Hysbysiad penderfyniad drafft: South Side Queensway (SSQ) Materials Recycling Facility
Rhif y cais: PAN-027639
Math o gyfleuster rheoledig: Cyfleuster triniaeth ffisegol nad yw'n beryglus ar gyfer trin gwastraff nad yw'n beryglus sy’n deillio o wneud haearn a dur, ynghyd â gwastraff adeiladu a dymchwel - Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016, Atodlen 1: Gosod, Rhan 1, Adran 5.4 A(1)(b)(iii) Gweithgaredd gosod ar gyfer adfer neu gymysgedd o adfer a gwaredu gwastraff nad yw'n beryglus gyda chapasiti sy'n fwy na 75 tunnell y dydd ac sy'n cynnwys trin slagiau a lludw; a chyfleuster gwastraff ar gyfer triniaeth ffisegol gwastraff nad yw'n beryglus.
Lleoliad y cyfleuster rheoledig: South Side Queensway (SSQ) Materials Recycling Facility, Queensway, Newport, NP19 4QX
Rydym yn bwriadu rhoi’r drwydded. Byddwn yn rhoi trwydded yn unig os credwn na fydd llygredd sylweddol yn cael ei achosi ac os oes gan y gweithredwr y gallu i fodloni amodau’r drwydded. Bydd unrhyw drwydded y byddwn yn ei rhoi yn cynnwys amodau priodol i ddiogelu iechyd dynol a’r amgylchedd.
Gwybodaeth a osodwyd ar y gofrestr gyhoeddus ar gyfer ymgynghori:
- Trwydded ddrafft
- Dogfen penderfyniad drafft
Gallwch weld y drwydded ddrafft a’r ddogfen penderfyniad drafft yn rhad ac am ddim, ar ein cofrestr gyhoeddus ar-lein. Neu gallwch wneud cais am gopi o’r wybodaeth gennym ni. Gallai hyn gymryd amser i’w brosesu a gall y byddwn yn codi ffi arnoch.
Os oes gennych unrhyw sylwadau anfonwch y rhain erbyn 18 Tachwedd 2025.
E-bost: permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Neu ysgrifennwch at:
Arweinydd Tîm Rheoleiddio Sylweddau Ymbelydrol a Gweithfeydd
Gwasanaeth Trwyddedu
Cyfoeth Naturiol Cymru
Adeiladau’r Goron
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