18 Mawrth: Cyfarfod Cyhoeddus Bwrdd CNC
Arsylwi ar-lein
Fel aelod o’r cyhoedd, gallwch ymuno â chyfarfodydd cyhoeddus y Bwrdd gan ddefnyddio Microsoft Teams.
Os hoffech fynychu cyfarfod, neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Ysgrifenyddiaeth y Bwrdd.
Byddwch yn ymwybodol y gall yr amseroedd ar yr agenda newid ar y diwrnod.
Sgyrsiau gyda CNC – Aberystwyth
Fel rhan o gyfarfod y Bwrdd ym mis Mawrth, rydym yn cynnal y sesiwn gyntaf yn ein cyfres o ddigwyddiadau galw heibio newydd, gan roi cyfle i aelodau’r cyhoedd siarad wyneb yn wyneb ag aelodau’r Bwrdd a staff am amrywiaeth o faterion.
- Dyddiad: dydd Mercher 18 Mawrth 2026
- Amser: 2.30pm tan 4.30pm
- Lleoliad: Y Stiwdio Gron, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, SY23 3DE
Mae croeso i unrhyw un fynychu ar unrhyw adeg yn ystod y sesiwn. Mae lleoedd parcio ar gael.
Agenda
| Amser | Eitem |
|---|---|
|
9.30am (5 munud) |
Sesiwn Gyhoeddus Eitem 1. Dechrau’r cyfarfod
Noddwr a chyflwynydd: Neil Sachdev (Cadeirydd) Crynodeb: NODI unrhyw ddatganiadau o fuddiant |
|
9.35am (5 munud) |
Eitem 2. Adolygu’r cofnodion a chofnod y camau gweithredu 2A. Adolygu cofnodion cyfarfod cyhoeddus y Bwrdd a gynhaliwyd ar 12 Chwefror 2B. Adolygu’r cofnod o gamau gweithredu cyhoeddus Noddwr a chyflwynydd: Neil Sachdev (Cadeirydd) Crynodeb: CYMERADWYO cofnodion y cyfarfod blaenorol a’r cofnod o gamau gweithredu |
|
9.40am (10 munud) |
Eitem 3. Yr wybodaeth ddiweddaraf gan y Cadeirydd Noddwr a chyflwynydd: Neil Sachdev (Cadeirydd) Crynodeb: NODI adroddiad y Cadeirydd o’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Bwrdd |
|
9.50am (20 munud) |
Eitem 4. Adroddiad gan y Prif Weithredwr Noddwr a chyflwynydd: Ceri Davies, Prif Weithredwr Crynodeb: NODI’R sefyllfa bresennol a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Bwrdd ar y prif weithgareddau Cyfeirnod y papur: 26-03-B01 |
|
10.10am (20 munud) |
Eitem 5. Adroddiadau o’r pwyllgorau Noddwyr a chyflwynwyr: Cadeiryddion y pwyllgorau
Yn cynnwys Adroddiad Llesiant, Iechyd a Diogelwch – chwarter 3 Cyfeirnod y papur: 26-03-B02
Cyfeirnod y papur: 26-03-B03
Crynodeb: NODI’R wybodaeth ddiweddaraf gan bwyllgorau’r Bwrdd a fforymau CNC, o fewn a thu allan, a’r cyfarfodydd a gynhaliwyd |
|
10.30am (15 munud) |
Eitem 6. Adroddiad perfformiad cyllid Noddwr: Rachael Cunningham, Cyfarwyddwr Gweithredol Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol Cyflwynydd: Rob Bell, Pennaeth Cyllid Crynodeb: CYMERADWYO’R sefyllfa ariannol ddiweddaraf Cyfeirnod y papur: 26-03-B04 |
|
10.45am (20 munud) |
Eitem 7. Dangosfwrdd perfformiad y cynllun busnes – chwarter 3 Noddwr: Ceri Davies, Prif Weithredwr Cyflwynwyr: Arweinwyr yr Amcan Llesiant; Sarah Williams, Pennaeth y Strategaeth Gorfforaethol a’r Swyddfa Rheoli Rhaglenni Crynodeb: CRAFFU ar adroddiad chwarter 3 Cyfeirnod y papur: 26-03-B05 |
|
11.05am (15 munud) |
Egwyl |
|
11.20am (60 munud) |
Eitem 8. Amcan llesiant 4 Noddwr: Rachael Cunningham, Cyfarwyddwr Gweithredol Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol Cyflwynwyr: Sarah Williams, Pennaeth y Strategaeth Gorfforaethol a’r Swyddfa Rheoli Rhaglenni; Fen Turner, Arweinydd Tîm, Dulliau Integredig ar gyfer Adnoddau Naturiol a Newid Hinsawdd; Comisiynydd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Derek), Helen Nelson, Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Crynodeb: TRAFOD amcan llesiant 4 |
|
12.20pm (60 munud) |
Eitem 9. Cyflwyniad lle Noddwr: Lyndsey Rawlinson, Pennaeth Lle a Gwasanaeth Cyflwynydd: Gavin Bown, Pennaeth Gweithrediadau Canolbarth Cymru Crynodeb: TRAFOD y gweithrediadau a’r prosiectau sy’n mynd rhagddynt yng Nghanolbarth Cymru |
|
1.20pm (5 munud) |
Eitem 10. Unrhyw fater arall |
|
1.25pm |
Diwedd y cyfarfod cyhoeddus |
|
1.25pm (60 munud) |
Cinio |
|
2.30pm (120 munud) |
Ymgysylltu â’r cyhoedd: Sgyrsiau â’r Bwrdd a’r Tîm Gweithredol Crynodeb: Gwahoddiad agored i’r cyhoedd a rhanddeiliaid i ymuno â sgyrsiau â’r Bwrdd a’r Tîm Gweithredol. |
Cyfieithu ar y pryd yn ystod y cyfarfod byw ar-lein
Rydym ni’n cynnig gwasanaeth cyfieithu ar y pryd: Wrth ymuno â’r cyfarfod, cliciwch ar y tri dot (‘Mwy’) ger eicon y camera, sgroliwch drwy’r rhestr i glicio ar ‘Cyfieithu ar y Pryd’ a dewiswch naill ai ‘Iaith wreiddiol’ i glywed y Gymraeg neu ‘’Saesneg’ i glywed cyfieithiad o’r Gymraeg.
Gofynion o ran porwr a system
Defnyddiwch fersiwn diweddaraf eich porwr gwe i sicrhau bod popeth yn gweithio’n iawn yn ystod y sesiwn. Rydym yn argymell defnyddio Microsoft Edge neu Google Chrome. Peidiwch â defnyddio Internet Explorer, gan na fydd yn gweithio gyda Microsoft Teams.