Darganfyddwch a oes angen trwydded arnoch i ddihysbyddu cloddfa neu chwarel neu ar gyfer prosiect peirianneg sifil

Efallai y bydd angen trwydded tynnu dŵr arnoch os ydych chi’n bwriadu dihysbyddu (tynnu dŵr daear neu ddŵr wyneb) ar gyfer:

  • gwaith chwarela
  • cloddio
  • prosiectau peirianneg sifil

Mae hyn yn caniatáu gweithio mewn amodau sych o dan lefel y ddaear.

Mae’r gofynion ar gyfer trwydded yn berthnasol i ddihysbyddu gweithredol (pwmpio) a dihysbyddu goddefol (yn defnyddio disgyrchiant).

Mathau o drwyddedau

Dihysbyddu chwarel

I dynnu mwy nag 20 metr ciwbig (20,000 litr) o ddŵr y dydd, bydd angen naill ai:

  • Trwydded trosglwyddo ar gyfer cymryd dŵr o sỳmp chwarel a’i drosglwyddo i bwynt rhyddhau y tu allan i’r ardal chwarelu (e.e. suddfan neu gwrs dŵr)
  • Trwydded tynnu dŵr lawn, sydd yr un fath â thrwydded trosglwyddo, ond yn cynnwys defnydd cyfamserol o’r dŵr cyn ei ollwng (e.e. ar gyfer atal llwch neu olchi mwynau)

Mwyngloddio

I dynnu mwy nag 20 metr ciwbig (20,000 litr) o ddŵr y dydd, bydd angen naill ai:

  • Trwydded trosglwyddo ar gyfer cymryd dŵr o geuffordd gloddfa a’i drosglwyddo i bwynt rhyddhau y tu allan i’r gloddfa (e.e. suddfan neu gwrs dŵr)
  • Trwydded tynnu dŵr lawn, sydd yr un fath â thrwydded trosglwyddo, ond yn cynnwys defnydd cyfamserol o’r dŵr cyn ei ollwng (e.e. ar gyfer atal llwch neu olchi mwynau)

Ni fyddwn yn gofyn am drwydded tynnu dŵr ar gyfer dihysbyddu goddefol o gloddfeydd segur pan ydym yn ystyried ei fod yn peri risg isel i’r amgylchedd. 

Bydd rhai sefyllfaoedd o hyd pan all dihysbyddu goddefol o geuffyrdd cloddfeydd segur achosi niwed amgylcheddol, neu pan ddefnyddir y dŵr at ddiben dilynol – pan fo angen trwydded tynnu dŵr o hyd.

Mae dihysbyddu (goddefol a phwmpio) o gloddfeydd gweithredol a phob math arall o ddihysbyddu goddefol yn parhau i fod yn weithgaredd trwyddedadwy. I wneud cais, ewch i’n tudalen we ‘Gwneud cais am drwydded i dynnu neu gronni dŵr’.

Amodau y mae’n rhaid i chi gydymffurfio â nhw:

  • rhaid i’r dihysbyddu o’r cloddfeydd segur ddigwydd o ganlyniad i ddisgyrchiant
  • mae’r dihysbyddu yn digwydd o gloddfa a adawyd cyn 31 Rhagfyr 2019
  • nid yw tynnu dŵr yn achosi neu nid yw’n debygol o achosi:
    1. (a) difrod i safle cadwraeth neu nodweddion penodol y tu fewn i safle o’r fath, neu arno
    2. (b) difrod i rhywogaethau a warchodir
    3. (c) colled neu ddifrod i unrhyw darddell, ffynnon neu dwll turio a ddefnyddir i gyflenwi dŵr ar gyfer unrhyw ddefnydd cyfreithlon presennol
    4. (iv) rhaid dychwelyd y dŵr i ffynhonnell gyflenwi heb ei ddefnyddio yn y cyfamser

