Targedu camgysylltiadau cudd yn Llandudno

Mae gofalu am ansawdd y dŵr yn Llandudno yn golygu mynd i’r afael â materion sydd ddim bob amser yn weladwy – a dyna’n union rydym wedi bod yn gweithio arno gyda’n partneriaid.

Dechreuodd y bartneriaeth yn 2024 ar ôl i ddosbarthiad dŵr ymdrochi’r traeth ostwng o Dda i Ddigonol yn 2023. Er bod y dosbarthiad wedi dychwelyd i Dda yn 2025, y nod yw ei wella ymhellach. Gyda’r gwaith cywir, mae gan y traeth y potensial i gyrraedd dosbarthiad Rhagorol.

Felly beth sy’n achosi’r broblem? Mewn llawer o achosion, mae’n dod i lawr i rywbeth nad yw’r rhan fwyaf o bobl byth yn ei weld – camgysylltiadau draenio. Mae hyn yn digwydd pryd bydd dŵr budr o doiledau, sinciau a pheiriannau’r cartref wedi’u cysylltu’n anghywir yn mynd i mewn i’r system dŵr wyneb. Mae draeniau dŵr wyneb wedi’u cynllunio i gludo dŵr glaw yn syth i’r môr, sy’n golygu bod unrhyw ddŵr gwastraff sy’n cael ei gamgysylltu yn mynd heb ei drin a’n gallu effeithio ar ansawdd dŵr y traeth.

Mae’r broblem hyn wedi bod yn effeithio ar Landudno ers peth amser, yn enwedig o amgylch ardal Craig y Don. Er mwyn deall pa mor gyffredin yw’r broblem, mae yna arolygon helaeth drwy deledu cylch cyfyng wedi cymryd lle. Amlygodd yr arolygon hyn nifer o lefydd ble’r oedd dŵr budr yn mynd i mewn i’r rhwydwaith dŵr wyneb, drwy helpu i adeiladu darlun mwy clir o’r gwaith sydd ei angen.

Ers hyn, rydym wedi bod allan gyda partneriaid i ymchwilio ymhellach. Mae ein tîm wedi bod yn ymweld â chartrefi a busnesau i godi tyllau archwilio ac i gynnal profion â llifyn i gadarnhau os yw systemau draenio wedi’u cysylltu’n gywir. Dyma waith ymarferol sydd yn helpu darganfod lle mae’r broblem wir yn eistedd.

Hyd yn hyn, mae o gwmpas 300 o eiddo wedi cael eu gwirio o blith 986 posib. Canfuwyd problemau gyda 14%, gan gynnwys plymio wedi’i gam-gysylltu, gollyngiadau mewn pibellau carthffosiaeth budr, neu rwystrau a allai ganiatáu i ddŵr halogedig gyrraedd yr allfa ac wedyn y môr. Mae’r canlyniadau hyn yn dangos maint y broblem, a pham bod hi’n bwysig i ni fwrw ymlaen a’n gwaith.

Rydym yn gwybod bod mwyafrif y camgysylltiadau hyn yn rhai anfwriadol, ac y gallant ddyddio’n ôl llawer o flynyddoedd. Yn aml, nid yw perchnogion yr eiddo yn ymwybodol bod problem o gwbl. Dyna pam mae cefnogaeth trigolion a busnesau lleol mor bwysig. Drwy ganiatáu mynediad ar gyfer archwiliadau a thrafod â’n timau, rydych yn chwarae rhan hanfodol drwy yn ein helpu i ganfod a datrys y problemau cudd hyn.

Nid yw gwella ansawdd y dŵr yn Llandudno yn ymwneud yn unig â chyrraedd safonau, mae’n ymwneud â diogelu traeth sy’n cael ei werthfawrogi gan y gymuned, sy’n cefnogi bywyd morol, sy’n cael ei fwynhau gan ymwelwyr, ac sy’n hanfodol i’r economi leol.

Rydym hefyd yn awyddus i godi ymwybyddiaeth o sut y gall camau syml wneud gwahaniaeth. Gall sicrhau bod offer newydd ac unrhyw waith phlymio yn cael eu gosod yn gywir helpu i atal camgysylltiadau yn y dyfodol. Dyma gam bach a all gael effaith fawr o ran diogelu ein harfordir.

Archwilio mwy

Yn yr adran hon hefyd

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru