiweddaru’r Cyfeirnodau Grid Cenedlaethol canlynol:

  • Twll turio A: o SH 62503 37980 i SH 62502 37976.
  • Twll turio B: o SH 62554 37950 i SH 62541 37947.
  • Twll turio C: o SH 62572 37877 i SH 62526 37904.
  • Twll turio E: o SH 62427 37907 i SH 62440 37913.
  • Gollyngfa Q: o SH 61888 37859 i SH 61888 37858.

Gallwch weld y dogfennau cais yn rhad ac am ddim, o’n cofrestr gyhoeddus ar-lein yn https://cofrestrgyhoeddus.cyfoethnaturiol.cymru/. Neu gallwch ofyn am gopi o’r wybodaeth gennym ni. Gall hyn gymryd amser i’w brosesu ac efallai y codir tâl.

Os ydych am ofyn am gopi o’r cais neu’n dymuno gwneud sylwadau arno, rhaid ichi wneud hynny yn ysgrifenedig, gan ddyfynnu enw’r ymgeisydd a’r Cyfeirnod PAN-029750, i

Cyfoeth Naturiol Cymru,
Gwasanaeth Trwyddedu,
Swyddfeydd Llywodraeth Cymru,
Parc Cathays,
Rhodfa’r Brenin Edward VII,
Caerdydd,
CF10 3NQ

neu drwy ebost i permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk erbyn 08/10/2025 fan bellaf.

Er mwyn cael rhagor o wybodaeth, gweler adran ymgynghoriadau ein gwefan http://cyfoethnaturiol.cymru neu ffoniwch ein Canolfan Gofal Cwsmeriaid 0300 0653000 (Dydd Llun-Gwener, 9-5).

Diweddarwyd ddiwethaf