Rhaglen adfer coedwigoedd a ddifrodwyd gan Storm Darragh yn symud i'r cam nesaf

Storm Darragh - Coedwig Cwm Rhaeadr

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn symud i gam nesaf ei rhaglen hirdymor i gynaeafu ac ailblannu ardaloedd o goedwigoedd ar draws de-orllewin Cymru yr effeithiwyd arnynt gan Storm Darragh ym mis Rhagfyr 2024.

Cafodd mwy na 650 hectar o goedwig, sy’n cyfateb i 900 o gaeau pêl-droed, eu difrodi gan wyntoedd 90 mya y storm, a disgwylir i’r adferiad gymryd tair i bum mlynedd. Ar draws Cymru, roedd y difrod yn cwmpasu 2,500 hectar.

Mae tua 200 hectar o goed sydd wedi cwympo eisoes wedi'u adio i raglen cynaeafu a gwerthu pren CNC, fel y gellir defnyddio'r pren yn hytrach na'i wastraffu. Mae cynlluniau bellach ar waith ar gyfer y 450 hectar sy'n weddill, gyda'r gwaith yn cael ei reoli'n ofalus fel nad yw busnesau pren lleol yn cael eu llethu.

Mae pob safle cynaeafu yn cael ei asesu am fywyd gwyllt, nodweddion treftadaeth a pheryglon cyn i’r gwaith ddechrau. Gall tymhorau bridio, tywydd gwael neu argaeledd contractwyr ohirio gweithrediadau, ond diogelwch a chynaliadwyedd yw blaenoriaethau pennaf CNC o hyd.

Mae’r adferiad parhaus yn cael ei arwain gan dîm bach ond ymroddedig. Gyda’i gilydd, maen nhw’n rheoli 10,900 hectar o goedwig ar draws y de-orllewin.

Dywedodd Ellen Humphrey, Uwch-swyddog Gweithrediadau Coedwigaeth CNC:

“Mae maint y difrod wedi bod yn drychinebus i ni yma yn y de-orllewin. Fel tîm, rydym yn wynebu tasg enfawr gan fod nifer y coed a ddifrodwyd gan y gwynt tua phedair gwaith ein rhaglen gynaeafu flynyddol ac mae pob storm newydd yn achosi mwy o ddifrod gan y gwynt.
“Rydym yn gwybod bod y gwynt yn cyfyngu ar y gallu i ddefnyddio coedwigoedd at ddibenion hamdden ac mae hyn yn effeithio ar gymunedau lleol ac ymwelwyr. Yn anffodus, oherwydd graddfa’r difrod, bydd yn cymryd blynyddoedd i glirio’r cyfan.
“Rydym yn blaenoriaethu safleoedd hamdden a choed a ddifrodwyd gan y gwynt ger eiddo, lle gallwn.” Byddwch yn amyneddgar wrth i ni fwrw ymlaen gyda hyn.”

Fe wnaeth Storm Darragh ddiwreiddio a thorri coed ar draws ardaloedd Brechfa, Caio a Chwm Rhaeadr.

Yn syth ar ôl y storm, cliriodd tîm rheoli tir CNC 35 cilometr o ffyrdd a llwybrau oedd wedi’u blocio yn y coedwigoedd, atgyweiriodd ffensys a oedd wedi’u difrodi gyda thirfeddianwyr, a mapiodd ardaloedd â choed a ddifrodwyd gan y gwynt i baratoi ar gyfer cynaeafu.

Dywedodd Phil Morgan, Arweinydd Tîm Rheoli Tir CNC ar gyfer y de-orllewin:

“Ochr yn ochr â chynaeafu, rydym yn canolbwyntio ar gadw pobl yn ddiogel ac amddiffyn y safleoedd arbennig sydd yn ein gofal. Mae hynny’n golygu gwirio pob ardal am fywyd gwyllt, nodweddion treftadaeth a pheryglon cyn i’r gwaith ddechrau.
“Rydym yn deall yr aflonyddwch y mae’r storm hon wedi’i achosi, ac rydym yn ddiolchgar i’r cyhoedd am fod yn amyneddgar gyda ni wrth inni gydbwyso adferiad â’n cyfrifoldebau dyddiol ar draws yr ystad goetir ehangach.”

Er mwyn diweddaru cymunedau ac ymwelwyr, cynhelir dwy sesiwn galw heibio lle gall pobl gwrdd â thîm CNC, gofyn cwestiynau, gweld mapiau a gweld drostynt eu hunain graddfa'r rhaglen adfer sydd ar waith i glirio'r difrod.

Manylion y sesiwn galw heibio:

  • Dydd Iau, 5 Mawrth, 1-5pm, yn Neuadd Pumsaint, SA19 8US, yn cwmpasu coedwigoedd Caio a Chwm Rhaeadr
  • Dydd Gwener, 6 Mawrth, 1-5pm, yn Neuadd Brechfa, SA32 7RA, yn cwmpasu Coedwig Brechfa

Am ragor o wybodaeth am y rhaglen adfer a mapiau o’r ardaloedd yr effeithiwyd arnynt, ewch i: https://bit.ly/AdferiadYnSgilStormDarragh