The First Milk Cheese Company Limited - Hufenfa Hwlffordd, Heol Penfro, Pontfadlen, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1JN
Rydym wedi derbyn cais am drwydded gan The First Milk Cheese Company Limited
Amrywiad sylweddol i drwydded amgylcheddol o dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016.
Rhif y cais: PAN-027140
Math o gyfleuster rheoledig: Prif weithgaredd y weithfa hon yw Adran 6.8 Rhan A (1) (e) trin a phrosesu llaeth, gan fod maint y llaeth a dderbynnir yn fwy na 200 tunnell y dydd (gwerth cyfartalog yn flynyddol).
Mae'r drwydded hefyd yn caniatáu i'r gweithgareddau perthnasol canlynol ddigwydd:
- Adran 5.4 Rhan A(1)(a)(i) – gwaredu gwastraff amheryglus gyda chapasiti o fwy na 50 tunnell y dydd ac sy’n ymwneud ag un neu fwy o’r gweithgareddau canlynol (i) triniaeth fiolegol
- Atodlen 25A gweithfeydd hylosgi canolig.
Lleoliad y cyfleuster rheoledig: Hufenfa Hwlffordd, Heol Penfro, Pontfadlen, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1JN.
Mae'r amrywiad hwn ar gyfer:
- Cynyddu uchafswm capasiti cynhyrchu'r hufenfa 227 tunnell y dydd — gan godi'r cynhyrchiad a ganiateir o 1260 tunnell y dydd i 1487 tunnell y dydd. Bydd hyn yn cynnwys gosod offer newydd, yn ogystal ag ehangu rhai offer presennol.
- Cynnwys proses ddyddodiad gemegol newydd yn y Gwaith Trin Elifiant. Nod hyn yw lleihau lefelau ffosfforws yn y dŵr gwastraff cyn iddo gael ei ryddhau.
- Oherwydd newidiadau mewn deddfwriaeth, newid tri boeler thermol 8 megawat (MWth) presennol y safle i Waith Hylosgi Canolig (MCP) gyda therfynau allyriadau cysylltiedig. (Mae un injan Gwres a Pŵer Cyfunedig 2.7MWth ar y safle eisoes wedi'i ddal fel MCP.)
Mae’r cais yn cynnwys disgrifiad o sut y gallai’r newidiadau arfaethedig effeithio ar y weithfa; y deunyddiau, y sylweddau a’r egni y bydd yn ei ddefnyddio a’i gynhyrchu; amodau ei safle; ffynhonnell, natur ac ansawdd ei allyriadau rhagweladwy a’u heffeithiau posibl, y technegau arfaethedig ar gyfer rhwystro, lleihau a monitro ei allyriadau a rhwystro ac adfer gwastraff; ac amlinelliad o’r prif ddulliau amgen o weithredu a ystyriwyd, os oes rhai o gwbl.
Gallwch weld y dogfennau cais yn rhad ac am ddim, o'n cofrestr gyhoeddus ar-lein. Neu gallwch ofyn am gopi o'r wybodaeth gennym ni. Gall hyn gymryd amser i'w brosesu a gellid codi tâl am hynny.
Os oes gennych unrhyw sylwadau, anfonwch y rhain erbyn 6 Mawrth 2026.
E-bost: permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Neu ysgrifennwch at:
Gwasanaeth Trwyddedu
Cyfoeth Naturiol Cymru
Adeilad y Goron
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Rhaid i ni benderfynu a ddylid caniatáu neu wrthod y cais. Os ydym yn ei ganiatáu, mae’n rhaid i ni benderfynu pa amodau i’w cynnwys yn y drwydded. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth ynglŷn â sut yr ydym yn gwneud penderfyniadau yn ein Datganiad Cyfranogiad Cyhoeddus.