Cyfoeth Naturiol Cymru yn gwahodd adborth ar benderfyniad drafft i ganiatáu amrywiad o drwydded tirlenwi Withyhedge
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi dod i benderfyniad arfaethedig i gymeradwyo cais gweithredwr Safleoedd Tirlenwi Withyhedge i wneud newidiadau i'w drwydded amgylcheddol ac mae'n gofyn am adborth gan gymunedau.
Yn dilyn asesiad manwl, mae CNC yn bwriadu caniatáu'r cais amrywio trwydded gan Resources Management UK Ltd i amrywio'r drwydded amgylcheddol sy'n rheoli sut mae’r safle yn Sir Benfro yn cael ei reoli (rhif y drwydded EPR/MP3330WP, cyfeirnod y cais PAN - 025929).
Mae CNC bellach yn gofyn am farn ar y penderfyniad drafft drwy ymgynghoriad cyhoeddus pedair wythnos (a fydd yn cau ddydd Iau, 26 Mawrth). Bydd yr holl ymatebion perthnasol yn cael eu hystyried cyn gwneud penderfyniad terfynol.
Mae cais y gweithredwr yn cynnig sawl newid i'r drwydded bresennol, gan gynnwys:
- Newidiadau i siâp y tir unwaith y caiff y safle tirlenwi ei gapio
- Rhaglen rheoli a monitro wedi'i haddasu ar gyfer dŵr daear, dŵr wyneb a thrwytholch
- Ychwanegu 50,000 tunnell o bridd gwastraff ar gyfer gwaith adfer o dan weithgaredd Adfer Gwastraff newydd
- Cydgrynhoi a moderneiddio'r drwydded, gan gynnwys adolygiad o'r Amodau Gwella a'r Amodau Cyn-weithredol presennol
Mae CNC o'r farn bod y newidiadau arfaethedig yn dderbyniol ac yn debygol o helpu'r safle i weithredu heb niweidio'r amgylchedd na chymunedau lleol.
Cyn gwneud penderfyniad terfynol, mae adborth yn cael ei gasglu gan drigolion ar faterion fel allyriadau, effeithiau iechyd ac amgylcheddol posibl, a sut mae gwastraff yn cael ei reoli ar y safle.
Fodd bynnag, ni all CNC ystyried materion sy'n cael eu trin gan adran gynllunio'r Awdurdod Lleol gan gynnwys lleoliad y safle, traffig, effaith weledol, defnydd tir, mynediad ac oriau gweithredu.
Dywedodd Huwel Manley, Pennaeth Gweithrediadau’r De-orllewin ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru:
“Rydym yn gwybod bod gan y gymuned ddiddordeb ers tro yn yr hyn a fydd yn digwydd yn Safle Tirlenwi Withyhedge, ac rydym yn cymryd y cyfrifoldeb hwnnw o ddifrif.
“O ystyried hanes y safle a'r pryderon y mae pobl wedi'u codi o'r blaen, fe wnaethon ni addo defnyddio dull gweithredu sy'n mynd ymhellach na'n proses ymgynghori arferol ar gyfer amrywio trwydded.
“Mae’r ffaith ein bod yn bwriadu caniatáu’r amrywiad hwn yn golygu bod ein harbenigwyr yn fodlon y gall y gweithredwr fodloni'r safonau gofynnol, ond cyn i ni wneud unrhyw benderfyniad terfynol rydym am glywed gan y bobl sy'n byw ac yn gweithio gerllaw. Rydym yn annog unrhyw un sydd â diddordeb yn y safle i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad.”
Bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben ddydd Iau 26 Mawrth, 2026.
Mae dogfennau drafft a manylion ar sut i gyflwyno sylwadau ar gael ar Ganolfan Ymgynghori ac Ymgysylltu CNC. https://bit.ly/PenderfyniadDrafftWithyhedge