Gwneud cais i newid trwydded gwastraff bwrpasol

BETA: Mae hwn yn wasanaeth newydd — rhowch adborth i'n helpu i'w wella

Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i newid i, neu i amrywio trwydded wastraff bwrpasol.

Cyn i chi ddechrau

Mae angen i chi wybod:

Yna, dim ond gwybodaeth newydd neu wybodaeth sydd wedi’i newid sydd angen i chi ei rhoi i ni.

Newidiadau gweinyddol

Mae arnom angen y manylion newydd a chrynodeb byr o’r newidiadau yr ydych am eu gwneud.

Cydgrynhoi trwyddedau

Ysgrifennwch grynodeb sy’n egluro eich cais, mewn iaith annhechnegol gymaint â phosibl.

Rhaid i chi wedyn ddweud wrthym am eich system reoli.

Os oes unrhyw wybodaeth arall wedi newid ers eich cais am drwydded, rhaid i chi ddweud wrthym.

Efallai y bydd arnom angen gwybodaeth ychwanegol felly byddem yn eich cynghori i siarad â ni cyn i chi gyflwyno unrhyw gais i foderneiddio neu gydgrynhoi trwyddedau.

Ychwanegu neu newid gweithgareddau trwydded wastraff bwrpasol

Ysgrifennwch grynodeb sy’n egluro eich cais, mewn iaith annhechnegol gymaint â phosibl.

Yna bydd angen i chi ddweud wrthym am y gweithgareddau gwastraff newydd neu’r rhai sydd wedi newid. Darganfod pa wybodaeth am eich gweithgareddau gwastraff y gall y bydd angen i chi ei rhoi.

Os oes unrhyw wybodaeth arall wedi newid ers eich cais am drwydded, rhaid i chi roi gwybod inni.

Ychwanegu gweithgareddau gwastraff at drwydded sydd heb fod yn drwydded wastraff

Os ydych yn gwneud cais i ychwanegu gosodiadau gwastraff neu weithrediadau gwastraff at drwydded nad oedd yn eu cynnwys o’r blaen, rhaid i chi hefyd roi manylion am y canlynol:

Ardaloedd newydd o dir

Ar gyfer unrhyw ardaloedd newydd o dir, mae’n rhaid i chi ddarparu adroddiad cyflwr safle (H5).

Rhaid i chi hefyd anfon cynllun (neu gynlluniau) safle manwl atom yn dangos y canlynol:

  • lleoliad y safle, yr ardal a gwmpesir gan yr adroddiad cyflwr safle, a lleoliad a natur y gweithgareddau a/neu gyfleusterau gwastraff ar y safle
  • lleoliadau derbynyddion, ffynonellau allyriadau/rhyddhau, a phwyntiau monitro
  • draeniau’r safle
  • arwyneb y safle

 


Graddfeydd amser

Byddwn yn gwneud penderfyniad cyn pen pedwar mis o dderbyn cais cyflawn a'r ffi gywir.

Byddwn yn gwirio eich cais ac yn cadarnhau a yw’n gyflawn ac, os bydd yn gyflawn, fe’i nodir fel hyn: ‘wedi’i wneud yn briodol’. Os na fydd yn gyflawn, efallai y byddwn yn gofyn am ragor o wybodaeth gennych. Nid yw’r amserlen benderfynu o bedwar mis yn dechrau nes byddwn wedi ystyried bod y cais ‘wedi’i wneud yn briodol’.

Diweddarwyd ddiwethaf