Dihysbyddu ym maes peirianneg sifil

Ar gyfer prosiectau fel twnelu, piblinellau a sylfeini:

I dynnu mwy nag 20 metr ciwbig (20,000 litr) o ddŵr y dydd, bydd angen naill ai:

  • Trwydded trosglwyddo ar gyfer cymryd dŵr yn ystod y gwaith adeiladu a’i drosglwyddo i bwynt rhyddhau (e.e. suddfan neu gwrs dŵr)
  • Trwydded tynnu dŵr lawn, sydd yr un fath â thrwydded trosglwyddo, ond yn cynnwys defnydd cyfamserol o’r dŵr cyn ei ryddhau (e.e. ar gyfer atal llwch)

Nid oes angen trwydded arnoch ar gyfer dihysbyddu yn ystod gwaith adeiladu ar raddfa fach os yw’r canlynol yn wir:

  • Mae am gyfnod o lai na chwe mis
  • Nid yw’n effeithio ar safle cadwraeth
  • Mae dŵr yn cael ei ryddhau i suddfan neu’n union i lawr yr afon o’r gweithfeydd

Gallwch dynnu hyd at 50 metr ciwbig (50,000 litr) o ddŵr y dydd heb drwydded os yw’r man lle rydych yn tynnu dŵr wedi’i leoli llai na:

  • 500 metr o Ardal Cadwraeth Arbennig, Ardal Gwarchodaeth Arbennig, Safle Ramsar, Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Biolegol
  • 250 metr o darddell, ffynnon neu dwll turio

Os yw’r man lle rydych yn tynnu dŵr ymhellach i ffwrdd o’r lleoliadau sensitif hyn, gallwch dynnu hyd at 100 metr ciwbig (100,000 litr) o ddŵr y dydd heb drwydded.

Bydd angen trwydded tynnu dŵr ar gyfer cyfeintiau sy’n fwy na hyn.

Ar gyfer dihysbyddu ym maes peirianneg sifil, cydnabyddir bod dihysbyddu yn aml yn digwydd mewn amgylcheddau trefol sy’n fwy tebygol o gael eu heffeithio gan lygredd.  Felly mae’n bwysig nad ydych chi’n gwaethygu ansawdd y dŵr daear trwy, er enghraifft, dynnu ffrydiau llygryddion o darddleoedd penodol.  

Bydd Cam 12 o’r canllaw ‘Hydrogeological impact appraisal for dewatering abstractions’ yn GOV.UK yn helpu i asesu’r risg hon.

Cyn i chi wneud cais am drwydded tynnu dŵr

  1. Cynhaliwch arfarniad o’r effaith hydroddaearegol – gan ddilyn canllawiau ‘Hydrogeological impact appraisal for dewatering abstractions’ – GOV.UK
  2. Gwnewch gais am gydsyniad i ymchwilio i ffynhonnell dŵr daear

I gael cymorth i benderfynu ar lefel yr asesiad sydd ei hangen, defnyddiwch ein gwasanaeth cyngor cyn ymgeisio (codir tâl amdano)

Trwyddedau eraill sydd eu hangen

Os ydych chi’n rhyddhau’r dŵr i’r amgylchedd lleol, bydd angen trwydded amgylcheddol.   Gall hon fod yn drwydded gweithgaredd dŵr daear os yw’n cael ei ryddhau i’r ddaear neu’n drwydded gweithgaredd dŵr wyneb os yw’n cael ei ollwng i ddŵr wyneb.

Dod o hyd i gyngor cyn ymgeisio am drwyddedau amgylcheddol

Gwneud cais am drwydded

Gwneud cais am drwydded tynnu dŵr neu drosglwyddo dŵr

Cysylltu â ni

Am ragor o wybodaeth neu i drafod a yw eich dihysbyddu yn cyfrif fel dihysbyddu ar raddfa fach, cysylltwch â ni.

Diweddarwyd ddiwethaf