Asiant Cefnffyrdd De Cymru - Ynysforgan Depot, Cyffordd yr M4, oddi ar y gylchnfan gyda’s A4067 a’r B4603, Abertawe, SA6 6NB
Rydym wedi derbyn cais am drwydded gan Asiant Cefnffyrdd De Cymru
Cais am drwydded amgylcheddol arbennig newydd dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016.
Rhif y cais: PAN-030929
Math o gyfleuster rheoledig: Ataliwr olew
Lleoliad y cyfleuster rheoledig: Ynysforgan Depot, Cyffordd yr M4, oddi ar y gylchnfan gyda’s A4067 a’r B4603, Abertawe, SA6 6NB
Cyfeirnod Grid Cenedlaethol yr ollyngfa: SS 67870 99265
Yr ardal ddyfrol sy’n derbyn: Ffos yn draenio i Afon Tawe
Math o elifiant: Elifiant masnachol
Cyfaint: 1 metr ciwbig y dydd
Gallwch weld y dogfennau cais yn rhad ac am ddim, o'n cofrestr gyhoeddus ar-lein. Gallwch chwilio am y dogfennau gan ddefnyddio'r manylion cais uchod. Neu gallwch ofyn am gopi o'r wybodaeth gennym ni. Gall hyn gymryd amser i'w brosesu a gellid codi tâl am hynny.
Os oes gennych unrhyw sylwadau anfonwch y rhain erbyn 4 Mawrth 2026.
E-bost: permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Neu ysgrifennwch at:
Gwasanaeth Trwyddedu
Cyfoeth Naturiol Cymru
Swyddfeydd Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Cardiff
CF10 3NQ
Rhaid i ni benderfynu a ddylid caniatáu neu wrthod y cais. Os ydym yn ei ganiatáu, mae’n rhaid i ni benderfynu pa amodau i’w cynnwys yn y drwydded. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth ynglŷn â sut yr ydym yn gwneud penderfyniadau yn ein Datganiad Cyfranogiad Cyhoeddus.