Deddf Adnoddau Dŵr 1991 (fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Dŵr 2003) 

Hysbysir trwy hyn, yn unol ag Adran 37 Deddf Adnoddau Dŵr 1991 a Rheoliad 6 Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Tynnu a Chronni Dŵr) 2006 bod cais wedi ei wneud i Cyfoeth Naturiol Cymru gan Dŵr Cymru Cyfyngedig i adnewyddu trwydded lawn i dynnu dŵr, rhif cyfres 20/56/33/0014, sy’n awdurdodi tynnu dŵr o gorff dŵr yng Nghyfeirnod Grid Cenedlaethol SO 17 12. Y gwahanol delerau adnewyddu y gwneir cais amdanynt yw dosrannu’r swm trwyddedig blynyddol rhwng y ddau ddiben presennol fel a ganlyn, heb gynyddu na lleihau’r cyfanswm blynyddol a drwyddedir ar hyn o bryd – uchafswm o 1,440,000 metr ciwbig i’w dynnu at ddibenion cyflenwi dŵr cyhoeddus ac uchafswm o 4,901,670 metr ciwbig i’w dynnu at ddibenion trosglwyddo at ddiben dilynol cyflenwad dŵr cyhoeddus.

Gallwch weld y dogfennau cais yn rhad ac am ddim, o'n cofrestr gyhoeddus ar-lein. Neu gallwch ofyn am gopi o'r wybodaeth gennym ni. Gall hyn gymryd amser i'w brosesu a gellid codi tâl am hynny.

Os ydych am ofyn am gopi neu dymunwch wneud sylwadau ynghylch y cais, rhaid ichi wneud hynny yn ysgrifenedig, gan ddyfynnu enw’r ymgeisydd a’r Cyfeirnod PAN-030089 wrth:

Cyfoeth Naturiol Cymru,
Gwasanaeth Trwyddedu, 
Swyddfeydd Llywodraeth Cymru ,
Parc Cathays,
Rhodfa’r Brenin Edward VII,
Caerdydd,
CF10 3NQ

neu drwy ebost i: permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk erbyn 20/10/2025 fan bellaf.

Er mwyn cael rhagor o wybodaeth, gweler adran ymgynghoriadau ein gwefan http://naturalresources.wales/?lang=cy neu ffoniwch ein Canolfan Gofal Cwsmeriaid 0300 0653000 (Dydd Llun-Gwener, 9-5).

Diweddarwyd ddiwethaf