Deddf Adnoddau Dŵr 1991 (fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Dŵr 2003)

Hysbysir trwy hyn, yn unol ag Adran 37 Deddf Adnoddau Dŵr 1991 a Rheoliad 6 Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Tynnu a Chronni Dŵr) 2006 i gais gael ei wneud i Cyfoeth Naturiol Cymru gan Saipem Limited am drwydded lawn i dynnu dŵr o strata tanddaearol o fewn y ffin sy’n cael ei ffurfio gan y llinellau syth sy’n rhedeg rhwng Cyfeirnodau Grid Cenedlaethol SJ 12157 84084, SJ 12426 84085, SJ 12509 83852 ac SJ 12149 83859 yn Nherfynnell Nwy y Parlwr Du, Ffordd yr Orsaf, Talacre, Treffynnon. Y cynnig yw tynnu dŵr yn ôl y cyfraddau a’r cyfnodau canlynol i’w defnyddio at ddibenion disbyddu: 63 metr ciwbig yr awr, 1,520 metr ciwbig y dydd a 555,033 metr ciwbig y flwyddyn drwy’r flwyddyn.

Gallwch weld y dogfennau cais yn rhad ac am ddim, o'n cofrestr gyhoeddus ar-lein. Neu gallwch ofyn am gopi o'r wybodaeth gennym ni. Gall hyn gymryd amser i'w brosesu a gellid codi tâl am hynny.

Os ydych am ofyn am gopi neu dymunwch wneud sylwadau ynghylch y cais, rhaid ichi wneud hynny yn ysgrifenedig, gan ddyfynnu enw’r ymgeisydd a’r Cyfeirnod  PAN-030979 wrth:

Cyfoeth Naturiol Cymru
Gwasanaeth Trwyddedu
Swyddfeydd Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Rhodfa’r Brenin Edward VII
Caerdydd
CF10 3NQ

neu drwy e-bost i: permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk erbyn 23/02/2026 fan bellaf.

Er mwyn cael rhagor o wybodaeth, gweler adran ymgynghoriadau ein gwefan http://naturalresources.wales/?lang=cy neu ffoniwch ein Canolfan Gofal Cwsmeriaid 0300 0653000 (Dydd Llun-Gwener, 9-5).

Diweddarwyd ddiwethaf